Gofyn i drigolion Sir Ddinbych a Sir y Fflint am eu barn ar gynllun 10 mlynedd i gynnal coedwigoedd a reolir gan CNC

Mae pobl sy'n ymweld â, neu'n defnyddio coedwigoedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn rhannau o Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn cael eu gofyn am eu barn ar gynllun i reoli coedwigaeth leol.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhoi cyfle i drigolion ddylanwadu ar reolaeth y coedwigoedd yn y dyfodol am y 10 mlynedd nesaf a thu hwnt.

Mae'r cynllun yn cynnwys saith bloc o goedwig gydag arwynebedd o 749 hectar gyda’r mwyafrif ohonynt o fewn 4km i ffordd yr A494. Coed Moel Famau – sy’n 428 hectar - yw'r bloc mwyaf, ac mae’n gorwedd ar asgwrn cefn ucheldir Bryniau Clwyd tua hanner ffordd rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug.

Byddai cynllun Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweld llarwydd yn cael eu cwympo a cynnydd mewn amrywiaeth rhywogaethau coed i wneud y coedwigoedd yn fwy gwydn i blâu ac afiechydon. Nod arall y cynllun yw cynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchu pren, a chynyddu’r maint o ardaloedd coetir llydanddail i gefnogi bioamrywiaeth leol.

Bydd swyddogion CNC yn cynnal sesiwn galw heibio i drigolion ofyn cwestiynau am y cynllun yn Neuadd Bentref Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 27 Mawrth rhwng 3pm a 7:15pm.

Dywedodd Aiden Cooke, Uwch Swyddog Gweithrediadau Coedwig CNC:

"Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y coedwigoedd rydyn ni'n eu rheoli yn lefydd i bobl chwarae, ymlacio ac i wneud bywoliaeth ynddyn nhw. Rydym am gyflawni hynny tra'n gwarchod bywyd gwyllt a'r amgylchedd lleol.

"Rydym am i bobl sy'n treulio amser yn y coedwigoedd yma roi eu barn ar ein cynllun i sicrhau ei fod o fudd i'r ardal. Rydym yn annog pobl i fynychu'r sesiwn galw heibio os hoffen nhw drafod y cynlluniau cyn ymateb i'r ymgynghoriad."

Mae modd darllen ac ymateb i'r cynlluniau trwy ymweld â gwefan ymgynghori CNC ynglŷn â: https://bit.ly/CACRhuthun.

Neu, gall pobl ffonio 0300 065 3000 a gofyn am siarad gyda swyddogion CNC sydd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad. Oddi yno byddant yn gallu anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall pobl sydd am anfon adborth drwy'r post wneud hynny trwy: Cynllun Adnoddau Coedwig Rhuthun, Cyfoeth Naturiol Cymru, Clawdd Newydd, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2NL.

Bydd angen dychwelyd yr adborth a'r cwestiwn erbyn 14 Ebrill 2023 fan bellaf.