CNC yn rhyddhau arolwg arloesol sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd y môr a'r arfordir i bobl yng Nghymru

Family on beach

Mae pobl yng Nghymru yn credu bod ymweld â'r môr a'r arfordir yn cefnogi eu lles meddyliol a chorfforol, yn ôl canfyddiadau arolwg sy'n canolbwyntio ar berthynas pobl â'n cefnforoedd a’u dealltwriaeth ohonynt.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gweithio ochr yn ochr â Defra, Llywodraeth yr Alban a’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cefnforoedd i ddatblygu a dosbarthu arolwg Llythrennedd Cefnforol, sy’n canolbwyntio ar fesur ymwybyddiaeth, agwedd, gwybodaeth ac ymddygiad y cyhoedd mewn perthynas ag amgylchedd morol Cymru a'r pwysau sy'n ei wynebu.

Gellir disgrifio llythrennedd cefnforol fel dealltwriaeth o’n heffaith unigol a chyfunol ar y cefnforoedd a'u heffaith hwythau ar ein bywydau a'n lles ni.

Mae canfyddiadau ail rownd yr arolwg yn cael eu cyhoeddi fel rhan o fenter 10 mlynedd i ailgysylltu pobl â'u hamgylcheddau morol ac arfordirol.

Yn ôl canlyniadau diweddaraf yr arolwg:

  • Mae tua 80% o bobl Cymru yn credu bod ymweld â’r amgylchedd morol yn dda ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol (84% a 78% yn y drefn honno).
  • Roedd bron i hanner y bobl a holwyd yn credu nad oedd eu ffordd o fyw’n cael unrhyw effaith ar yr amgylchedd morol
  • Dywedodd dros 80% o'r ymatebwyr fod amddiffyn yr amgylchedd morol yn bwysig iawn neu'n bwysig iddyn nhw’n bersonol (83%)

Y nod yw cynnal yr arolwg yn rheolaidd fel y gellir creu darlun o sut mae llythrennedd cefnforol yn newid dros amser.

Meddai Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaethau Morol CNC:

Er bod llawer o'r môr allan o'r golwg, mae'n cael effaith fawr ar ein bywydau mewn gwirionedd. Mae'n rhoi cyfleoedd o ran ynni adnewyddadwy a hamdden i ni, mae'n storio carbon ac yn darparu bwyd yn ogystal â chefnogi amrywiaeth eang o fioamrywiaeth. Ond mae hefyd yn wynebu rhai heriau anodd iawn fel llygredd a chynnydd yn lefelau'r môr, sy’n gwaethygu yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Mae canlyniadau'r arolwg hwn yn dangos bod pobl yn gwerthfawrogi'r buddion rydyn ni'n eu cael o'r amgylchedd morol ac yn credu bod ei amddiffyn yn bwysig. Ond eto ar yr un pryd, mae llawer o bobl yn teimlo nad yw'r ffordd maen nhw'n byw eu bywydau yn cael effaith ar ein dyfroedd.
Mae deall sut mae pobl yn gweld ac yn gwerthfawrogi'r moroedd o amgylch Cymru’n hanfodol i'n galluogi i wella sut rydym yn eu rheoli, o ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth bwysig i fanteisio ar y buddion ehangach mae arfordiroedd a moroedd gwydn yn eu rhoi i'n hiechyd a'n lles.

Mae CNC yn gweithio ar y cyd fel rhan o Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru i ddatblygu llythrennedd cefnforol yng Nghymru.

Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn yr arolygon cychwynnol hyn yn hanfodol wrth lywio datblygiad gweledigaeth a strategaeth Cymru ar gyfer Llythrennedd Cefnforol ac mae'n rhan o raglen waith ehangach i sicrhau ecosystem forol ac arfordirol wydn sy'n rhoi budd i bobl nawr ac yn y dyfodol.

Meddai Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru:

Yng Nghymru, mae gennym arfordir prydferth ac amrywiol, gyda 60% o boblogaeth Cymru’n byw ar yr arfordir neu'n agos ato.
Mae meithrin llythrennedd cefnforol yn allweddol i gefnogi cysylltiad iach rhwng pobl a'r môr. Mae'r arolwg hwn yn darparu data sylfaenol sy'n gallu llywio camau i gryfhau'r buddion o ran iechyd a lles sy’n deillio o amgylcheddau morol ac arfordirol Cymru.
Bydd y canlyniadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at waith Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru sy'n amlygu llythrennedd cefnforol fel blaenoriaeth i wella sut rydym yn rheoli a defnyddio ein harfordiroedd a'n moroedd yng Nghymru.

Darllenwch Adroddiad y Prif Ganfyddiadau am Lythrennedd y Môr yng Nghymru