Atgoffa ymwelwyr i gadw cŵn ar dennyn yn y Warchodfa Natur Genedlaethol

Gofynnir i berchnogion cŵn ddilyn cyfyngiadau tymhorol wrth ymweld â safle cadwraeth natur poblogaidd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i ymwelwyr â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn gadw at lwybrau a chadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn mewn ardaloedd sensitif er mwyn helpu i warchod bywyd gwyllt y safle.

Mae Niwbwrch, safle o arwyddocâd rhyngwladol o ran bioamrywiaeth, yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau megis tegeirianau prin, amffibiaid, ymlusgiaid, mamaliaid bach, infertebratau yn ogystal â rhywogaethau adar.

Mae cŵn nad ydynt dan reolaeth yn gallu aflonyddu ar adar sy’n nythu ar y ddaear, a gall hyn wneud iddynt adael wyau a chywion.

Gofynnir i berchnogion anifeiliaid anwes gadw at lwybrau a thraciau ffurfiol gydag arwyddbyst ledled y safle a chadw cŵn dan reolaeth bob amser.

Mae cyfyngiadau tymhorol ychwanegol ar waith sy'n golygu na chaniateir cŵn ar ran o draeth y Faner Las rhwng prif faes parcio'r traeth ac Ynys Llanddwyn rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr ac ar lwybrau ffurfiol ar bob ardal twyni agored ac Ynys Llanddwyn rhwng 1 Ebrill a 1 Medi.

Bydd staff yn gofyn i ymwelwyr nad ydynt yn cadw eu cŵn ar dennyn mewn ardaloedd sensitif i wneud hynny.

Dywedodd Richard Berry, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC yn Niwbwrch:

“Mae'r mwyafrif helaeth o'n hymwelwyr yn parchu'r amgylchedd arbennig yma yn Niwbwrch.
“Rydyn ni eisiau diolch iddyn nhw am fod yn gyfrifol a'u hatgoffa o'r cyfyngiadau tymhorol sydd ar waith o 1 Ebrill i warchod bywyd gwyllt.
“Mae ecosystem fregus yn Niwbwrch ac mae CNC yn gweithio'n galed i ddiogelu'r fioamrywiaeth a'r bywyd gwyllt sydd ynddi.
“Mae'n anochel bod cŵn nad ydynt o dan reolaeth ac sy'n crwydro oddi ar lwybrau ffurfiol trwy gynefin nythu yn tarfu ar adar sy'n nythu ac yn effeithio'n sylweddol ar amrywiaeth a niferoedd.
“Er bod anifeiliaid anwes ein teulu yn annwyl i ni, mae adar yn gweld ci fel ysglyfaethwr ac mae aflonyddwch yn arwain at adael nythod, colli wyau a chywion a gostyngiad mewn tiriogaethau nythu. Gall cŵn hefyd effeithio ar rywogaethau eraill fel mamaliaid bach.
“Gofynnwn i bobl ein helpu i warchod y safle a'i drigolion drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i’r rhai sy’n ymweld â chefn gwlad (naturalresources.wales)