Llwybrau Cenedlaethol
Llwybrau pellter hir trwy Cymru
Croeso Cymru
Beth am ganfod siâp cenedl ar y llwybr unigryw hwn o amgylch ein glannau.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded di-dor o amgylch arfordir Cymru.
Cafodd ei agor yn 2012 a dyma’r llwybr arfordirol di-dor cyntaf yn y byd.
O gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de, mae’r llwybr yn ymestyn am 870 milltir ac yn mynd heibio rhai o arfordiroedd gorau Prydain.
Mae’r llwybr yn cwmpasu clogwyni dramatig, cildraethau anghysbell, traethau poblogaidd, bywyd gwyllt toreithiog, trefi a phentrefi tlws, dinasoedd mawr a henebion hanesyddol.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gynllunio eich ymweliad.
Darganfyddwch sut y mae Llwybr Arfordir Cymru yn cael ei ariannu a’i reoli