Beiciau modur yn peryglu pobl a bywyd gwyllt yn Ynyslas

Olion ar y tywod gan feiciau modur oddi ar y ffordd

Mae hyn yn dilyn yr achos diweddaraf o reidio beiciau modur yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi gan fygwth ymwelwyr, bywyd gwyllt a’u cynefinoedd.

Cafodd twyni tywod, gwastadeddau llaid a morfa heli yn ardal Ynyslas ac aber Afon Dyfi, ychydig filltiroedd i'r gogledd o Aberystwyth, eu creithio gan draciau beic modur ddechrau mis Rhagfyr.

Mae yn erbyn y gyfraith i reidio beiciau modur ar dir sy'n eiddo cyhoeddus heb ganiatâd.

Mae gan yr Heddlu y pŵer i roi rhybuddion o dan Adran 59 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a gallant atafaelu beiciau am droseddau niferus neu am reidio heb yswiriant.

Mae twyni Ynyslas – sy’n dirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol – yn gartref i gyfoeth o degeirianau, mwsoglau, llysiau'r afu, ffyngau, pryfed a phryfed cop. Mae llawer o'r rhywogaethau hyn yn rhai prin.

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber Afon Dyfi yn gartref i nifer fawr o adar y dŵr sy'n gaeafu yno - fel y chwiwell, a rhydyddion gan gynnwys y gylfinir a'r cwtiad aur.

Mae CNC yn rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ar gyfer cadwraeth y twyni a’r aber, sy’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dyfi ac Ardal Cadwraeth Arbennig ‘Pen Llŷn a’r Sarnau’.

Dywedodd Justin Lyons, Uwch Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Pan mae reidio anghyfreithlon oddi ar y ffordd a gweithgareddau gwrthgymdeithasol yn digwydd ar ein safleoedd mae’n peryglu pobl a natur.
“Mae reidio drwy’r twyni tywod a’r aber yn amharu ar rywogaethau prin a gwarchodedig, fel adar, madfallod y tywod sy’n gaeafgysgu, mwsoglau prin a glaswelltir sy’n gyforiog o fywyd gwyllt.
“Mae’n debyg bod y gweithgaredd diweddaraf wedi tarfu ar adar oedd yn gaeafu. Pe bai hyn yn digwydd yn ystod tymor nythu adar, byddent wedi reidio drwy'r lloc magu cwtiaid torchog, gan aflonyddu ar yr adar hyn sy'n nythu ar y ddaear ac, o bosibl, reidio dros eu nythod cuddliw.
“Efallai nad yw pobl sy’n reidio oddi ar y ffordd hyd yn oed yn ymwybodol o ganlyniadau dinistriol eu gweithredoedd o ran y cynefinoedd hyn sy’n bwysig i rai o’n rhywogaethau prinnaf.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gweld pobol yn reidio’n anghyfreithlon ar ein safleoedd i roi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101.”

Dywedodd Arolygydd Gareth Earp o Heddlu Dyfed-Powys:

“Mae defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau oddi ar y ffordd nid yn unig yn erbyn y gyfraith ond mae hefyd yn hynod beryglus.
“Efallai bod reidio oddi ar y ffordd yn cael ei weld fel hwyl ddiniwed gan rai, ond fe all gael mwy o effaith ar gymunedau lleol a’r amgylchedd na dim ond sŵn sy’n ychydig o niwsans.
“Rydym am gynyddu ymwybyddiaeth o’r effaith negyddol y gall y gweithgaredd hwn ei chael ac rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hyn er budd diogelwch pawb.
"Mae gennym nawr dîm o feicwyr modur oddi ar y ffordd a byddwn yn mynd ati i dargedu'r holl fannau problemus rheolaidd gan gynnwys Ynyslas."

I roi gwybod am reidio neu yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd ffoniwch yr heddlu ar 101.