Algâu tymhorol a welir ar hyd arfordir Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi sicrwydd i bobl leol ac ymwelwyr bod traethau Cymru yn lân ac yn iach, er gwaethaf rhai ymddangosiadau o sylweddau yn y dŵr ac ar rai o draethau Cymru.

Mae swyddogion CNC wedi derbyn ambell i adroddiad gan bobol sy’n poeni am yr hyn maen nhw’n ei gredu yw carthion neu slyri ar draethau neu yn y dŵr o amgylch arfordir Cymru.

Mae'r rhain wedi'u harchwilio a chanfuwyd eu bod wedi'u hachosi gan algâu bach, sy'n digwydd yn naturiol, sy'n ffynnu mewn tywydd cynnes.

Mae'r algâu yn aml yn cael ei gamgymryd am garthffosiaeth neu lygredd arall oherwydd ei olwg nodweddiadol frown, ewynnog a'i arogl sydd ychydig fel gwymon.

Wrth i'r algâu farw, gall llysnafedd ddechrau ffurfio ar hyd llinell y llanw. Er y gall y llysnafeddion hyn fod yn annymunol i edrych arnynt a gallant arogli'n ddrwg, nid ydynt yn berygl iechyd i nofwyr neu gŵn.

Dywedodd Fiona Hourahine, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gennym ni draethau gwych yng Nghymru ac ansawdd dŵr gwirioneddol wych gyda mwy nag 80% o ddyfroedd ymdrochi yn cyrraedd y safonau uchaf o ran glanweithdra.
“Yr adeg yma o’r flwyddyn, rydyn ni’n cael rhai adroddiadau o lygredd posib ar yr arfordir. Rydym yn trin pob un o ddifrif ac yn asesu pob adroddiad.
“Er ei olwg annymunol, mae'r rhan fwyaf o'r adroddiadau y byddwn ni'n eu derbyn yn troi allan i fod am yr algâu cyffredin hwn. 
“Mae tywydd cynnes yn darparu’r amodau i’r algâu ddigwydd a bydd yn gwasgaru’n naturiol dros amser.”

Gall pobl adrodd unrhyw achos a welwyd ar linell gymorth digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru: 0300 065 3000  neu ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad.