Bywyd Gwyllt Cymru yn ystod y cyfnod clo - arolwg wedi dangos sut y gwnaeth natur ymateb

Cafodd y cyfnod clo yn sgil y coronafeirws effaith fawr ar y byd naturiol yng ngogledd-orllewin Cymru, yn ôl arolwg amgylcheddol newydd.

Cafodd y cyfnod clo yn sgil y coronafeirws effaith fawr ar y byd naturiol yng ngogledd-orllewin Cymru, yn ôl arolwg amgylcheddol newydd.

Cynhaliwyd yr arolwg dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mehefin mewn safleoedd allweddol yn Eryri a Niwbwrch ar Ynys Môn, ac mae'n dangos bod rhywogaethau adar a phlanhigion wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo oherwydd bod llai o aflonyddwch a llai o sbwriel.

Cafodd y naturiaethwr Ben Porter ei gomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal yr arolwg o dan yr amodau unigryw a gafwyd y gwanwyn hwn. 

Ar ôl sicrhau pob caniatâd perthnasol, arolygwyd pedwar darn o ucheldir - yr Wyddfa, Cader Idris, y Carneddau a Chwm Idwal – ac iseldir yng Nghoed y Brenin, Ceunant Llennyrch a Niwbwrch/Llanddwyn.

Canfuwyd bod adar yn magu ar a gerllaw llwybrau sydd fel arfer yn brysur, lle gallai planhigion a blodau gwyllt yn awr ffynnu.

Roedd llai o sbwriel a bwyd dros ben o bicnics yn golygu bod llai o rywogaethau ysglyfaethus – fel gwylanod y penwaig a llwynogod - sy'n debygol o fod wedi rhoi help llaw i adar a oedd yn magu.

Roedd pryfed ar eu hennill hefyd, oherwydd y tywydd cynnes yn ogystal ag amodau’r cyfnod clo.

Wrth fyfyrio ar yr astudiaeth, meddai Ben Porter:

"Roedd yn brofiad swreal bron, bod yn dyst i'r distawrwydd llwyr dros y dirwedd yn y rhan fwyaf o'r safleoedd hyn, ac eithrio sŵn adar yn canu, dŵr yn diferu ac ambell ddafad neu afr yn brefu.
"Un o'r canfyddiadau amlycaf oedd y doreth o rywogaethau fel corhedydd y waun a thinwen y garn ar hyd y prif lwybrau.
"Gwelwyd adar sydd fel arfer yn osgoi pobl - fel pibydd y dorlan a mwyalchen y mynydd - yn nythu'n agos at lwybrau hefyd.
"Prin iawn oedd gwylanod y penwaig yn eu nythfa arferol ar yr Wyddfa. Fel arfer maen nhw'n byw ar wastraff bwyd gan ymwelwyr, felly mae'n debyg bod y cyfnod clo wedi effeithio ar eu gallu i fodoli yn yr ardal y tymor hwn."

Cofnodwyd amrywiaeth ryfeddol o blanhigion ar hyd llwybrau sydd fel arfer yn brysur – fel torfaen llydandroed, teim gwyllt a'r cnwp-fwsogl corn carw rif y gwlith ar y ddringfa o Gwm Idwal.

Ym mhob un o'r tri safle iseldirol, darganfuwyd adar yn nythu mewn mannau lle mae’n debyg na fyddent yn nythu o dan amgylchiadau arferol.

Mae rhai adar wedi cael blwyddyn dda iawn – fel y cwtiad torchog sy'n nythu ar y traethau ar ac yn agos at Ynys Llanddwyn. Er bod y rhywogaeth yn nythu yma'n rheolaidd, mae wedi magu niferoedd da o gywion yn llwyddiannus y gwanwyn hwn am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, gan i’r cyfnod clo adael y traethau yma - sydd fel rheol yn llawn bwrlwm pobl - yn anarferol o dawel.

Mae'r arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr wrth i Gymru weithio tuag at adferiad gwyrdd ar ôl Covid-19.

Dywedodd Molly Lovatt, Uwch Swyddog Cynllunio a Phartneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Roedd hwn yn gyfle unigryw i weld sut y byddai bywyd gwyllt, tirwedd a llystyfiant yn ymateb i amodau mor annisgwyl.
"Mae'r arolwg yn pwysleisio pwysigrwydd y neges 'troediwch yn ysgafn' yr ydym wedi bod yn annog wrth i fwy o bobl ddychwelyd i ymweld â'n cefn gwlad a'n harfordir. Mae angen i ni fod yn sensitif i natur, heb adael unrhyw olion o'n hymweliad, fel y gall bywyd gwyllt barhau i ffynnu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu ei fwynhau."
Dywedodd Dafydd Roberts, Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r adroddiad yn codi llawer o gwestiynau am y ffordd y byddwn ni’n rheoli'r modd y mae pobl a natur yn rhyngweithio yn y dyfodol wrth i ni geisio taro'r cydbwysedd cywir rhwng galluogi pobl i fwynhau treftadaeth naturiol wych yr ardal hon a pheidio ag amharchu a tharfu ar yr amgylchedd yr ydym i gyd yn ei fwynhau."

Dywedodd Laura Hughes, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

"Mae'n wych gweld sut mae natur wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo a'r effaith bositif y mae wedi'i chael ar blanhigion a bywyd gwyllt, ond mae angen cymorth pawb i gadw’r sefyllfa fel hyn.  Mae'n grêt bod cymaint ohonon ni'n mwynhau mannau awyr agored, ond rydyn ni'n gofyn i bobl drin cefn gwlad gyda gofal pan fyddwch chi'n dod i ymweld."

Y disgwyl yw y bydd yr arolwg yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf i alluogi cymhariaeth uniongyrchol â chanlyniadau eleni.

Darllen yr adroddiad llawn: Bywyd Gwyllt yn ystod y Cyfnod Clo

Bydd yr arolwg yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf. 

Gwylio sioe sleidiau Ben Porter ar YouTube am fywyd gwyllt yn y cyfnod clo...