Preswylwyr Blaenau’r Cymoedd yn cael gwahoddiad i fynegi eu barn ar gynlluniau rheoli coedwig

Canopi coed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog preswylwyr sy’n mwynhau defnyddio rhai o goetiroedd mwyaf poblogaidd Blaenau’r Cymoedd i fynegi eu barn ar gynlluniau i’w rheoli yn y dyfodol.

Mae CNC – sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynlluniau rheoli 25-mlynedd ar gyfer y coetir ym Mlaenau’r Cymoedd, sy’n cynnwys Blaenafon, Coed Cillonydd a Hafodyrynys.

Mae’r cynlluniau yn amlinellu’r amcanion a’r cynigion tymor hir ar gyfer rheoli’r coetiroedd a’r coed sydd ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar gyfer sut y bydd CNC yn parhau i fynd i’r afael â’r llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Mae CNC hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio er mwyn i bobl weld y cynlluniau ar gyfer y coetiroedd yn ardal Blaenau’r Cymoedd drostynt eu hunain a gallu siarad â chynllunwyr y goedwig.

Dydd Gwener 25 Tachwedd 2:00 - 6:00pm. 

Aberbeeg Community Centre, Pant Ddu Road, Aberbeeg, NP13 2BP.

Meddai Richard Phipps, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwig, Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i’r amgylchedd naturiol ac i’n cymunedau. Maen nhw’n ein helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, maen nhw’n darparu pren o safon y gallwn ei ddefnyddio, ac maen nhw’n lleoedd ardderchog y gall pob un ohonom dreulio amser ynddynt a’u mwynhau.
Rydym yn gwybod gymaint mae ein coetiroedd yn cael eu gwerthfawrogi, a hoffem sicrhau fod y bobl sy’n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am y ffordd y byddant yn cael eu rheoli yn y dyfodol.
Ymunwch â ni yn un o’n digwyddiadau cymunedol neu cwblhewch ein harolwg ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau fod yr ardaloedd hyn yn gallu dal ati i fodloni anghenion y cymunedau lleol am flynyddoedd eto i ddod.

Gallwch ddarllen y cynlluniau hyn mewn manylder a gadael adborth drwy ddefnyddio ymgynghoriadau ar-lein CNC.

Cynllun Adnoddau Coedwig Blaenau’r Cymoedd - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Mae’r ymgynghoriadau yn agored tan 5 Rhagfyr 2022.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan ond nad yw’n gallu gweld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu e-bostio frp@naturalresources.wales a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP