Llwybrau cerdded hygyrch
Llwybrau gradd hygyrch mewn coetiroedd a gwarchodfeydd ar draws Cymru
Nid yw’r caffis na’r siopau yn ein canolfannau ymwelwyr yn gweithredu bellach.
Nid oes staff yn ein canolfannau ymwelwyr ac nid oes darpariaeth cymorth cyntaf. Dewch yn barod ar gyfer y gweithgaredd rydych yn ei wneud a byddwch yn ymwybodol o beth i’w wneud mewn argyfwng.
Mae’r llwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor.
Mae llwybr cerdded hygyrch sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ym mhob un o'n canolfannau ymwelwyr.
Mae ganddyn nhw hefyd fannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, toiledau hygyrch a byrddau picnic hygyrch.
Mae gan rhai canolfannau ymwelwyr ardal chwarae hygyrch i blant,
Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o fanylion am bob canolfan ymwelwyr a'i chyfleusterau hygyrch.