Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr cerdded o amgylch arfordir Cymru
Mae Cymru yn gartref i dri llwybr pellter hir.
Maent ar agor i gerddwyr ac mae rhai rhannau ar agor i feicwyr a marchogwyr.
Mae Llwybr Glyndŵr wedi’i enwi ar ôl Owain Glyndŵr, tywysog Cymreig o’r bymthegfed ganrif.
Mae’r Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217km) hwn yn ymdroelli mewn siâp pedol o Drefyclo i’r Trallwng gan fynd trwy gefn gwlad bryniog canolbarth Cymru.
Ar hyd y llwybr ceir bryniau tawel Maesyfed, glannau Cronfa Ddŵr Clywedog a llethrau grugog Pumlumon.
Edrychwch ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am Lwybr Glyndŵr.
Mae Llwybr Clawdd Offa wedi’i enwi ar ôl y clawdd trawiadol a adeiladwyd gan y Brenin Offa yn yr wythfed ganrif.
Mae’r Llwybr Cenedlaethol 177 milltir (285km) hwn yn cysylltu Cas-gwent yn y de a thref arfordirol Prestatyn ar lannau Môr Iwerddon yn y gogledd.
Mae’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr fwy nag ugain gwaith, gan fynd trwy wyth o siroedd gwahanol ar hyd y ffordd.
Edrychwch ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am Lwybr Clawdd Offa.
Mae Llwybr Arfordir Penfro yn igam-ogamu ei ffordd trwy rai o lecynnau arfordirol mwyaf trawiadol Prydain.
Mae’r Llwybr Cenedlaethol 186 milltir (300km) hwn yn ymestyn o Landudoch ar lannau Afon Teifi i Lanrhath, ger Dinbych-y-pysgod.
Mae’n gyfan gwbl oddi mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro fwy neu lai, ac mae’n cynnwys clogwyni geirwon, cildraethau cysgodol, traethau llydan ac aberoedd troellog.
Edrychwch ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am Lwybr Arfordir Penfro.
Darganfyddwch sut y mae’r Llwybrau Cenedlaethol yn cael eu hariannu a’u rheoli.