Ein llyfrgell a'n gwybodaeth

Gwybodaeth ar amrywiaeth eang o bynciau

Mae catalog gwe y llyfrgell yn cofnodi'r holl eitemau a gedwir yn ein swyddfeydd.

Gallwch gael mynediad at wybodaeth o lyfrau, adroddiadau, cyfnodolion a chyhoeddiadau llywodraeth ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â rheoli adnoddau naturiol ac amgylchedd Cymru.

Mae'r pynciau hyn yn cynnwys:

  • cadwraeth
  • polisi ac arfer
  • bioamrywiaeth
  • bywyd gwyllt y tir a'r môr
  • rheoli dŵr a thir
  • mynediad a hamdden
  • daeareg
  • Adroddiadau a chyhoeddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff blaenorol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth
  • llyfrau astudiaethau natur lleol

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.

Ymweld â Llyfrgell Maes y Ffynnon ym Mangor

Mae croeso i chi ymweld â'n llyfrgell ym Maes y Ffynnon, Bangor er mwyn gweld a darllen eitemau. Noder, fodd bynnag, na ellir benthyca eitemau. 

Chwilio trwy ein catalog cyn ymweld â ni

Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno chwilio trwy catalog gwe y llyfrgell cyn ichi ymweld â ni. Cysylltwch â ni ag unrhyw ymholiadau, i drefnu apwyntiad i ymweld â'n llyfrgell neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano.

Cysylltwch â'r llyfrgell os ydych yn dymuno cael copi o gyhoeddiad neu adroddiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt, gallwn ddarparu ar ffurf PDF neu gopi caled.

Oriau ymweld 

  • Dydd Mawrth i ddydd Iau, 10am – 3:00pm

Cysylltu â ni

E-bost: library@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 4121 neu 0300 065 4890

Gallwch hefyd ysgrifennu i: 

Llyfrgell
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf