Cwblhau adolygiad o safleoedd llosgi gwastraff

Mae trwyddedau amgylcheddol ar gyfer safleoedd llosgi gwastraff mawr Cymru wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i sicrhau bod y safleoedd yn perfformio yn unol â’r safonau amgylcheddol uchaf.

Mae'r ymarfer yn cynnwys adolygu trwyddedau yn erbyn arferion gorau diweddaraf y diwydiant, sef y Technegau Gorau Sydd ar Gael. Mae'n un o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol ac mae'n sicrhau bod diwydiant yn parhau i ddefnyddio'r technegau gorau i atal neu leihau allyriadau ac effeithiau ar yr amgylchedd.

Gallai'r technegau hyn gynnwys y dechnoleg a ddefnyddir a'r ffordd y mae gosodiad yn cael ei gynnal, ei weithredu a'i ddatgomisiynu.

Dywedodd Holly Noble, Arweinydd Tîm Trwyddedu CNC:

“Mae ein trwyddedau amgylcheddol yn gosod amodau ar gyfer sut mae'n rhaid i gyfleuster weithredu ac yn cyfyngu ar allyriadau i'r amgylchedd - ond nid dyna ddiwedd y broses.
“Nid yn unig y bydd pob safle yn cael ei reoleiddio'n drylwyr gan ein swyddogion, ond mae'n rhaid iddynt hefyd lynu at y datblygiadau technolegol diweddaraf ac ymdrechu i wella eu perfformiad amgylcheddol.
“Mewn rhai achosion, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau fuddsoddi'n sylweddol yn eu seilwaith, ac rydym yn gwerthfawrogi efallai na fydd hynny’n hawdd yn ystod cyfnod mor ansicr, ond mae'n ymarfer pwysig i ni ei gwblhau, gan ein galluogi i ysgogi gwelliannau yn y diwydiant a sicrhau bod yr holl safleoedd llosgi gwastraff ar yr un lefel ledled Cymru.”

Mae gan Gymru bum safle llosgi gwastraff, gan gynnwys dau losgydd gwastraff trefol, dau losgydd biomas a llosgydd gwastraff clinigol, a bydd yn rhaid i bob un gyrraedd terfynau tynnach o ran allyrru llygryddion yn ogystal â monitro ychwanegol yn dilyn yr adolygiad.

Ar draws pob safle, mae gostyngiad o 50% wedi bod yn nherfyn yr allyriadau ar gyfer deunydd gronynnol; yn y ddau losgydd gwastraff trefol mae'r terfyn newydd ar gyfer allyriadau mercwri yn sicrhau gostyngiad o 60%, ac ar un safle mae gostyngiad o 55% wedi bod yn y terfyn ar gyfer ocsidau nitrogen.

Trwy amod gwella a ychwanegwyd at bob trwydded, mae bellach yn ofynnol i weithredwyr ymchwilio i sut i leihau ocsidau nitrogen y tu hwnt i derfyn y Technegau Gorau Sydd ar Gael ac mae'n ofynnol i bob safle lunio cynlluniau rheoli newydd mewn perthynas â gweithrediadau annormal ac wrth gychwyn llosgyddion a’u dirwyn i ben.

Yn gyffredinol, mae'r amodau newydd yn sicrhau bod y trwyddedau ar gyfer y sector hwn yn parhau i fod yn offeryn rheoleiddio effeithlon a fydd yn ysgogi gwelliannau parhaus yn y dyfodol.