Stormydd yn debygol wrth i Storm Ciara daro

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl sy'n byw ger arfordir Cymru i fod yn barod ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd y penwythnos hwn wrth i storm Ciara gyrraedd y DU.

Mae'r rhagolygon cyfredol yn nodi y gallai gwyntoedd arwain at ymchwydd llanw ac achosi i donnau mawr daro'r arfordir.

 

Ynghyd â glaw trwm sy'n debygol o achosi i afonydd godi'n gyflym, mae CNC yn disgwyl cyhoeddi rhybuddion llifogydd ‘byddwch yn barod’ ac o bosibl rhybuddion ledled y wlad o brynhawn Sadwrn hyd at ddydd Llun.

 

Gan y bydd y tywydd gwaethaf yn cael ei ddisgwyl ar ddydd Sul, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori pobl i gadw pellter diogel oddi wrth lwybrau arfordirol, promenadau, pierau a glannau afonydd.

 

Mae swyddogion ymateb brys CNC eisoes yn gwneud paratoadau cyn y storm, gan wirio bod amddiffynfeydd yn gweithio'n iawn a sicrhau bod unrhyw gridiau a sgriniau draenio yn glir, er mwyn lleihau'r risg i bobl a'u cartrefi.

 

Dywedodd Richard Preece, Cyfoeth Naturiol Cymru: 

"Mae ein timau yn cadw llygad barcud ar y rhagolygon a’r lefelau a ragwelir ar gyfer afonydd a’r môr y penwythnos hwn, ac os bydd angen, byddant yn rhoi rhybuddion llifogydd i eiddo cofrestredig yn yr ardaloedd hynny sydd mewn perygl. 
"Rydym eisoes wedi bod yn siarad â'n partneriaid o'r gwasanaethau brys a'r holl awdurdodau lleol y gallai hyn effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu rhoi eu cynlluniau ar waith. 
"Rydym hefyd yn rhybuddio pobl i osgoi ymweld â glan y môr oherwydd y perygl y gallent gael eu hysgubo i ffwrdd gan donnau mawr neu eu taro gan y tonnau a malurion sy’n cael eu chwythu gan y gwynt. 
"Gall dŵr llifogydd fod yn hynod o beryglus hefyd, ac ni ddylai pobl geisio cerdded na gyrru drwyddo oni bai eu bod yn cael eu cyfarwyddo gan y gwasanaethau brys."  

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

 

Mae gwybodaeth a diweddariadau ar gael hefyd drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. Gall pobl hefyd gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd am ddim naill ai drwy ffonio rhif Floodline neu ar wefan CNC.