Ceisio barn am sut mae coedwigoedd yng nghwm Taf Isaf a’r Fro yn cael eu rheoli

Cerdded teulu

Gwahoddir pobl sy'n mwynhau defnyddio rhai o'r coetiroedd mwyaf poblogaidd ar draws Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd i ddweud eu roi eu barn ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu eu rheoli yn y dyfodol.

Mae CNC – sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 25 mlynedd ar gyfer coetiroedd ardal Cwm Taf Isaf a’r Fro, sy'n gorchuddio tua 877 hectar.

Y coetiroedd yw:

  • Fforest Fawr – i'r gogledd o Gaerdydd ger Tongwynlais.
  • Ty'n y Coed – i'r gogledd o Greigiau, gogledd-orllewin Caerdydd.
  • Coetir y Barri – i'r gogledd o'r Barri ym Mro Morgannwg.
  • Hensol – i'r dwyrain o Llanddunwyd ym Mro Morgannwg.
  • Tair Onen - i'r de o Llanddunwyd ym Mro Morgannwg.
  • Coed y Gedrys – mae rhan ogleddol o'r coetir i'r gorllewin o Nantgarw yn Rhondda Cynon Taf. Mae rhan ddeheuol y goetir ger Gwaelod y Garth ar gyrion Caerdydd.
  • Llantrisant (Garthmaelwg) – i'r gorllewin o Lantrisant yn Rhondda Cynon Taf.
  • Trecastell – i'r gorllewin o Donysguboriau yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r coetiroedd yn cynnig porth i bobl grwydro'r awyr agored a mwynhau natur, a thafliad carreg oddi wrth yr ardaloedd mwyaf poblog yn y wlad.

Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar sut y bydd CNC yn parhau i fynd i'r afael â'r coed llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Gall pobl ddarllen y cynlluniau'n fanwl a gadael adborth drwy ymgynghoriad ar-lein CNC.

Mae CNC hefyd yn trefnu sesiynau galw heibio cyhoeddus i bobl leol weld y cynlluniau wyneb yn wyneb a siarad gyda chynllunwyr coedwig.

  • 27 Hydref 2022, 3:15pm – 6:45pm yn Neuadd Bentref Pentyrch, CF15 9QR
  • 9 Tachwedd 2022, 2:00pm – 6:00pm yn Neuadd Bentref Tylagarw, CF72 9ET

Meddai Richard Phipps, Uwch Swyddog – Cynllunio Coedwig, ar gyfer CNC:

"Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i'n ambylchedd naturiol ac i'n cymunedau. Maent yn helpu ni yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, a lleoedd gwych i ni i gyd dreulio amser ac i fwynhau.
"Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut y dylent cael eu rheoli yn y dyfodol.
"Ymunwch â ni yn un o'n digwyddiadau cymunedol neu cwblhewch ein harolwg ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau y gall yr ardaloedd hyn barhau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 14 Tachwedd 2022.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond na all weld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu ebostio frp@cyfoethnaturiol.cymru i ofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy'n dymuno anfon adborth drwy'r post ei anfon at:

Cynllun Adnoddau Coedwig Taf Isaf a’r Fro

Cyfoeth Naturiol Cymru

29 Heol Casnewydd

Caerdydd

CF24 0TP