Gwella mynediad i'n lleoedd i bawb

Mae helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn yn gonglfaen i'n gwaith, ac mae'n rhan o'n Amcanion Lles.

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein safleoedd mor hygyrch, cynhwysol a chroesawgar ag y gallant fod fel y gall pawb gael cyfle i fynd allan a mwynhau'r awyr agored.

Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym wedi asesu ein prif safleoedd ymwelwyr er mwyn darganfod a ydym yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau teg a chyfartal i bawb, ystyried beth rydym yn ei wneud yn dda a'r hyn y gallwn wella arno.

Rydym yn gweithio ar wella arwyddion, arwynebau llwybrau, cyfathrebu ag ymwelwyr, a'r wybodaeth a'r arweiniad a rown i’r staff er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig ar safleoedd a reolir gennym.

Canllawiau ar fynediad cynhwysol

Mae gennym ganllawiau ar fynediad cynhwysol i'r awyr agored er mwyn cynnig dull realistig, ymarferol ac effeithiol o wella mynediad, gan greu mwy o leoedd hygyrch ar gyfer mwy o bobl.

Defnyddir ein canllawiau gan ein rheolwyr safle ac mae’r rhain ar gael i reolwyr tir eraill sydd â chyfleusterau mynediad i hamdden.

Dysgwch fwy

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf