CNC yn erlyn ffermwyr ar ôl i fethiant trychinebus mewn storfa slyri lygru afon yng Ngheredigion

Stora slyri wedi metha'n llwyr ar Fferm Glanperis

Mae dau ffermwr o Geredigion wedi pledio'n euog i lygru afon yng Ngheredigion yn dilyn methiant yn eu storfa slyri a arweiniodd ar ollyngiad o oddeutu 75,000 galwyn o slyri i’r dŵr.

Fe wnaeth y achos , a effeithiodd yr Afon Peris, sy’n llifo trwy pentref Llannon, ddigwydd ym mis Mehefin 2020 a cafodd ei ymchwilio a'i erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Achos y digwyddiad oedd methiant trychinebus storfa slyri 40 oed nad oedd erioed wedi cael gwaith cynnal a chadw ac asesu ffurfiol.

Plediodd Dewi a Barry Jones o Fferm Glanperis yn euog i gyhuddiadau llygredd dŵr o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975.

Cynhaliwyd gwrandawiad yr achos yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 14 Rhagfyr 2021.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd Ceredigion CNC,
"Cafodd y digwyddiad hwn effaith ddinistriol ar fywyd dyfrol yn Afon Peris. Roedd asesu nifer y pysgod marw yn aml yn amhosibl oherwydd bod maint y llygredd wedi gwneud y dŵr yn rhy drwchus i weld trwyddo. Rwy’n falch ein bod wedi gallu ymchwilio'n drylwyr a dod â’r rhai sy'n gyfrifol gerbron y llys.
"Roedd modd rhagweld ac osgoi y digwyddiad hwn. Ni ddylai byth fod wedi digwydd. Mae'n dangos pwysigrwydd cynnal a chadw storfeydd slyri yn rheolaidd ac yn briodol."

Gan ddilyn canllawiau dedfrydu, rhoddodd Llys Ynadon Aberystwyth ddirwy o gyfanswm o £1,332 i Barry Jones a gorfodwyd iddo dalu gordal ddioddefwyr o £133. Cafodd Dewi Jones ddirwy o gyfanswm o £1,136 a gorfodwyd iddo dalu gordal ddioddefwyr o £113.

Cafodd y ddau ddiffynnydd orchymyn i dalu costau llawn CNC mewn perthynas â’r erlyniad, sef swm o £12,467.90 i'w dalu rhyngddynt yn gyfartal.