Adroddiad Adran 18: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru 2023–2025

Crynodeb gweithredol

Cynhyrchir yr adroddiad hwn ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru fel sy’n ofynnol o dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion Cymru am y cynnydd a wnaed o ran rhoi ar waith y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2020.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (2020) yn gosod nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli llifogydd, yn ogystal â’r mesurau sydd i’w cymryd dros y degawd nesaf gan awdurdodau rheoli risg ac eraill i wella sut yr ydym yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer risgiau llifogydd, ac yn ymateb ac yn ymaddasu iddynt.

Mae’r ‘adroddiad adran 18’ hwn (fel y’i gelwir yn aml) yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Strategaeth, y mesurau a’r amcanion yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth arall y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdani (fel y manylir ym mharagraff 335 o’r Strategaeth Genedlaethol). Mae’n adroddiad ffeithiol ac wedi’i lunio ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdodau rheoli risg sy’n gweithredu yng Nghymru, ac rydym yn cydnabod yn ddiolchgar y cymorth a gafwyd gan sefydliadau partner wrth gynhyrchu’r diweddariad hwn.

Mae 24 o fesurau yn y Strategaeth Genedlaethol, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos:

  • bod 17 o fesurau eisoes wedi’u cwblhau, er bod angen cyflawni gweithgareddau parhaus cysylltiedig er mwyn i 10 ohonynt barhau, a bod angen ystyried y camau nesaf ar gyfer pedwar ohonynt;
  • bod chwech ar waith;
  • bod un wedi’i atal.

At ddibenion cymharu, yn yr adroddiad adran 18 diwethaf a gynhyrchwyd yn 2023, roedd 13 mesur wedi’u cwblhau, naw ar waith, a dau heb eu cychwyn eto neu wedi’u hatal. Mae hyn yn dangos bod cynnydd da wedi’i wneud gydol y cyfnod adrodd o ran cyflawni’r mesurau ac, o ganlyniad, yr amcanion o fewn y Strategaeth. Fodd bynnag, mae sawl maes gwaith yn parhau i fod ar waith neu heb ei gychwyn eto, ac mae’n amlwg bod gwaith pellach allweddol i’w gwblhau.

Mae’r adroddiad Adran 18 hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau llifogydd yn ystod y cyfnod a chynlluniau sylweddol a gwblhawyd, gan gynnwys gwaith lliniaru yn Stryd Stephenson, Casnewydd; Rhydaman, Sir Gaerfyrddin; Bae Cinmel a Llandudno, Conwy.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau o arferion da yn y sector o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys:

  • prosiectau arloesol gan Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn Sir Fynwy, Conwy a Chaerffili;
  • gweithio mewn partneriaeth ar brosiectau yn Sir Benfro a Chaerffili;
  • dulliau Cyfoeth Naturiol Cymru o ddarparu gwybodaeth, drwy lansio Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru, y prosiect ailosod telemetreg, a chyhoeddi’r gofynion buddsoddi hirdymor;
  • digwyddiadau cyfranogiad cymunedol a gynhelir gan awdurdodau rheoli risg, yn cynnwys Sir Benfro, Caerffili a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyflwyniad

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol o dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i lunio adroddiad i Weinidogion Cymru ynghylch cymhwyso Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (y ‘Strategaeth Genedlaethol’ neu’r ‘Strategaeth’). Cyflawnir y ddyletswydd hon drwy lunio’r adroddiad hwn, a elwir yn aml yn ‘adroddiad adran 18’. Adroddiad ffeithiol yw hwn, ac y mae’n defnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdodau rheoli risg yng Nghymru, a ffynonellau perthnasol eraill. Mae’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu gofynion cynnwys adroddiad adran 18 ym mharagraff 335 o’i Strategaeth Genedlaethol.

Ffigur 1: Darn o Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, yn manylu ar sut y dylid monitro’r Strategaeth.

Mae’r adroddiad adran 18 hwn wedi’i rannu’n dair rhan er mwyn nodi gofynion monitro ac adrodd y Strategaeth Genedlaethol yn y ffordd orau. Mae’r rhan gyntaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran mesurau ac amcanion y Strategaeth Genedlaethol, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn erbyn pob mesur. Mae’r ail ran yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr elfennau o baragraff 335 sy’n weddill, ac yn cynnwys enghreifftiau o astudiaethau achos a ddarparwyd gan awdurdodau rheoli risg. Mae’r drydedd ran yn cyflwyno’r adroddiadau blynyddol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cyflawni sy’n cynnig tystiolaeth bellach a rhagor o enghreifftiau o gyflawni amcanion y Strategaeth.

Cynhyrchwyd adroddiadau adran 18 blaenorol rhwng 2011 a 2023 i olrhain cynnydd yn erbyn y Strategaeth Genedlaethol. Mae’r rhain ar gael trwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am fesurau ac amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Cyflwyniad

Mae gan y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol nod trosfwaol a phum amcan, a’r bwriad datganedig yn y Strategaeth yw eu bod, gyda’i gilydd, yn lleihau’r risg i fywyd.

Nod: Lleihau’r risg i bobl a chymunedau yn sgil llifogydd ac erydu arfordirol.

Amcanion:

A. Gwella ein dealltwriaeth o risg a’r ffordd yr ydym yn hysbysu am risg

B. Parodrwydd a datblygu gwytnwch

C. Blaenoriaethu buddsoddiadau ar gyfer y cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf

D. Atal rhagor o bobl rhag dod yn agored i risg

E. Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i ddigwyddiadau

Cyflawni amcanion

Mae gan y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 24 o fesurau sy’n cyflawni yn erbyn y pum amcan. Mae pob mesur wedi’i neilltuo i’r gwaith o gyflawni o leiaf un amcan; felly, nid oes perthynas uniongyrchol un-i-un rhwng yr amcanion a’r mesurau. Mae’r siart isod yn darlunio’r cynnydd yn erbyn pob un o’r amcanion drwy ddangos statws y mesurau sydd wedi’u halinio (gan Lywodraeth Cymru, yn y Strategaeth) â phob amcan. Yn ôl y dadansoddiad hwn, un mesur yn unig sydd wedi’i atal (sy’n cyfrannu at dri amcan), sy’n golygu bod o leiaf 93% o bob amcan bellach wedi’i gwblhau neu ar waith, o’u cymharu â rhwng 85% a 100% yn yr adroddiad diwethaf. O’r pum amcan, Amcan E yw’r mwyaf datblygedig, ac Amcan C yw’r lleiaf datblygedig. Disgwylir i’r mesurau sy’n weddill gael eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Ffigur 2: Siart yn dangos cynnydd o ran cyflawni pob un o amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.

Er bod y mesurau yn y Strategaeth wedi’u cysylltu’n benodol â’r amcanion, mae yna weithgareddau eraill, wrth gwrs, sydd y tu allan i’r mesurau, ac sy’n cyflawni yn erbyn yr amcanion. Er enghraifft, mae adroddiadau blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgrifio’r ystod o weithgareddau a gyflawnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae pob un ohonynt yn cyflawni ar draws ystod o amcanion y Strategaeth Genedlaethol. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn Rhan 3 o’r adroddiad hwn.

Crynodeb o’r cynnydd yn erbyn y mesurau

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynnwys 24 o fesurau a fydd yn helpu i gyflawni’r nod a’r amcanion. Mae’r tabl canlynol yn rhoi crynodeb o’r cynnydd yn erbyn pob mesur. Mae deialog bellach ynghylch y cynnydd yn erbyn pob mesur wedi’i chynnwys yn yr adran sy’n dilyn y tabl.

Mae un o’r sefyllfaoedd canlynol wedi’i neilltuo i bob mesur.

  • Wedi’i gwblhau – mae’r mesur wedi’i gyflawni yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol.
  • Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd – mae’r mesur wedi’i gyflawni, ond mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn ystyried yr argymhellion neu i sicrhau canlyniadau ychwanegol.
  • Wedi’i gwblhau – yn parhau – mae’r mesur wedi’i gyflawni, ond mae’n ymwneud â gweithgareddau y mae angen iddynt gael eu cyflawni’n barhaus.
  • Ar waith – mae’r gwaith i gyflawni’r camau gofynnol wedi cychwyn.
  • Wedi’i atal – mae’r gwaith i gyflawni’r cam gofynnol wedi’i atal am resymau penodol.

Tabl 1: Crynodeb o’r cynnydd yn erbyn mesurau’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (mae’r statws yn y diweddariad blaenorol wedi’i gynnwys mewn italig).

Rhif

Mesur

Yn arwain

Amcan

Diweddariad cryno

1

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCEC) i bennu’r cwmpas ac ystyried yr angen am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn egluro a chynorthwyo’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru erbyn 2022.

FCEC

A–E

Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Cafodd yr adroddiad terfynol ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol ym mis Medi 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog. Mae’r Gweinidog wedi ymateb, ac mae gan y pwyllgor bellach restr fer o waith newid cyfreithiol.

2

Canolfan Monitro Arfordirol Cymru (WCMC) i gynnal arolygon topograffig blynyddol ar ran grwpiau arfordirol er mwyn mesur newid yn yr ardaloedd arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Y grwpiau arfordirol ac WCMC

A ac C

Ar waith

Mae 64% o’r rhaglen arolygu 10 mlynedd a gynlluniwyd wedi’i chynnal hyd yma.

 

3

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyhoeddi mapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru newydd yn 2020 ochr yn ochr â’r Strategaeth, a’u diweddaru bob chwe mis er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y set ddata asedau cenedlaethol.

CNC

A–E

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fapiau newydd Asesiad Perygl Llifogydd Cymru ym mis Hydref 2020 ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy MapDataCymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Asesiad Perygl Llifogydd Cymru ddwywaith y flwyddyn—ym mis Mai a mis Tachwedd.

4

Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu data ar nifer y cartrefi a busnesau sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd, o bob ffynhonnell yn flynyddol ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf am Asesiad Perygl Llifogydd Cymru.

CNC

A ac C

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yn 2024, darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddiweddariad cenedlaethol i’r eiddo preswyl ac amhreswyl sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd. Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru yn ystod haf 2025.

5

Yr awdurdodau rheoli risg i ddiweddaru mapiau, cynlluniau a data yn unol â’r amserlen a nodir yn Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol.

CNC a’r awdurdodau lleol

A–E

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal a chadw nifer o fapiau risg llifogydd ac erydu arfordirol sy’n cael eu diweddaru yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau llifogydd lleol arweiniol hefyd yn llunio cynlluniau yn unol â Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol.

6

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau, erbyn diwedd 2021, bod y gronfa ddata asedau cenedlaethol yn cynnwys data ar yr holl asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y mae’r awdurdodau rheoli risg yn berchen arnynt neu’n eu dynodi.

CNC a’r awdurdodau lleol

A–D

Ar waith – ar ôl o ran y targed

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fap rhyngweithiol ‘Gweld strwythurau amddiffyn llifogydd yn agos i chi (Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol)’ ym mis Rhagfyr 2021. Mae’r map bellach yn cynnwys data gan yr holl awdurdodau llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru (yn ogystal â data gan Cyfoeth Naturiol Cymru).

7

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu proses i sicrhau bod pob diweddariad yn cael ei ymgorffori yn y gronfa ddata asedau cenedlaethol o fewn chwe mis i unrhyw waith a gwblhawyd, neu unrhyw newidiadau y mae eu hangen fel arall, erbyn diwedd 2021.

CNC a’r awdurdodau lleol

A–D

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Wrth ddatblygu’r gronfa ddata asedau llifogydd cenedlaethol, datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru broses a gwefan sydd i’w defnyddio gan awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i gyflwyno unrhyw newidiadau.

8

Cyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio’r gronfa ddata asedau cenedlaethol i sicrhau bod Map Llifogydd Cymru yn adlewyrchu’r risg is o bob cynllun lliniaru llifogydd erbyn 2022.

CNC

A–D

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Caiff Map Llifogydd Cymru ei ddiweddaru bob chwe mis gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf o raglen mapio a modelu Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i ddata ar asedau (o’r broses ym mesur 7).

9

Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol yn cyfateb i bolisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin erbyn 2021, ac yn dangos cyfraddau erydu fel bandiau yng nghynhyrchion Map Llifogydd Cymru erbyn diwedd 2022.

CNC

A–E

Wedi’i gwblhau

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fapiau’r Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol ar y wefan sy’n dangos erydu arfordirol a gwybodaeth am y cynlluniau rheoli traethlin ar ffurf mapiau.

10

Y grwpiau arfordirol i adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru, ar gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu’r cynlluniau rheoli traethlin.

Y grwpiau arfordirol

A–D

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Mae Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru yn llunio adroddiad cynnydd blynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Fel ag yr oedd ym mis Hydref 2024, mae 253 o gamau gweithredu yn weddill.

11

 

Y grwpiau arfordirol i adrodd i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru, ar weithredu polisïau cyfnod 1 Cynllun Rheoli Traethlin 2, erbyn 2025.

Y grwpiau arfordirol

A–D

Ar waith - Heb gychwyn

Mae gwaith wedi dechrau trwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru i adrodd ar y gwaith o weithredu polisïau cyfnod 1 Cynllun Rheoli Traethlin 2. Mae arweinwyr penodol wedi’u henwebu ym mhob grŵp arfordirol, ac mae profforma adrodd wedi’i datblygu.

12

Cyfoeth Naturiol Cymru i gwblhau eu gwelliannau i wybodaeth llifogydd ar-lein, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r awdurdodau lleol, erbyn 2021. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynhyrchion Map Llifogydd Cymru, deall rhybuddion llifogydd, a chyngor ar ddatblygu cydnerthedd ac ymateb i lifogydd.

CNC

A, B, D ac E

Wedi’i gwblhau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o welliannau i wybodaeth ar-lein, yn cynnwys gwelliannau i’r map risg llifogydd a gwybodaeth sy’n ymwneud â llifogydd.

 

13

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn llawn am gyfnod prawf, a gychwynnodd yn 2020–2021, ac yn cyhoeddi canllawiau newydd i annog mwy i fanteisio arnynt, ac annog pobl i rannu gwersi ynglŷn â’u cyflawni’n ymarferol.

Llywodraeth Cymru

A, B ac C

Ar waith – ar ôl o ran y targed

Ar ôl llwyddiant rhaglen arbrofi rheoli llifogydd yn naturiol Llywodraeth Cymru, sefydlwyd rhaglen sbarduno ddilynol sydd wedi darparu £4.5 miliwn i sicrhau bod pobl yn parhau i gymryd camau i reoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru.

14

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws polisïau i sicrhau bod rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei ystyried wrth reoli tir a dŵr yn ehangach, gan gynnwys amaethyddiaeth ac yn natganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru.

Llywodraeth Cymru

A, B ac C

Ar waith

Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau traws-bolisi da rhwng llifogydd ac amaethyddiaeth, yn enwedig drwy integreiddio rheoli llifogydd yn naturiol i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

15

Bydd nifer y cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol a chynlluniau hybrid yr ymgymerir â hwy yn cael ei hadrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol drwy adroddiadau grant, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei hadrodd i Weinidogion Cymru yn yr adroddiad adran 18.

Pob awdurdod rheoli risg

A, B ac C

Wedi’i gwblhau – yn parhau

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau i’w system rheoli rhaglenni a’i ffurflenni, sy’n hwyluso dulliau gwell o gasglu gwybodaeth a monitro cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol.

16

Llywodraeth Cymru i ddechrau adolygiad o effeithiolrwydd deddfwriaeth systemau draenio cynaliadwy yn 2021.

Llywodraeth Cymru

B ac C

Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau adolygiad o effeithiolrwydd systemau draenio cynaliadwy.

17

Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) erbyn 2021 gan gydnabod yr wybodaeth am berygl o lifogydd sydd bellach ar gael i awdurdodau cynllunio lleol.

Llywodraeth Cymru

B a D

Ar waith – ar ôl o ran y targed

Cyhoeddwyd y cyngor cynllunio diweddaraf ar lifogydd ar ffurf Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) newydd ar 31 Mawrth 2025.

18

Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r grwpiau arfordirol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu canllawiau pellach ar addasu arfordirol erbyn 2022.

Llywodraeth Cymru a’r grwpiau arfordirol

A, B a D

Wedi’i atal

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru ym mis Hydref 2024, sy’n amlinellu’r ymrwymiad sylweddol i ymateb i’r hinsawdd sy’n newid.

19

Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu a sefydlu rhaglen fonitro briodol i gefnogi a llywio’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd erbyn 2022.

CNC

C

Ar waith – ar ôl o ran y targed

Mae’r gwaith o fonitro colledion a ragwelir yn parhau i gael sylw trwy asesiadau gwasgfa arfordirol ar lefel prosiect. Mae gwaith monitro a gwaith arolygu arferol yn mynd rhagddo ar safleoedd cydadferol.

20

Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i safoni adroddiadau uniongyrchol am lifogydd i eiddo ac achosion o erydu erbyn diwedd 2021, yn unol â Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru.

Llywodraeth Cymru / Grŵp Llifogydd Cymru

A, C ac E

Wedi’i gwblhau

Yn dilyn adolygiad gydag awdurdodau rheoli risg a darparwyr cydnerthedd ehangach, ni fydd unrhyw newidiadau.

21

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol i gydweithio a sefydlu gofynion lefel uchel a chanllawiau ategol ar gyfer adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 erbyn 2023.

FCEC / CLlLC a’r awdurdodau lleol

A, C ac E

Ar waith

Cwblhaodd yr Athro Elwen Evans waith i adolygu adroddiadau adran 19 yng Nghymru yn ystod haf 2023. Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol wedi sefydlu is-bwyllgor i adolygu’r adroddiad.

22

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau rheoli risg i ddatblygu rhaglen o brosiectau buddsoddi pump i ddeng mlynedd.

Llywodraeth Cymru a phob awdurdod rheoli risg

A–D

Ar waith

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â phob awdurdod rheoli risg i ystyried anghenion buddsoddi yn y dyfodol drwy ddefnyddio opsiynau blaenoriaethu o strategaethau’r awdurdodau lleol a chynllun rheoli’r perygl o lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

23

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyhoeddi gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan ategu Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, erbyn diwedd 2021.

CNC

A–D

Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei ofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli’r sylfaen asedau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn 2023. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried gwaith pellach posibl i gryfhau tystiolaeth y gofynion buddsoddi hirdymor a datblygu achos buddsoddi cryf ynghylch pob agwedd ar reoli’r perygl o lifogydd.

24

Bydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn archwilio cyfleoedd i fwyafu cyfraniadau partneriaid a buddsoddiadau mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol erbyn 2022.

FCEC

C

Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Gwnaed cynnydd yn erbyn y mesur hwn drwy ymgymryd â nifer o brosiectau, gan gynnwys cynnal adolygiad sgiliau a chapasiti cynaliadwyedd amgylcheddol a chynnal gweithdy gyda’r Dirprwy Brif Weinidog i dynnu sylw at y problemau sy’n wynebu’r sector.

Rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn erbyn y mesurau

Mesur 1

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCEC) i bennu’r cwmpas ac ystyried yr angen am newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn egluro a chynorthwyo’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru erbyn 2022.

Yn arwain: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Statws: Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cafodd yr adroddiad terfynol “Yr achos dros newid mewn deddfwriaeth a pholisi cysylltiedig ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru” ei gymeradwyo gan y pwyllgor ym mis Medi 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog. Ymatebodd y Gweinidog ym mis Tachwedd 2023, ac o ganlyniad, mae’r pwyllgor wedi penderfynu canolbwyntio gwaith newid cyfreithiol pellach ar y canlynol:

  • Rheoli asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan gynnwys dynodi nodweddion o dan atodlen 1 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
  • Rolau a chyfrifoldebau.
  • Ymaddasu i berygl o lifogydd, ar yr arfordir ac yn fewndirol, a’r gallu i wrthsefyll llifogydd.
  • Adolygiad o adroddiad Elwen Evans ar adroddiadau adran 19 llywodraeth leol.
  • Adolygiad o fecanweithiau ar gyfer sicrhau buddsoddiad mewn asedau nad ydynt yn eiddo i awdurdod rheoli risg.
  • Adolygiad o gyfyngiadau deddfwriaethol ar gwmnïau dŵr, yn enwedig o ran lleihau gollyngiadau o garthffosydd cyfun.

Mesur 2

Canolfan Monitro Arfordirol Cymru i gynnal arolygon topograffig blynyddol ar ran grwpiau arfordirol er mwyn mesur newid yn yr ardaloedd arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Yn arwain: Y grwpiau arfordirol ac WCMC

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Yn 2019 rhoddwyd rhaglen arolwg strategol ar waith i ganolbwyntio arolygon topograffig blynyddol ar y lleoliadau arfordirol yng Nghymru sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Mae hon yn rhaglen addasu 10 mlynedd sy’n ddibynnol ar gyllid.

Ym mis Mawrth 2025, roedd Canolfan Monitro Arfordirol Cymru wedi cwblhau tua 64% o’r rhaglen arolygu arfaethedig. Mae hyn yn cyfateb i 949 allan o’r 1,492 o arolygon sydd wedi’u cynllunio.

Mae adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd gan Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru yn cynnig cipolwg pellach ar eu gwaith ac ar gynnydd y rhaglen arolygu.

Mesur 3

Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi mapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru newydd yn 2020 ochr yn ochr â’r Strategaeth, a’u diweddaru bob chwe mis er mwyn adlewyrchu’r newidiadau yn y set ddata asedau cenedlaethol.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Rydym wedi parhau i ddiweddaru map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru ddwywaith y flwyddyn, bob mis Mai a mis Tachwedd, i gynnwys unrhyw wybodaeth newydd neu wedi’i gwella am y perygl o lifogydd ar gyfer afonydd a’r môr. Mae’r wybodaeth hon yn seiliedig ar astudiaethau llifogydd ‘lleol’ manylach, ac yn sicrhau bod y map yn cynnwys yr wybodaeth orau sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Pan ddarperir gwybodaeth i ni, rydym yn dangos buddion amddiffynfeydd llifogydd newydd (e.e. y lleihad mewn risg), a chan ddefnyddio gwybodaeth o’r set ddata asedau cenedlaethol, yn nodi lleoliad amddiffynfeydd uwch rhag llifogydd ar fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru.

Rydym hefyd wedi gwneud gwelliannau i’r syllwr ar-lein a ddefnyddir i arddangos map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru er mwyn gwella hygyrchedd, darparu gwell profiad i ddefnyddwyr, ac i fodloni gofynion o ran y Gymraeg.

Mesur 4

Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu data ar nifer y cartrefi a busnesau sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd, o bob ffynhonnell yn flynyddol ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf am Asesiad Perygl Llifogydd Cymru.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Yn 2024, darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddiweddariad cenedlaethol i’r eiddo preswyl ac amhreswyl sydd mewn perygl uchel, canolig ac isel o lifogydd. Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon yn adroddiad blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru o waith rheoli’r perygl o lifogydd 2023–2024, fe’i dangosir ar wefan Stats Cymru (Llifogydd), ac fe’i rhannwyd yn uniongyrchol ag awdurdodau llifogydd lleol arweiniol. Mae’r data hyn wedi bod yn cael eu diweddaru’n flynyddol ers hynny.

Mesur 5

Yr awdurdodau rheoli risg i ddiweddaru mapiau, cynlluniau a data yn unol â’r amserlen a nodir yn Ffigur 12 y Strategaeth Genedlaethol.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal a chadw nifer o fapiau, cynhyrchion a chynlluniau yn ymwneud â pherygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae’r tabl isod yn dangos pa mor aml y cyhoeddir yr wybodaeth ddiweddaraf, ochr yn ochr â’r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl dasgau hyn, yn ogystal â rhai tasgau y mae awdurdodau rheoli risg eraill yn gyfrifol amdanynt. Mae’r mwyafrif wedi’u cwblhau’n effeithiol, ond mae angen gwaith neu ddiweddariadau parhaus arnynt. Mae’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol rheoli’r perygl o lifogydd yn parhau, a disgwylir iddynt gael eu cwblhau yn 2025–2026.

Tabl 2: Tabl yn dangos y cynhyrchion digidol y mae awdurdodau rheoli risg yn eu cynnal a pha mor aml y cânt eu diweddaru.

Map / data / cynllun

Amlder diweddaru

Gwybodaeth ychwanegol

Map Llifogydd Cymru

Bob chwe mis

Caiff Map Llifogydd Cymru (sy’n cynnwys map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio) ei ddiweddaru bob chwe mis, ym mis Mai a mis Tachwedd bob blwyddyn, i gynnwys unrhyw wybodaeth newydd, neu wybodaeth wedi’i diweddaru, am berygl o lifogydd sy’n dod i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn y cyfamser, rydym wedi gwneud gwelliannau i’r syllwr ar-lein a ddefnyddir i arddangos Map Llifogydd Cymru er mwyn gwella hygyrchedd, darparu profiad gwell i ddefnyddwyr, ac i fodloni gofynion o ran y Gymraeg.

Mae’r gwaith hefyd wedi sicrhau bod map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn debyg i’w gilydd er mwyn darparu profiad cyson a chydgysylltiedig i ddefnyddwyr sy’n troi o un map i’r llall.

Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru

Bob chwe mis

Rydym wedi parhau i ddiweddaru map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru bob chwe mis, ym mis Mai a mis Tachwedd, i gynnwys unrhyw wybodaeth newydd neu wybodaeth sydd wedi’i diweddaru am y perygl o lifogydd ar gyfer afonydd a’r môr.

Mae trafodaethau wedi mynd rhagddynt gydag awdurdodau llifogydd lleol arweiniol a Llywodraeth Cymru ynghylch y gofynion ar gyfer diweddaru’r rhan o fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru sy’n manylu ar ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach, a gaiff ei diweddaru’n llai aml gan nad oes gwybodaeth newydd neu well o batrymau lleol.

Yn y cyfamser rydym hefyd wedi gwneud gwelliannau i’n gwasanaeth Gweld eich risg llifogydd yn ôl cod post. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu ffordd amgen i ddefnyddwyr gael mynediad at wybodaeth am eu perygl o lifogydd (nad yw’n seiliedig ar fap).

Y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio

Bob chwe mis

Disodlodd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’r map cyngor datblygu yn swyddogol ym mis Mawrth 2025 yn sgil lansio Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) wedi’i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi parhau i ddiweddaru’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio bob chwe mis, ym mis Mai a mis Tachwedd, i gynnwys unrhyw wybodaeth newydd neu wybodaeth sydd wedi’i diweddaru am berygl o lifogydd.

Y Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol

Ad hoc yn ôl yr angen

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2022.

Cofrestr Cymunedau Mewn Perygl (CaRR)

Yn flynyddol

Rhyddhawyd diweddariad ‘dros dro’ i’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR 2024) ym mis Ionawr 2025. Diben y datganiad hwn oedd cael adborth gan ddefnyddwyr ar newidiadau posibl i raddau risg cyn eu rhyddhau’n llawn yn ystod haf 2025.

Yn y cyfamser, gwnaed gwaith i wella hygyrchedd i’r Gofrestr Cymunedau mewn Perygl trwy greu gwell ‘pecyn data’ ar gyfer awdurdodau llifogydd lleol arweiniol (gan eu helpu i ddeall y data a’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r gofrestr yn well) a gwell gwybodaeth, gan gynnwys dolen i syllwr ar-lein newydd o bolygonau a gradd gymunedol, a grëwyd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut rydyn ni’n cynllunio a blaenoriaethu ein gwaith rheoli’r perygl o lifogydd).

Y gronfa ddata asedau cenedlaethol

Bob chwe mis

Wedi’i ddiweddaru yn dilyn cyflwyniadau gwirfoddol i’r awdurdodau llifogydd lleol arweiniol yn flynyddol.

Cynlluniau rheoli traethlin

Wrth i ddata newydd ddod ar gael

Cychwynnodd ail gyfnod adnewyddu’r Cynllun Rheoli Traethlin yn 2023–2024 (gan gynnwys gwelliannau i gynnwys yn ymwneud â’r cynlluniau rheoli traethlin ar ein mapiau perygl arfordirol ym mis Rhagfyr 2023) a dylai ddod i ben ddiwedd 2025–2026. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect adnewyddu ar wefan Cynlluniau Rheoli’r Traethlin.

Asesiad Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd

Bob chwe blynedd

Cafodd Asesiadau Cychwynnol o’r Bygythiad Llifogydd, yn cwmpasu ardaloedd basn afon Dyfrdwy, afon Hafren ac ardaloedd basn afon Gorllewin Cymru, eu llunio ar gyfer pob ffynhonnell perygl o lifogydd yn 2018. Dirymwyd y Rheoliadau Perygl Llifogydd ym mis Rhagfyr 2023, felly ni fydd unrhyw ddiweddariadau pellach.

Cynlluniau rheoli’r perygl o lifogydd

Bob chwe blynedd

Cafodd Cynlluniau rheoli perygl llifogydd ei ddiweddaru a’i gyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Tachwedd 2023.

Dirymwyd y Rheoliadau Perygl Llifogydd ym mis Rhagfyr 2023. Rydym yn ymgymryd â gwaith i ystyried dyfodol cynlluniau llifogydd strategol yng Nghymru.

Y strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd

O fewn dwy flynedd i’r Strategaeth Genedlaethol

Mae awdurdodau lleol yn diweddaru eu strategaethau lleol ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd, a disgwylir y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau yn ystod 2025–2026.

Mesur 6

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau, erbyn diwedd 2021, bod y gronfa ddata asedau cenedlaethol yn cynnwys data ar yr holl asedau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol y mae’r awdurdodau rheoli risg yn berchen arnynt neu’n eu dynodi.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru fap rhyngweithiol ‘Gweld strwythurau amddiffyn llifogydd yn agos i chi (Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol)’ ym mis Rhagfyr 2021, gyda data asedau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac 16 awdurdod llifogydd lleol arweiniol. Mae pob un o’r 22 awdurdod llifogydd lleol arweiniol bellach wedi cytuno i rannu eu data asedau llifogydd allweddol.

Mae cyflwyniadau gan awdurdodau llifogydd lleol arweiniol wedi newid o fod yn gasgliadau blynyddol yn yr hydref i ddiweddariadau gwirfoddol, pan fydd y data yn ddigon safonol i’r awdurdodau llifogydd lleol arweiniol eu rhannu. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cytuno â’r dull gweithredu hwn.

Bydd dod â’r wybodaeth hon ynghyd yn sicrhau bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd llifogydd gwell yn cael ei adlewyrchu yn ein gwaith modelu perygl o lifogydd a’n gwaith modelu economaidd, gan wella prosesau gwneud penderfyniadau a gwneud ein modelau perygl o lifogydd yn fwy cywir.

Mesur 7

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu proses i sicrhau bod pob diweddariad yn cael ei ymgorffori yn y gronfa ddata asedau cenedlaethol o fewn chwe mis i unrhyw waith a gwblhawyd, neu unrhyw newidiadau y mae eu hangen fel arall, erbyn diwedd 2021.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru a’r awdurdodau lleol

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Fel rhan o’r gwaith o gyflawni mesur 6, datblygwyd proses a gwefan ar gyfer gwneud diweddariadau i’r gronfa ddata asedau genedlaethol, a darparwyd yr wybodaeth hon i awdurdodau lleol. Mae’r broses yn annog sgyrsiau cynnar gyda thimau Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses o ddatblygu cynlluniau awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn gydnaws â’r gronfa ddata. Gall hyn gynnwys proses ‘herio’r Map Llifogydd’, yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth asedau o ansawdd da. Gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod prosiect, gall her Map Llifogydd gymryd hyd at chwe mis cyn cael ei dderbyn. Hyd yn hyn, mae nifer cyfyngedig o gyflwyniadau gan awdurdodau llifogydd lleol arweiniol wedi dod i law Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mesur 8

Cyfoeth Naturiol Cymru i ddefnyddio’r gronfa ddata asedau cenedlaethol i sicrhau bod Map Llifogydd Cymru yn adlewyrchu’r risg is o bob cynllun lliniaru llifogydd erbyn 2022.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae Map Llifogydd Cymru yn parhau i gael ei ddiweddaru bob chwe mis i gynnwys data risg cyfredol o raglen fapio a modelu Cyfoeth Naturiol Cymru ac unrhyw heriau llwyddiannus a gyflwynwyd gan awdurdodau llifogydd lleol arweiniol neu ddatblygwyr.

Mae hyn yn ymgorffori cynlluniau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, neu ddata risg a data asedau gan awdurdodau lleol a gyflwynwyd ac a dderbyniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o fesur 7. 

Mesur 9

Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol yn cyfateb i bolisïau’r Cynllun Rheoli Traethlin erbyn 2021 ac yn dangos cyfraddau erydu fel bandiau yng nghynhyrchion Map Llifogydd Cymru erbyn diwedd 2022.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cwblhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru waith i wella delweddu data erydu arfordirol mewn cynhyrchion mapiau drwy gyhoeddi’r map 'risg arfordirol' ar-lein. Mae’r map yn dangos data Map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol fel bandiau gofodol sy’n rhoi rhagamcan o’r erydu a ragwelir dros senarios tymor byr, canolig a hir gydag ystod hyder canrannol. Bydd hyn yn galluogi perchnogion tai a phartneriaid i ddeall lefel y risg i’r arfordir yn sgil erydu arfordirol.

Mae’r mapiau hefyd yn cynnwys y diweddaraf o ddata’r cynlluniau rheoli traethlin (y llinell felen) a’r mapiau risg llifogydd llanw o fapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (y parthau gwyrdd). Mae data’r cynlluniau rheoli traethlin yn galluogi defnyddwyr i ddeall yn gyflym beth yw cwmpas unedau polisi a’u polisïau rheoli, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael pan fyddwch yn clicio ar y llinell.

Mesur 10

Y grwpiau arfordirol i adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru, ar gynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu’r cynlluniau rheoli traethlin.

Yn arwain: Y grwpiau arfordirol

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Ers i’r adroddiad adran 18 diwethaf gael ei lunio, mae grwpiau arfordirol bellach yn defnyddio templed cynllun adnewyddu’r Cynllun Rheoli Traethlin drwy’r broses adnewyddu Cynllun Rheoli Traethlin. Fel rhan o’r newid i’r broses newydd, cynhaliodd grwpiau arfordirol ymarfer rhesymoli cam gweithredu pellach i wirio a symleiddio cynlluniau gweithredu cynlluniau rheoli traethlin i’w gwneud yn fwy manwl gywir, ymarferol a realistig. Gostyngodd hyn nifer camau gweithredu’r Cynllun Rheoli Traethlin gweithredol o 631 yn 2022 i 253 yn 2024. Dylai’r adolygiad hwn o gynlluniau gweithredu cynlluniau rheoli traethlin ganiatáu i grwpiau arfordirol flaenoriaethu camau gweithredu tymor byrrach, wedi’u llywio gan eu hadroddiadau gwirio cynnydd pwrpasol a gynhyrchwyd yn 2020–2021.

Fel ag yr oedd ym mis Hydref 2024, o’r 253 o gamau gweithredu sy’n weddill, mae 29% yn mynd rhagddynt, 5% wedi’u cynllunio a’u rhaglennu, 41% wedi’u hatal oherwydd cymysgedd o gyfyngiadau o ran adnoddau, cyllid a chyflawniad, 24% heb gychwyn eto, a 1.6% ddim yn hysbys.

Mesur 11

Y grwpiau arfordirol i adrodd i Lywodraeth Cymru, drwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru, ar weithredu polisïau cyfnod 1 Cynllun Rheoli Traethlin 2, erbyn 2025.

Yn arwain: Y grwpiau arfordirol

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae gwaith wedi dechrau trwy Fforwm Grŵp Arfordirol Cymru i adrodd ar y gwaith o weithredu polisïau cyfnod 1 Cynllun Rheoli Traethlin 2. Mae arweinwyr penodol wedi’u henwebu ym mhob grŵp arfordirol ac mae profforma adrodd wedi’i datblygu i sicrhau dull cyson.

Ar yr adeg yr ysgrifennwyd yr wybodaeth ddiweddaraf hon am adran 18, mae arweinwyr wedi cyfarfod sawl gwaith ac yn gwneud cynnydd. Maent yn bwriadu cyfarfod eto i drafod canlyniadau dros dro gydag aelodau’r fforwm, yn benodol Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, i’w helpu i lunio sylfaen yr adroddiad ar weithredu polisïau cyfnod 1 Cynllun Rheoli Traethlin 2 ar gyfer Llywodraeth Cymru. 

Mesur 12

Cyfoeth Naturiol Cymru i gwblhau eu gwelliannau i wybodaeth llifogydd ar-lein, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol, erbyn 2021. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi cynhyrchion Map Llifogydd Cymru, deall rhybuddion llifogydd, a chyngor ar ddatblygu cydnerthedd ac ymateb i lifogydd.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i gynhyrchion llifogydd ar-lein dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cyhoeddi gwasanaethau digidol newydd gan gynnwys lefelau afonydd, data glawiad a môr, rhybuddion a negeseuon llifogydd, a pherygl o lifogydd pum niwrnod i Gymru. Mae’r cynhyrchion digidol newydd hyn yn darparu taith well i gwsmeriaid, mwy o ddata (data glawiad a data lefel y môr), gwybodaeth / cyngor cliriach, gwasanaeth llawer mwy cydnerth ar adeg y galw brig, a chydymffurfedd â safonau hygyrchedd.
  • Gwelliannau i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud cyngor a gwybodaeth yn fwy hygyrch gyda gwell cyfeiriadau at sefydliadau a all helpu gyda thai, cyngor iechyd meddwl, gwybodaeth am draffig, gweithdrefnau gwacáu, cyflenwadau ynni a chyllid.
  • Datblygu ap ‘Gweld eich risg llifogydd’ sy’n rhoi profiad haws i gwsmeriaid wrth greu adroddiad perygl o lifogydd ar gyfer yr ardal o amgylch eu heiddo, ac sy’n ei gwneud yn bosibl cael adroddiad testun yn hytrach na map os oes angen.
  • Gwelliannau wedi’u gwneud i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ei bod yn fwy hwylus i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth allweddol am lifogydd cyn, yn ystod ac ar ôl achos o lifogydd, gan gynnwys gwefan sy’n manylu ar y cyfrifoldeb am wahanol fathau o gyrsiau dŵr.
  • Datblygu cyfres newydd o asedau cyfryngau cymdeithasol llifogydd i’w defnyddio i gyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch perygl o lifogydd a chamau gweithredu ymarferol cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.
  • Creu ffurflen ar-lein ‘rhoi gwybod am achos o lifogydd’ er mwyn ei gwneud yn hwylus rhoi adroddiadau am lifogydd.
  • Gwelliannau i wasanaeth mapio llifogydd ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gyhoeddi map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a’r map Rheoli Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol.

Mesur 13

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn llawn am gyfnod prawf, gan ddechrau yn 2020–2021, ac yn cyhoeddi canllawiau newydd i annog mwy i fanteisio arnynt ac annog pobl i rannu gwersi ynglŷn â’u cyflawni’n ymarferol.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Yn dilyn llwyddiant rhaglen arbrofi rheoli llifogydd yn naturiol a fu’n rhedeg rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2023, sefydlwyd rhaglen sbarduno ddilynol a ddarparodd £4.5 miliwn i sicrhau bod pobl yn parhau i gymryd camau i reoli llifogydd yn naturiol yng Nghymru. Mae £2 miliwn arall wedi’i ddarparu ar gyfer 2025–2026 i gynorthwyo camau rheoli llifogydd yn naturiol pellach yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfres o adolygiadau mapio cyfleoedd ac astudiaethau achos a gwblhawyd o dan y rhaglen arbrofi rheoli llifogydd yn naturiol. Diben yr adolygiad hwn oedd pennu sut y mae cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn cael eu cyflawni, sut y gellid blaenoriaethu gwaith pellach, ac archwilio llwybrau cyflawni posibl gan gynnwys gweithio ar draws unedau polisi.

Gellir gweld y prosiectau hyn yma.

Mesur 14

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws polisïau i sicrhau bod rheoli llifogydd yn naturiol yn cael ei ystyried wrth reoli tir a dŵr yn ehangach, gan gynnwys amaethyddiaeth ac yn natganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i sicrhau bod cysylltiadau traws-bolisi da rhwng llifogydd ac amaethyddiaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol sydd, yn ei hanfod, yn gofyn am gydweithio agos er mwyn datblygu a chyflawni cynlluniau sy’n darparu ystod eang o fuddion. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i integreiddio dulliau rheoli llifogydd yn naturiol i ddatblygiad haenau dewisol a chydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol. Pan fydd yn weithredol, mae gan y cynllun y potensial i helpu i alluogi a chymell tirfeddianwyr i ddefnyddio atebion ar sail natur i ddarparu ystod o fuddion, gan gynnwys rheoli’r perygl o lifogydd, gwella ansawdd dŵr a chynyddu bioamrywiaeth. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gael yma: Cynllun Ffermio Cynaliadwy | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.

Mesur 15

Bydd nifer y cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol a chynlluniau hybrid yr ymgymerir â hwy yn cael ei hadrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol drwy adroddiadau grant, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei hadrodd i Weinidogion Cymru yn yr adroddiad adran 18.

Yn arwain: Pob awdurdod rheoli risg

Statws: Wedi’i gwblhau – yn parhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae canllawiau achos busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod rheoli risg sy’n gwneud cais am gyllid drwy Lywodraeth Cymru ystyried, yn ystod y cam llunio rhestr fer, ddulliau naturiol o reoli llifogydd. O ganlyniad i hyn a gwaith arall ar reoli llifogydd yn naturiol, rydym yn dechrau gweld bod dulliau naturiol o reoli llifogydd yn chwarae rhan fwy annatod yn y gwaith yr ydym yn ei gyflawni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’w system rheoli rhaglenni a’i ffurflenni cais a fydd yn hwyluso’r gwaith o fonitro prosiectau yn y rhaglen sydd ag elfennau o reoli llifogydd yn naturiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i helpu i gefnogi prosiectau sy’n seiliedig ar reoli llifogydd yn naturiol, a hynny trwy ddwy raglen ar wahân ers 2023, sef rhaglen sbarduno rheoli llifogydd yn naturiol sy’n cwmpasu 2023–2025 a chronfa rheoli llifogydd yn naturiol sy’n cwmpasu 2025–2026. Darperir gwybodaeth am y rhaglenni hyn yn y tablau isod. Noder, mae rhai cynlluniau wedi’u cynnwys yn y ddau dabl.

Tabl 3: Rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2023–2025.

Awdurdod rheoli risg

Enw’r cynllun

Nifer yr eiddo a gafodd fudd o hyn

Y swm y gwnaed cais amdano (£ mil)

Caerffili

Parc Coffa Rhymni

21

270

Caerffili

Parc Cwm Darran

1

39

Caerffili

Rheoli llifogydd yn naturiol mewn ysgolion

8

300

Caerffili

Nant Hafod-tudur

1

40

Conwy

Strwythurau prennaidd sy’n gollwng mewn dalgylchoedd

18

70

Conwy

Llansannan – ymyriadau rheoli llifogydd yn naturiol

34

125

Conwy

Dyfrffos Capel Curig

150

80

Conwy

Y Foel – gwella’r dirwedd

150

170

Cyngor Gwynedd

Y Bontnewydd

42

271

Cyngor Gwynedd

Mynydd Llandygái

32

179

Sir Ddinbych

Llanfair Dyffryn Clwyd – cynllun rheoli llifogydd yn naturiol

3

456

Sir Ddinbych

Fferm Glanllyn, Wicwer – cynllun rheoli llifogydd yn naturiol

8

299

Sir Ddinbych

Gwyddelwern

17

299

Sir Ddinbych

Nantglyn

38

219

Sir Ddinbych

Pwll-glas

4

298

Sir Fynwy

Coedwig y Brenin, Lower Gockett Farm a Llanddingad

35

70

Castell-nedd Port Talbot

Llanilltud Fawr a’r Gnoll – cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol

417

118

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cynllun Dinas Powys

44

360

Cyfoeth Naturiol Cymru

Dwyran

16

230

Powys

Cynllun malurion prennaidd sy’n gollwng ar raddfa dalgylch

1,028

85

Powys

Nant Abel ac afon Cain

158

200

Powys

Datrys problemau defnydd tir anhydrin

299

264

Powys

Afon Teme Uchaf Trefyclo – rheoli llifogydd yn naturiol 2

50

200

 

Tabl 4: Cronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2025–2026.

Awdurdod gweithredu

Enw’r prosiect

Nifer yr eiddo a gafodd fudd o hyn

Y swm y gwnaed cais amdano (£ mil)

Caerffili

Cofeb Ryfel Rhymni, Rhymni (rheoli llifogydd yn naturiol)

21

290

Caerffili

Nant Hafod-tudur, Wattsville (rheoli llifogydd yn naturiol)

1

45

Sir Gaerfyrddin

Dalgylch Nant Jac (rheoli llifogydd yn naturiol)

79

300

Conwy 

Llanfair Talhaearn

38

24

Conwy 

Ysbyty Ifan

75

11

Conwy 

Gwern Gof Isaf ac eraill

75

50

Conwy 

Coedwig Pwll-y-crochan – rheoli llifogydd yn naturiol

21

27

Gwynedd

Cricieth – rheoli llifogydd yn naturiol

27

210

Gwynedd

Waunfawr – rheoli llifogydd yn naturiol

46

180

Sir Ddinbych

Llanfair Dyffryn Clwyd – cynllun rheoli llifogydd yn naturiol

3

230

Sir Ddinbych

Pwll-glas – cynllun rheoli llifogydd yn naturiol

4

200

Sir y Fflint

Nant Swinchiard – rheoli llifogydd yn naturiol

27

270

Sir y Fflint

Dalgylch Dyserth – rheoli llifogydd yn naturiol

55

25

Sir y Fflint

Maes Garmon – rheoli llifogydd yn naturiol

11

60

Sir y Fflint

Dalgylch Pulford – rheoli llifogydd yn naturiol

78

295

Sir y Fflint

Penarlâg – rheoli llifogydd yn naturiol

21

50

Sir y Fflint

Dyffryn Maes-glas – rheoli llifogydd yn naturiol

35

200

Sir y Fflint

Fulbrooke Maes-glas – rheoli llifogydd yn naturiol

21

50

Castell-nedd Port Talbot

Gwlyptiroedd Brynau – cynllun rheoli llifogydd yn naturiol

417

85

Castell-nedd Port Talbot

Ton-mawr – rheoli llifogydd yn naturiol

0

55

Cyfoeth Naturiol Cymru

Tregatwg – dull dalgylch integredig

44

300

Cyfoeth Naturiol Cymru

Dalgylch Trelái – rheoli llifogydd yn naturiol

2

83

Powys

Gwy – datrys problemau defnydd tir anhydrin

151

296

Powys

O Drefyclo i’r Drenewydd – rheoli llifogydd yn naturiol

169

128

 

Mesur 16

Llywodraeth Cymru i ddechrau adolygiad o effeithiolrwydd deddfwriaeth systemau draenio gynaliadwy (SDCau) yn 2021.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru eu hadolygiad o weithrediad systemau draenio cynaliadwy, neu SDCau, yn ystod cyfnod adrodd yr adroddiad hwn, ac yna fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023 drwy ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd. Cwblhawyd gweithdai mewnol i ddadansoddi argymhellion yr adroddiad, ac yn dilyn hynny, caiff opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen â’r argymhellion eu datblygu er mwyn i’r gweinidogion eu hystyried. Cytunodd y Gweinidog ar gynllun gwaith i helpu i wella dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth statudol ar gyfer SDCau a’r defnydd ohoni, a weithredir ac a greffir arni gan gymuned ymarfer y SDCau.

Mesur 17

Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) erbyn 2021 gan gydnabod yr wybodaeth am berygl o lifogydd sydd bellach ar gael i awdurdodau cynllunio lleol.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cyhoeddwyd y cyngor cynllunio diweddaraf ar lifogydd ar ffurf Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15) newydd ar 31 Mawrth 2025.

Mae’r Nodyn Cyngor Technegol hwn wedi’i ddiwygio’n sylweddol yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus ar wahân. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr adborth o’r ymgynghoriadau hyn i ystyriaeth ac wedi gwneud addasiadau i ddarparu hyblygrwydd priodol i brosiectau adfywio, gan barhau i gydnabod y perygl cynyddol o lifogydd oherwydd newid hinsawdd. 

Mae’r TAN15 newydd yn sicrhau ein bod yn sicrhau’r warchodaeth amgylcheddol fwyaf bosibl, yn diogelu twf yn ein heconomi, ac yn creu cymunedau cynaliadwy. Mae’r saib diweddar wedi bod yn gyfle gwerthfawr i feithrin mwy o wytnwch gan sicrhau bod cynlluniau’r dyfodol yn cydnabod gweithgareddau awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r argyfwng newid hinsawdd yn eu hachosi.

Ochr yn ochr â chyhoeddi’r Nodyn Cyngor Technegol, mae cyfarwyddyd hysbysu newydd wedi’i gyhoeddi sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod cynllunio lleol sydd â’r bwriad o gymeradwyo datblygiad newydd sy’n agored iawn i niwed o fewn parth llifogydd 3, nad yw ar dir llwyd, hysbysu Gweinidogion Cymru cyn y gellir rhoi unrhyw gydsyniad cynllunio. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ailgychwyn Fframwaith Perfformiad Cynllunio Cymru yn ddiweddar, sy’n casglu gwybodaeth am ddatblygiad mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd. Mae setiau data a gasglwyd fel rhan o’r fframwaith wedi cael eu hadolygu gyda chynnig i gasglu setiau data newydd ar ddatblygu a pherygl o lifogydd.

Mesur 18

Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r grwpiau arfordirol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu canllawiau pellach ar addasu arfordirol erbyn 2022.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru a’r grwpiau arfordirol

Statws: Wedi’i atal

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru ym mis Hydref 2024, sy’n amlinellu’r ymrwymiad sylweddol i ymateb i’r hinsawdd sy’n newid. Yn y ddogfen, cydnabuwyd bod llifogydd yn effeithio ar bob maes polisi.

Serch hynny, wrth fyfyrio ar y stormydd diweddaraf a gafwyd dros y gaeaf, mae’n amlwg bod angen sgwrs o’r newydd am reoli’r perygl o lifogydd a meithrin gwytnwch yn y cymunedau sydd mewn perygl. Nid oes angen gweledigaeth na strategaeth newydd i ysgogi’r trafodaethau hynny, ac nid oes angen gosod y cyfeiriad sy’n deillio ohonynt, ond gallant gynnig ffordd ddefnyddiol o ysgogi deialog o’r fath.

Gan fod y Strategaeth yn gorgyffwrdd ag adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ‘Meithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd yng Nghymru erbyn 2050’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn enwedig y ffocws y mae’r argymhellion yn ei roi ar symleiddio cynlluniau a strwythurau presennol, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cynlluniau a’r strwythurau ar wahân presennol o fewn y Llywodraeth i ganfod a oes cyfle amlwg ar gyfer gwell integreiddio. 

Mesur 19

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu a sefydlu rhaglen fonitro briodol i gynorthwyo a llywio’r Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd erbyn 2022.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fonitro’r graddau y mae cynefinoedd rhyngwladol yn cael eu colli drwy werthuso pob cynllun a phrosiect arfordirol mawr ar lefel prosiect gan ddefnyddio methodoleg asesu gwasgfa arfordirol briodol newydd. (Darperir canllawiau ar gyfer cwblhau asesiadau gwasgfa arfordirol yn GN062, Asesiad o Wasgfa Arfordirol, Cyfoeth Naturiol Cymru, 2022). Mae’r amcangyfrifon o’r graddau cyfredol a rhagamcanol y mae cynefinoedd yn cael eu colli oherwydd gwasgfa arfordirol yn seiliedig ar y rhagamcanion a’r cyfraddau cynnydd diweddaraf o ran lefel y môr yn Rhagolygon Hinsawdd y DU 18 (UKCP18). Caiff effeithiau cynlluniau a phrosiectau arfordirol ar yr ardal forol warchodedig bellach eu cefnogi gan ddata asesiad o’r effaith amgylcheddol cyfoes (Oaten J, Finch D, Frost N 2024). Deall graddfa debygol dirywiad nodweddion ardaloedd morol gwarchodedig oherwydd gwasgfa arfordirol. Adroddiad Tystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru Rhif: 789, tt, Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor.)

Hyd yma mae’r Rhaglen Creu Cynefinoedd Genedlaethol wedi creu cynefin cydbwyso drwy waith adlinio rheoledig yng Nghors Cwm Ivy a Crofty yng ngogledd Gŵyr, ac ym Morfa Friog yn aber afon Mawddach. Mae’r safleoedd hyn wedi cael eu monitro o bryd i’w gilydd ers 2015, ac ar hyn o bryd mae’r gwaith hwn yn cael ei ailwneud bob tair i bedair blynedd.

Mesur 20

Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i safoni adroddiadau uniongyrchol am lifogydd i eiddo ac achosion o erydu erbyn diwedd 2021, yn unol â Fframwaith Ymateb i Lifogydd Cymru.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru / Grŵp Llifogydd Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ag awdurdodau rheoli risg a darparwyr cydnerthedd ehangach, nid oes unrhyw awydd i safoni prosesau adrodd. Mae systemau eraill ar gael ar gyfer cael gafael ar ddata, ond nid oes yr un ohonynt yn fwy effeithlon nac effeithiol na’n dull presennol ni o goladu data drwy e-bost, felly ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.

Caiff manylion adrodd adran 19 yn ystod y cyfnod adrodd eu trafod yn adran 2.4 isod.

Mesur 21

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol i gydweithio a sefydlu gofynion lefel uchel a chanllawiau ategol ar gyfer adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 erbyn 2023.

Yn arwain: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol / Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r awdurdodau lleol

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cwblhaodd yr Athro Elwen Evans waith i adolygu adroddiadau adran 19 yng Nghymru yn ystod haf 2023 mewn ymateb i Fesur y Rhaglen Lywodraethu: “Comisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020–2021 (sic) a gweithredu ar ei argymhellion”. Sefydlodd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol is-bwyllgor i gyflawni’r mesur hwn o’r Strategaeth, ac maent yn adolygu adroddiad Elwen Evans wedi’u harwain gan adolygiad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn Lloegr ar adroddiadau adran 19. Ymgynghorir â rhanddeiliaid allweddol ynghylch unrhyw fylchau y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt â’r awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i gael adborth a chyfarwyddyd ar gyfer unrhyw argymhellion.

Mesur 22

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau rheoli risg i ddatblygu rhaglen o brosiectau buddsoddi pump i ddeng mlynedd.

Yn arwain: Llywodraeth Cymru a phob awdurdod rheoli risg

Statws: Ar waith

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Mae awdurdodau lleol Cymru yn y broses o ysgrifennu eu strategaethau lleol a fydd yn cynnwys opsiynau ariannu a blaenoriaethu, gan gynnwys cynlluniau gweithredu lleol. Ar ôl iddynt gael eu hadolygu, bydd y manylion hyn yn rhan o’r gwaith ehangach i ddatblygu rhaglen i ddiwallu anghenion rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol, wedi’u cyfiawnhau yn unol â’r canllawiau achos busnes ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yn ogystal â chynllun tymor canolig sefydledig Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd cynllun rheoli’r perygl o lifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ddefnyddio fel offeryn i gefnogi eu hanghenion buddsoddi yn y dyfodol gan amlinellu’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Wrth symud ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â’r holl awdurdodau rheoli risg i ystyried anghenion buddsoddi yn y dyfodol.

Mesur 23

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyhoeddi gofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol, gan ategu Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, erbyn diwedd 2021.

Yn arwain: Cyfoeth Naturiol Cymru

Statws: Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei ofynion buddsoddi hirdymor ar gyfer rheoli sylfaen asedau amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn 2023. Roedd yr asesiad a’r canlyniadau yn canolbwyntio ar y gwaith cyfalaf y mae ei angen ar gyfer asedau amddiffyn rhag llifogydd presennol. Roedd yr asesiad yn defnyddio’r ddealltwriaeth ddiweddaraf o’r perygl o lifogydd yng Nghymru yn genedlaethol i fodelu gwahanol sefyllfaoedd. Defnyddiwyd nodweddion Asesu Perygl Llifogydd Cymru, a oedd newydd ddod ar gael, yn benodol yr offeryn economaidd newydd a ddatblygwyd fel rhan o brosiect Asesu Perygl Llifogydd Cymru. 

Cyflwynwyd adroddiad yn crynhoi’r asesiad hwn i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ogystal â Phwyllgor Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol cyn iddo gael ei gyhoeddi’n swyddogol. Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, cyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Rhagfyr 2023. Cafwyd cyfweliadau â’r cyfryngau a chyhoeddwyd y gwaith ar ein gwefan allanol. Mae’r prif ganfyddiadau yn cynnwys y canlynol:

  • Bod dal i fyny â’r newid yn yr hinsawdd ym mhobman yn gostus iawn, gan fod y senario hwn yn golygu buddsoddiad sydd 3.4 gwaith yn uwch na’r lefelau ariannu presennol.
  • Pan gaiff buddsoddiad ei ganolbwyntio’n llwyr ar leoliadau ble byddai’n ddarbodus i fuddsoddi, dim ond 13% o ardaloedd a amddiffynnir a brofwyd i fod yn economaidd hyfyw o safbwynt cyd-fynd â’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae 70% o’r holl eiddo sydd mewn perygl ledled Cymru wedi’u lleoli yn yr ardaloedd hyn a amddiffynnir.

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried gwaith pellach posibl i gryfhau tystiolaeth y gofynion buddsoddi hirdymor a datblygu achos buddsoddi cryf ynghylch pob agwedd ar reoli’r perygl o lifogydd.

Mesur 24

Bydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn archwilio cyfleoedd i fwyafu cyfraniadau partneriaid a buddsoddiadau mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol erbyn 2022.

Yn arwain: Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Statws: Wedi’i gwblhau – y camau nesaf i’w cymryd

Yr wybodaeth ddiweddaraf: Cafodd yr adroddiad terfynol ‘Adnoddau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru’ ei gymeradwyo gan y pwyllgor ym mis Mai 2022 a’i gyflwyno i’r Gweinidog. Adnoddau ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU. Mae nifer o’r cynigion yn yr adroddiad ar yr adnoddau wedi’u datblygu ymhellach gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac maent wedi’u hadlewyrchu yn argymhellion y comisiwn. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn ar gael yma: Llythyr: Ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad NICW i Adeiladu Gwytnwch i Lifogydd yng Nghymru erbyn 2050 | LLYW.CYMRU

Mae’r pwyllgor wedi gwneud y cynnydd canlynol mewn cydweithrediad agos â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf:

  • Creu’r gallu i arwain rhaglen i wella adnoddau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
  • Cynnal adolygiad o sgiliau a chapasiti cynaliadwyedd amgylcheddol yn 2024.
  • Cynnal gweithdy gyda’r Dirprwy Brif Weinidog i dynnu sylw at y problemau sy’n wynebu’r sector ym mis Mawrth 2025.
  • Cychwyn ar waith i adolygu llywodraethiant a chydweithrediad grwpiau rhanbarthol, gan gynnwys eu rhyngweithiadau â’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
  • Cynnal trafodaethau sy’n canolbwyntio ar allu eiddo i wrthsefyll llifogydd a rôl y sector yswiriant, gan gynnwys cyhoeddi ‘Yswiriant a Flood Re – Safbwynt Cymru‘ ym mis Tachwedd 2024.

Adrodd ar yr hyn sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru a’r hyn sydd wedi’i wneud i reoli’r perygl

Mae ail ran yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ehangach yn erbyn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, ac yn enwedig y gofynion ym mharagraff 335.

  • Disgrifiad o lefel perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru;
  • Manylion cynlluniau a phrosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr;
  • Cyfeiriad at ddigwyddiadau llifogydd mawr;
  • Enghreifftiau o arferion da o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i brosiectau newydd neu arloesol, defnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd, gweithio mewn partneriaeth, darparu gwybodaeth a chyfranogiad cymunedol.

Perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru

Llifogydd

Mae 342,436 o eiddo yng Nghymru nas amddiffynnir mewn perygl o lifogydd. Rydym yn defnyddio’r gwerth hwn o ran eiddo nas amddiffynnir, sy’n rhagdybio nad oes unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle hyd yn oed os ydynt yn bodoli, oherwydd y gall amddiffynfeydd gael eu llethu neu fethu, ac felly mae’r eiddo yn dal i fod mewn perygl. Gall rhai eiddo fod mewn perygl o lifogydd o fwy nag un ffynhonnell a, gan osgoi cyfrif yr eiddo sydd mewn perygl o ffynonellau lluosog ddwywaith neu deirgwaith, amcangyfrifir bod 274,534 o eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru ar hyn o bryd. O’r eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr, amcangyfrifir bod tua 103,000 yn cael budd o amddiffynfeydd rhag llifogydd.

O fewn y ffigurau a ddarparwyd, mae risg uchel yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns o fwy nag un mewn 30 (3.3%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon. Mae risg ganolig yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns rhwng un mewn 100 (1%) ac un mewn 30 (3.3%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon. Mae risg isel yn golygu, bob blwyddyn, fod siawns rhwng un mewn 1,000 (0.1%) ac un mewn 100 (1%) y bydd llifogydd yn yr ardal hon.

Mae’r tablau canlynol yn dangos rhaniad yr eiddo yn ôl lefel y risg a fesul ffynhonnell.

Tabl 5: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo amhreswyl, a’r gwasanaethau sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd yng Nghymru.

 Disgrifiad o’r perygl o lifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo amhreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd*

Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd

Afonydd uchel

25,126

3,074

787

28,987

Afonydd canolig

17,172

2,528

486

20,186

Afonydd isel

48,804

7,028

1,472

57,304

Cyfanswm yr afonydd

91,102

12,630

2,745

106,477

*Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy’n gysylltiedig ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau a gwasanaethau brys.

Tabl 6: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo amhreswyl, a’r gwasanaethau sydd mewn perygl o lifogydd o’r môr yng Nghymru.

Disgrifiad o’r perygl o lifogydd

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo amhreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd*

Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd

Môr uchel

56,759

5,913

1,194

63,866

Môr canolig

13,638

2,097

458

16,193

Môr isel

9,884

1,429

335

11,648

Cyfanswm y môr

80,281

9,439

1,987

91,707

*Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy’n gysylltiedig ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau a gwasanaethau brys.

Tabl 7: Nifer yr eiddo preswyl, yr eiddo amhreswyl, a’r gwasanaethau sydd mewn perygl o lifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach yng Nghymru.

Dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach

Eiddo preswyl mewn perygl o lifogydd

Eiddo amhreswyl mewn perygl o lifogydd

Gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd*

Cyfanswm sydd mewn perygl o lifogydd

Uchel

34,977

3,877

1,015

39,869

Canolig

18,057

2,188

533

20,778

Isel

74,042

7,562

2,001

83,605

Cyfanswm

127,076

13,627

3,549

144,252

*Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys mathau o eiddo sy’n gysylltiedig ag addysg, gwasanaethau iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau a gwasanaethau brys.

Mae mwy o wybodaeth am gynhyrchion Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, gan gynnwys y data a ddangosir yn ofodol ar fapiau, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gael i’w lawrlwytho drwy MapDataCymru.

Erydu arfordirol

Amcangyfrifir y bydd rhwng 1,262 a 4,053 o eiddo yng Nghymru mewn perygl yn sgil erydu arfordirol dros y 100 mlynedd nesaf. Mae’r Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol yn darparu ffigurau dros y tymor byr, canolig a hir, o fewn dwy senario reoli, a hefyd o fewn tri band hyder gwahanol.

Mae senario gweithredu’r cynlluniau rheoli traethlin yn rhagdybio y cyflawnir y polisïau rheoli a nodir yn y cynlluniau, lle mae’r senario Dim Ymyrraeth Weithredol yn rhagdybio na chymerir unrhyw gamau rheoli.

Mae ‘hyder canradd’ yn golygu pa mor sicr ydym y bydd erydu yn cyrraedd man penodol erbyn adeg benodol mewn amser. Mae bandiau hyder yn ymwneud â’r ansicrwydd tebygoliaethol yn y gwaith modelu erydu; mae hyder o 95 canradd yn amcangyfrif ein bod 95% yn sicr y bydd erydu yn cyrraedd y man hwn erbyn adeg benodol mewn amser. Mae hyder o 5 canradd yn amcangyfrif ein bod 5% yn sicr y bydd erydu yn cyrraedd y man hwn erbyn adeg benodol mewn amser. Mae’r amcangyfrif o 50% yn un sydd yng nghanol yr ystod.

Mae’r tabl canlynol yn dangos rhaniad yr eiddo i’r categorïau gwahanol, y bandiau hyder a’r cyfnodau amser hyn, ar sail gwaith modelu’r Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2014.

Tabl 8: Nifer yr eiddo sydd mewn perygl yn sgil erydu arfordirol yng Nghymru.

Cyfnod

Band hyder

Senario gweithredu’r Cynllun Rheoli Traethlin

Senario Dim Ymyrraeth Weithredol

Tymor byr

(2005–2025)

95%

1

62

Tymor byr

(2005–2025)

50%

4

76

Tymor byr

(2005–2025)

5%

6

135

Tymor canolig

(2025–2055)

95%

80

368

Tymor canolig

(2025-2055)

50%

108

780

Tymor canolig

(2025-2055)

5%

144

1,214

Tymor hir

(2055-2105)

95%

170

1,262

Tymor hir

(2055-2105)

50%

293

2,594

Tymor hir

(2055-2105)

5%

406

4,053

Mae rhagor o wybodaeth am y Mapiau Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol, gan gynnwys y data a ddangosir yn ofodol ar fapiau, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gael i’w lawrlwytho drwy MapDataCymru.

Manylion cynlluniau a phrosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr

Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £68 miliwn mewn gwaith Cyfalaf. Sylwer nad yw’r ffigur o £68m yn cynnwys y cynlluniau a ariennir drwy’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP). Mae cynlluniau’r Rhaglen honno yn dod o dan raglen gyllido ar wahân a oedd yn defnyddio pwerau benthyca awdurdodau lleol i gyllido’r gwaith adeiladu, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu 85% o’r ad-daliadau dros amser. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y cynlluniau cyfalaf sylweddol canlynol naill ai wedi’u cwblhau neu ar ganol eu hadeiladu yn ystod y cyfnod dan sylw.

Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau cyfnod dylunio a chyfnodau adeiladu FCERM, yn ogystal â mapiau sy’n dangos cyfansoddiad pob blwyddyn o’r rhaglen, wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Tabl 9: Cynlluniau sylweddol i liniaru llifogydd drwy Gymru rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025

Blwyddyn gyflawni

Awdurdod Rheoli Risg (ARhR)

Enw’r cynllun

Cartrefi wedi’u diogelu

Busnesau wedi’u diogelu

Cyfanswm yr eiddo wedi’u diogelu

Cyllid grant a ddarparwyd i’r ARhR (£k)

2024/25

Caerffili

Heol y Felin, Deri

5

0

5

£116.30

2024/25

Caerdydd

CRMP Arfordir Caerdydd (Rover Way i Ffordd Lamby)

2,326

204

2530

£30,546.6

2024/25

Sir Gaerfyrddin

Chwarel Ffinant

16

34

50

£393.2

2024/25

Sir Gaerfyrddin

Stryd Arthur

43

1

44

£567.10

2024/25

Ceredigion

CRMP Aberaeron

124

42

166

£26,851.5

2023/24

Conwy

Llansannan

19

1

20

£1,628.2

2024/25

Conwy

Eldon Drive, Abergele

30

3

33

£1,188

2024/25

Conwy

CRMP Bae Cinmel

1,295

40

1335

£14,121.6

2024/25

Conwy

CRMP Llandudno

2,703

702

3405

£4,428.5

2024/25

Sir Ddinbych

CRMP Prestatyn

2,297

86

2383

£22,179.4

2024/25

Sir Ddinbych

CRMP Canol y Rhyl

548

44

592

£56,121.9

2024/25

Gwynedd

Uwchraddio Sgrin Cadnant

80

39

119

£589.2

2024/25

Gwynedd

CRMP Gerddi Traphont Bermo

24

7

31

£4,866.9

2023/24

Gwynedd

CRMP Hirael

186

8

194

£5,083.0

2024/25

Gwynedd

Porthdinllaen

16

1

17

£316.3

2023/24

Ynys Môn

Lôn y Felin, Strwythur Newydd

10

0

10

£263.5

2023/24

Ynys Môn

Y Fali / Valley

27

0

27

£545.7

2024/25

Castell-nedd Port Talbot

Glyn-nedd

251

23

274

£3,089.5

2024/25

Castell-nedd Port Talbot

Stanley Place

17

0

17

£411.0

2024/25

CNC

Stryd Stephenson

194

620

814

£21,000.0

2024/25

CNC

Rhydaman

198

25

223

£6,500.0

2024/25

CNC

FRM Sandycroft - Gwaith Clirio Safle

214

4

218

£834.0

2024/25

Powys

Llowes

7

1

8

£100.0

2024/25

Powys

Pont-faen

17

0

17

£56.1

2023/24

Powys

Talgarth Cam 2

7

0

7

£271.6

2024/25

Powys

Felindre

12

0

12

£114.2

2024/25

Rhondda Cynon Taf

Cemetary Road, Treorci

439

17

456

£514.3

2024/25

Rhondda Cynon Taf

Heol Glenboi - Gorsaf bwmpio

24

0

24

£1,194.3

2024/25

Rhondda Cynon Taf

Trifounder Road / Bro Deg Cam 2

9

30

39

£191.3

2024/25

Rhondda Cynon Taf

Stryd Victor

24

11

35

£467.5

2024/25

Abertawe

CRMP y Mwmbwls

76

50

126

£22,565.8

2023/24

Torfaen

Gwelliannau Blaenbrân

87

10

97

£665.4

2024/25

Bro Morgannwg

PFR Dinas Powys

186

5

191

£2,117.9

 

Dylid nodi, yn ogystal â’r cynlluniau uchod, bod cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei ddefnyddio ar ystod eang o gynlluniau ar raddfa fach, a gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu, sydd hefyd o fudd i eiddo ac yn cynnal y lefelau presennol o warchodaeth rhag llifogydd ledled Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflawni prosiectau cynnal a chadw cyfalaf sydd wedi gwarchod 1,688 eiddo ledled Cymru gydol y cyfnod hwn.

Cynlluniau a phrosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr – astudiaethau achos

Mae’r adran hon yn cynnwys detholiad o astudiaethau achos sy’n arddangos rhai o’r cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol newydd mawr sydd wedi’u llunio ledled Cymru yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn (rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025).

Cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol y Mwmbwls

Sefydliad: Cyngor Abertawe

Lleoliad y prosiect: Cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol y Mwmbwls

Partneriaid allweddol: Llywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Mae cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol y Mwmbwls yn lleihau’r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau, nawr ac yn y dyfodol. Roedd yr amddiffynfeydd presennol wedi mynd yn ddiffygiol ac mewn cyflwr gwael, ac roedd angen eu disodli’n gyfan gwbl gan nad oedd y gwaith atgyweirio rheolaidd, a fu’n cael ei wneud am flynyddoedd, yn ddigonol mwyach. Nod y prosiect oedd bod yn ystyrlon o’r ffaith bod y Mwmbwls yn gyrchfan ymwelwyr glan môr wrth warchod pobl ac eiddo rhag llifogydd. Er mwyn gwneud hyn, roedd ymgysylltu â’r cyhoedd yn gynnar ac yn aml yn bwysig. Helpodd barn y cyhoedd, busnesau ac eraill i lunio’r prosiect arwyddocaol hwn. Dechreuwyd ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2019 i hysbysu trigolion y Mwmbwls am y bwriad i greu cynllun. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach ar y morglawdd a chyfleoedd yn y dyfodol yn ystod haf 2021 cyn i’r dyluniad manwl gael ei greu. O ganlyniad i’r adborth a gafwyd gan y gymuned, roedd y cynllun yn cynnwys y gwaith canlynol:

  • adeiladu prif wal amddiffyn ar ochr y promenâd sy’n wynebu’r môr i sicrhau’r safon gofynnol ar gyfer tonnau’n gorlifo, tua 1.2 cilometr o hyd;
  • cynnal a lledu’r promenâd presennol a newid lefelau’r promenâd lle bo angen;
  • adeiladu ail wal amddiffyn wedi’i gosod ymhellach yn ôl i sicrhau’r safon gofynnol ar gyfer tonnau’n gorlifo;
  • ymgymryd â gwaith addas i gryfhau’r darn 0.7 cilometr o’r wal gynnal bresennol, gan gynnwys ystyried y posibilrwydd o ysgwrio a gostwng lefel y blaendraeth;
  • darparu gwell parthau cyhoeddus sy’n gwella cysylltedd i’r promenâd ac oddi yno, a darparu mwy o ardaloedd bioamrywiol wedi’u tirlunio, ardaloedd chwarae ac eisteddfannau.

Y prif ganlyniadau: Gwarchod 162 eiddo preswyl a busnes yn y Mwmbwls rhag y perygl o lifogydd yn y dyfodol dros y 100 mlynedd nesaf.

Cynllun amddiffynfeydd arfordirol tir blaen Hen Golwyn

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Lleoliad y prosiect: Bae Colwyn

Prif ffrwd gyllido: Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, Y Gronfa Teithio Llesol, Y Gronfa Trafnidiaeth Leol), Dŵr Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Mae amddiffynfeydd arfordirol tir blaen Hen Golwyn wedi bod yn dirywio yn gyflym, gyda stormydd yn arwain at ostyngiad yn lefel y traeth, difrod aml a’r angen i gau’r promenâd a phriffyrdd, a chynnal gwaith atgyweirio brys adweithiol. Roedd amlder a dwyster cynyddol stormydd yn cael effaith negyddol ar y seilwaith ar ochr y tir o’r amddiffynfa arfordirol bresennol. I fynd i’r afael â’r broblem hon, rhoddwyd cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol Hen Golwyn ar waith er mwyn cynnal gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol ac amddiffynfeydd rhag stormydd a fyddai’n gwella eu gallu i wrthsefyll perygl, ac yn gwarchod seilwaith pwysig cyfagos rhag difrod gan stormydd arfordirol. Roedd y cynllun hefyd am geisio gwella teithio llesol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at adfywiad hirdymor yr ardal, gan roi hwb i dwristiaeth leol ac ymateb yn gadarnhaol i newid hinsawdd.

Ffigur 3: Llun yn dangos y promenâd newydd ym Mae Colwyn yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr.

Cafodd y seilwaith amddiffyn arfordirol a oedd yn dirywio a’r promenâd hen ffasiwn eu gwella’n sylweddol, nid yn unig er mwyn cryfhau eu gallu i wrthsefyll llifogydd ac erydu, ond er mwyn darparu promenâd modern, diogel a hygyrch.

Y prif ganlyniadau: Mae’r prosiect yn darparu lefel uwch o warchodaeth rhag erydu arfordirol a llifogydd i 200 o gartrefi a busnesau, yn ogystal â seilwaith hanfodol megis Gwibffordd Gogledd Cymru (yr A55) a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

Mae llwybr beicio a rennir â chyfleusterau cysylltiedig, marcwyr iechyd a gwell mynediad at y traeth wedi annog nifer o weithgareddau sy’n gysylltiedig â ffitrwydd i gael eu cynnal ar y tir blaen unwaith eto.

Sicrhaodd y prosiect sgôr ‘Rhagorol’ gan y Cynllun Asesu Ansawdd a Dyfarniadau Peirianneg Sifil, a’i roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflawniad Eithriadol y cynllun am ei ymagwedd hynod uchelgeisiol a chynhwysfawr at gynaliadwyedd.

Mae’r cynllun wedi’i ddylunio a’i adeiladu gyda chynhwysiant mewn golwg, gyda rampiau mynediad sydd â llethrau graddol i’r promenâd uchel a’r ardaloedd platfform pysgota, a darpariaeth parcio i bobl anabl.

Drwy gynnwys y gymuned yn y gwaith o ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y promenâd wedi’i wella, mae hyn wedi creu man sy’n rhoi ymdeimlad o berthyn i holl aelodau’r gymuned.

Cynllun lliniaru llifogydd Stryd Stephenson

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Stryd Stephenson, Llyswyry, Casnewydd

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Stryd Stephenson yw cynllun llifogydd mwyaf a mwyaf cymhleth Cyfoeth Naturiol Cymru erioed. Mae tua 2 gilometr o amddiffynfeydd uchel (byndiau llifogydd, waliau pentwr dalennau a waliau concrit wedi’u hatgyfnerthu) wedi’u hadeiladu o fewn y gyllideb a’r rhaglen yn y lleoliad trefol cymhleth, wrth ymyl morfa heli sensitif o bwys cenedlaethol, busnesau a chyfleustodau. Mabwysiadodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddull cydweithredol un tîm, arloesedd a dylunio o’r egwyddorion cyntaf a’n galluogodd i ddarparu atebion cynaliadwy, carbon isel yn ogystal ag adnabod a defnyddio cadwyn gyflenwi leol yn gynnar. Er mwyn goresgyn cyfyngiadau sylweddol, mae’r cynllun wedi’i adeiladu mewn modd effeithlon sy’n sensitif i’r amgylchedd ac yn diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Ffigur 4: Llun yn dangos gwaith adeiladu cynllun lliniaru llifogydd Stryd Stephenson.

Y prif ganlyniadau:

  • 194 o gartrefi a 620 o fusnesau wedi’u gwarchod yn well rhag llifogydd llanwol ar draws Llyswyry.
  • Pan ystyrir newid hinsawdd, mae 1,100 o gartrefi a 1,000 o eiddo amhreswyl wedi’u gwarchod yn well rhag llifogydd llanwol ar draws Llyswyry.
  • Gwelliannau i fannau gwyrdd cymunedol a’r rhan gyfagos o lwybr arfordir eiconig Cymru.
  • Gwerth eithriadol am arian, gyda phob £1 a gaiff ei wario yn darparu £8 yn ystod ei oes.

Achosion o lifogydd mawr

Yn ystod y cyfnod adrodd ar gyfer yr adroddiad hwn, sef rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025, bu nifer o stormydd sydd wedi arwain at effeithiau ledled Cymru. Os oes llifogydd mewn eiddo mewn ardal benodol, mae’n bosibl y bydd angen i’r awdurdodau llifogydd lleol arweiniol sy’n rheoli’r ffynhonnell benodol honno o lifogydd lunio adroddiad adran 19 ar y llifogydd. Mae’r tabl isod yn cynnwys unrhyw adroddiadau adran 19 sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod y cyfnod adrodd hwn, neu ar gyfer llifogydd a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod adrodd ac a gyflwynwyd i ni. Nid yw’n glir a ydyw hwn yn gofnod cyflawn o’r holl adroddiadau adran 19 yn ystod y cyfnod adrodd, sy’n amlygu rhai o’r heriau yn ymwneud â throsolwg genedlaethol o’r broses hon.

Tabl 10: Adroddiadau adran 19 a gynhyrchwyd gan awdurdodau lleol.

Awdurdod lleol

Lleoliad

Dyddiad y llifogydd

Dyddiad cyhoeddi

Dolen i adroddiad adran 19

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Llandudno

Hydref 2023

(Storm Babet)

 -

Adroddiad ar gael ar gais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Llanfairfechan

Ebrill 2024

(Storm Pierrick)

 -

Adroddiad ar gael ar gais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bae Cinmel

Ebrill 2024

(Storm Pierrick)

 -

Adroddiad ar gael ar gais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Melyn

3 Tachwedd 2022

17 Ionawr 2024

https://www.npt.gov.uk/cy/parcio-ffyrdd-a-theithio/perygl-o-lifogydd-a-draenio/ymchwilio-i-lifogydd/

Cyngor Abertawe

Gorseinon Isaf

Chwefror 2020 (Storm Dennis)

13 Hydref 2025

Ymchwilio i lifogydd – Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wrddymbre

16 Hydref 2024

18 Gorffennaf 2025

Adroddiadau ymchwiliadau llifogydd adran 19 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam


Stormydd ac effeithiau a effeithiodd ar Gymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025

Mae’r siart isod yn dangos y rhagolygon perygl o lifogydd ar gyfer Cymru ar gyfer pob dydd dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf. Mae un llinell liw ar gyfer pob diwrnod i nodi’r perygl o lifogydd a ragwelwyd. Mae coch yn dynodi perygl uchel o lifogydd, oren yn berygl canolig, melyn yn berygl isel a gwyrdd yn berygl isel iawn.

Ffigur 5: Ffigur yn dangos y rhagolygon perygl o lifogydd ar gyfer Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol dros y pum mlynedd diwethaf. Ar gyfer pob blwyddyn, mae llinell ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn, wedi’i graddliwio yn ôl y perygl o lifogydd a ragwelwyd.

Mae’r adrannau canlynol yn crynhoi’r stormydd mawr a’u heffeithiau cysylltiedig sydd wedi effeithio ar Gymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025.

Storm ddienw, 20 Medi 2023

Daeth gweddillion Corwynt Lee, a effeithiodd ar Bermuda, yr Unol Daleithiau a Chanada, â gwyntoedd cryfion a bandiau o law trwm a achosodd lifogydd ar ffyrdd a tharfiad yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Yng Nghlydach yng Nghwm Tawe, cyrhaeddodd afon Clydach ei hanterth ar 4.16 metr gan achosi llifogydd yng Nghlwb Golff Mond Valley a chaeau ac adeiladau Clwb Rygbi Faerdre.

Storm Babet, 18–21 Hydref 2023

Storm Babet oedd y trydydd cyfnod annibynnol gwlypaf o dri diwrnod ar draws Cymru a Lloegr gyfan ers 1891. Teimlwyd yr effeithiau mewn cymunedau ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wrth i’r storm sbarduno 46 rhybudd llifogydd ar lefelau amrywiol mewn cyfnod o 48 awr, sy’n dangos y glawiad enfawr a ddisgynnodd yn yr ardal hon o Gymru dros gyfnod cymharol fyr o amser. Effeithiwyd ar drafnidiaeth wrth i ffyrdd a rheilffyrdd ddioddef llifogydd, a bu’n rhaid i nifer o ysgolion gau. Mewn rhai ardaloedd gorfodwyd pobl i adael eu heiddo o ganlyniad i’r glaw trwm a’r llifogydd cynyddol, a arweiniodd at oddeutu 160 eiddo yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys yn wynebu llifogydd. Cyhoeddwyd rhybudd llifogydd difrifol, sy’n golygu bod perygl i fywyd, ar gyfer Llandrinio, Powys ac yn cwmpasu’r ardal lle mae afon Hafren ac afon Efyrnwy yn cwrdd. 

Storm Ciaran, 31 Hydref–1 Tachwedd 2023

Daeth gwyntoedd cryfion iawn a glaw trwm yn sgil storm Ciaran yn fuan ar ôl Storm Babet. Roedd dalgylch afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod eisoes yn orlawn o ddŵr, a chyhoeddwyd rhybudd llifogydd difrifol wrth i’r afon gyrraedd ei lefelau uchaf erioed. Cyfrannodd Cyfoeth Naturiol Cymru at yr ymateb amlasiantaethol, ac arweiniodd y cyngor a roddwyd at dros 900 o bobl yn cael eu symud yn ddiogel a llwyddiannus i fan diogel wrth i ddŵr orlifo i safle wyliau Kiln Park. 

Storm Henk, 2 Ionawr 2024

Storm Henk oedd yr wythfed storm i gael ei henwi y tymor hwnnw, ac arweiniodd at darfiad eang, gyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm ledled Cymru. Effeithiwyd waethaf ar afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, a fu’n destun rhybudd llifogydd difrifol, a chafwyd llifogydd ym maes carafanau Kiln Park am yr eildro y gaeaf hwnnw.

Storm Isha, 21–22 Ionawr 2024

Daeth Storm Isha â gwyntoedd mor gryf â 90mya, ynghyd â thywydd gwlyb iawn. Cafodd tir uchel Gogledd Cymru 50 milimetr o law, ac mewn mannau cafwyd dros 100 milimetr. Cafodd ffyrdd eu gorlifo yng Ngogledd Cymru, ac achosodd y gwyntoedd cryfion darfiad sylweddol. Lleihawyd y perygl o lifogydd yn sgil Storm Isha am iddi gyrraedd ar ôl pythefnos o dywydd oer a sych.

Storm Kathleen, 6–7 Ebrill 2024

Roedd Storm Kathleen yn storm anarferol o ddifrifol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, gyda gwyntoedd cryf iawn, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, ac roedd hefyd wedi cyd-daro â chyfnod y gorllanw a glaw trwm. Effeithiodd y tywydd stormus yn arbennig ar rannau gorllewinol a gogleddol Cymru. Cafodd 35 eiddo lifogydd mewnol ar draws Conwy, Ceredigion a Thorfaen.

Storm Lilian, 22–23 Awst 2024

Storm Lilian oedd y ddeuddegfed storm, a’r storm olaf yn nhymor stormydd 2023–2024, a dyma’r tro cyntaf i stormydd wedi’u henwi gyrraedd y llythyren ‘L’ mewn unrhyw dymor stormydd. Storm Lilian oedd y storm wynt fwyaf arwyddocaol ym mis Awst i effeithio ar y DU ers stormydd Ellen a Francis ym mis Awst 2020. Effeithiodd gwyntoedd cryfion ar ardaloedd arfordirol o amgylch Cymru, gan arwain at gyhoeddi rhybudd llifogydd a negeseuon llifogydd.

Storm ddienw, 16 Hydref 2024

Cafwyd tarfiad eang mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig ym Mhowys a’r Gogledd-ddwyrain wrth i law trwm ddisgyn, gan achosi llifogydd i eiddo, rheilffyrdd a ffyrdd.

Storm Ashley, 20–21 Hydref 2024

Storm Ashley oedd storm gyntaf tymor stormydd 2024–2025, a daeth â glaw trwm a gwyntoedd cryf iawn ledled Cymru, gan effeithio’n bennaf ar ardaloedd a chymunedau arfordirol. Cafwyd llifogydd o’r môr o amgylch yr arfordir, gan gynnwys yng nghymunedau arfordirol y Borth, Llanrath ac Aberystwyth, ynghyd â llifogydd dŵr wyneb yng Nghaerdydd.

Storm Bert, 22–25 Tachwedd 2024

Dros benwythnos 23 a 24 Tachwedd 2024, daeth Storm Bert â chyfnod o dywydd gwlyb a gwyntog iawn i Gymru. Cafwyd glawiad eang rhwng 50 a 100 milimetr ledled Cymru, gyda thros 150 milimetr o law yn ardaloedd gwlypaf yr ucheldir. Mewn sawl lle yn y De, bu’r glawiad yn y cyfnod o dridiau rhwng 22 a 24 Tachwedd 70% neu’n uwch na’r glawiad cyfartalog ar gyfer mis Tachwedd. 23 Tachwedd oedd y diwrnod gwlypaf yn y DU ers mis Hydref 2020, a’r deuddegfed gwlypaf yng nghyfres y DU ers 1891. Arweiniodd y glaw hwn a oedd yn disgyn ar ddalgylchoedd a oedd eisoes yn wlyb at rai afonydd yn y De yn cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.

Mae dalgylchoedd â llethrau serth, fel cymoedd y De, yn ymateb yn gyflym iawn i gawodydd trwm. Daeth Storm Bert â glaw trwm iawn a bu’n anodd iawn rhagweld yn union ble y byddai’n effeithio. Ymatebodd afonydd yn nalgylch afon Taf yn hynod o gyflym i’r glawiad, gan roi ond ychydig o amser paratoi i gyhoeddi rhybuddion. Yn ystod Storm Bert, wynebodd mwy na 700 o gartrefi ledled Cymru lifogydd, gyda Phontypridd, yr effeithiwyd arni’n wael yn ystod storm Dennis ym mis Chwefror 2020, yn un o’r cymunedau yr effeithiwyd arni waethaf. Digwyddodd tirlithriad yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, gyda thomen lo nas defnyddir yn cwympo’n rhannol, gan orfodi gwacáu tua 40 o gartrefi oherwydd bod creigiau a mwd yn llifo i strydoedd preswyl. Yn ogystal, agorodd llync-dwll mawr ar stryd breswyl ym Merthyr Tudful ar ôl i gwlfer dan ddaear gael ei ddifrodi gan glogfeini.

O ganlyniad i Storm Bert, arweiniodd llifogydd a difrod i’r seilwaith at darfiad eang ar y rheilffyrdd, gan gynnwys cau rheilffyrdd Calon Cymru a’r Gororau. Cafodd llawer o ffyrdd eu cau hefyd oherwydd llifogydd a thirlithriadau, gan gynnwys yr A479 ym Mhowys a’r A4042 yn Sir Fynwy.

Storm Darragh, 6–7 Rhagfyr 2024

Daeth Storm Darragh â gwyntoedd cryf iawn i’r Gorllewin ac ardaloedd arfordirol ar hyd arfordir y De, gan arwain at rybudd coch prin yn cael ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU rybudd brys dros y ffôn i’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt hefyd. Dyma’r tro cyntaf i’r system hon gael ei defnyddio ers ei chyflwyno yn 2023.

Cyrhaeddodd Storm Darragh bythefnos yn unig ar ôl storm Bert, felly roedd y perygl o lifogydd hefyd yn bryder wrth i storm Darragh ddod â rhwng 50 milimetr a 100 milimetr o law i ardaloedd ucheldir Cymru ar ddalgylchoedd a oedd eisoes yn dirlawn. Cafwyd tarfiad eang i deithio, a difrod i adeiladau a seilwaith. Gwnaeth y gwyntoedd dinistriol ddifrodi seilwaith pŵer yn sylweddol, gyda mwy na 259,000 o gartrefi heb bŵer ar anterth y tarfiad ar y rhwydwaith trydan. Er i 110 o negeseuon llifogydd a 41 o rybuddion llifogydd gael eu cyhoeddi gydol storm Darragh, ni fu effeithiau’r llifogydd yn ddifrifol iawn.

Enghreifftiau o arferion da o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Enghreifftiau o arferion da o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Mae’r adran ganlynol yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau ac astudiaethau achos a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn, a gydnabyddir fel arferion da o ran arloesi, y defnydd o dechnegau naturiol i reoli llifogydd, gweithio mewn partneriaeth, darparu gwybodaeth neu gyfranogiad cymunedol.

Ffigur 6: Map yn rhoi trosolwg o’r enghreifftiau a ddarparwyd.

Prosiectau newydd neu arloesol

Platfform data ar gyfer y cyhoedd - Canolfan Monitro Arfordirol Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Sefydliad: Canolfan Monitro Arfordirol Cymru

Lleoliad y prosiect: Glan môr Cymru

Partneriaid allweddol: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Mae Canolfan Monitro Arfordirol Cymru wedi cyflawni cydweithrediad arloesol â Champws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu platfform data ar gyfer y cyhoedd. Mae’r offeryn hwn yn darparu mynediad agored ac uniongyrchol at dystiolaeth o newid arfordirol, gan gynnal gwell tryloywder a galluogi awdurdodau rheoli risg a rhanddeiliaid eraill i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar ddata. Mae’r platfform yn cynrychioli’r hyn sy’n gam mawr ymlaen o ran defnyddio arloesedd digidol i gynorthwyo’r gwaith o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.

Ffigur 7: Sgrinlun o blatfform data Canolfan Monitro Arfordirol Cymru, yn dangos proffiliau traethau ar gyfer Niwgwl – Traeth y Gogledd.

Y prif ganlyniadau: Mynediad agored i dystiolaeth o newid arfordirol.

Y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon a’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Rydym wedi datblygu ffordd newydd o gynllunio ein gweithgareddau cynnal a chadw arferol, gan ddefnyddio ein cronfa ddata rheoli asedau, a fydd yn ein galluogi i flaenoriaethu gwaith cynnal a chadw asedau arferol a dyrannu cyllid mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol. Mae’r Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg yn gweithio drwy ystyried ffactorau sy’n cynnwys lefel y risg, pa mor hanfodol yw ymgymryd â rhai camau gweithredu, economeg pob cam gweithredu, ac a oes gyrwyr eraill ar gyfer ein gwaith, gan gynnwys ymrwymiadau cyfreithiol. Rydym wedi datblygu’r model yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn parhau i wella’r canllawiau, y safonau a’r manylebau mewn perthynas â’r gwaith hwn. Wrth i ni gasglu mwy o ddata o gyflawni ein gwaith cynnal a chadw, rydym yn gwella’r dystiolaeth a’r rhagdybiaethau a wneir gan y model yn barhaus.

Y prif ganlyniadau: Bydd y Model Dyrannu Refeniw ar Sail Risg yn ein galluogi i sicrhau bod ein gwaith cynnal a chadw asedau perygl o lifogydd yn cael ei flaenoriaethu ar sail risg, gan sicrhau ein bod yn darparu’r gwerth gorau am arian drwy ein gwaith tra’n sicrhau bod rhwymedigaethau cynnal a chadw yn cael eu bodloni.

Polderau Glanfa Fawr Tredelerch

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Glanfa Fawr Tredelerch, Caerdydd

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Y môr

Disgrifiad o'r prosiect: Mae’r gwaith i adfer y cynefin morfa heli ar hyd aber afon Hafren ger Glanfa Fawr Tredelerch yn Ne Cymru, wedi’i gwblhau. Bydd y prosiect yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a gwytnwch yn yr aber, yn ogystal â lleihau’r perygl o lifogydd yn yr ardal.

Mae’r gwaith adfer wedi cynnwys adnewyddu ac ymestyn dros 2 gilometr o bolderau gwaddodi ar hyd y blaendraeth. Mae’r adeileddau, sydd wedi’u gwneud o byst castanwydd a bwndeli prysgwydd, yn helpu i annog sefydlu cynefin morfa heli, trwy arafu symudiad y llanw wrth iddo fynd ar drai, gan ganiatáu i waddod gael ei ddyddodi o fewn caeau’r polderau.

Dros amser, mae mwd a thywod yn cronni ac yn troi’n forfa heli.

Ffigur 8: Polderau Glanfa Fawr Tredelerch

Y prif ganlyniadau: Bydd hyn yn helpu i adfer cynefin pwysig aber afon Hafren, gan gynnal bywyd gwyllt lleol a helpu i ddal carbon. Mae’r aber yn cynnal rhai o’r cynefinoedd pwysicaf a mwyaf gwarchodedig yn y DU, ac y mae wedi’i ddynodi’n ardal cadwraeth arbennig. Mae’n gartref i nifer sylweddol o adar dŵr ac infertebratau dyfrol, yn ogystal â darparu coridor gwerthfawr i bysgod mudol.

Bydd yr ateb hwn ar sail natur hefyd yn helpu i wella’r amddiffynfeydd rhag llifogydd presennol, ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn y dyfodol trwy leihau pwysau erydu.

Defnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd

Afon Bidno, afon Gwy Uchaf – prosiect rheoli llifogydd yn naturiol

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Afon Bidno, dalgylch afon Gwy Uchaf

Prif ffrwd gyllido: Cronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon

Disgrifiad o'r prosiect: Rydym wedi ymgymryd â gwaith ar afon Bidno yn nalgylch afon Gwy Uchaf i helpu i arafu’r llif a darparu buddion o ran cynefin i fywyd gwyllt. Ar hyd darn 1.5 cilometr o afon Bidno yn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, rydym wedi gosod prennau marw mawr yn y cwrs dŵr i helpu i arafu llif y dŵr a darparu amrywiaeth ehangach o nodweddion afon a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Rydym hefyd wedi torri coed helyg ar lan y glannau yn rhannol i annog twf coed mwy trwchus a fydd yn darparu cysgod i’r afon, yn creu cynefin, ac yn arafu’r llif dros y tir. Bydd y coed helyg byw hyn yn helpu i arafu’r llif am gyfnod amhenodol, hyd yn oed pan fydd y malurion prennaidd wedi pydru. Mae’r technegau hyn yn darparu bwyd i bryfed dyfrol, ac yn eu tro amffibiaid, pysgod a dyfrgwn, rhai ohonynt yn rhywogaethau dynodedig yn yr ardal cadwraeth arbennig hon. Bydd y llifoedd arafach a’r llystyfiant ar lan y dŵr, yn enwedig mewn digwyddiadau llif uchel, hefyd yn achosi i waddodion mewn daliant ddisgyn o’r dŵr a chael eu dal ar y safle, gan leihau’r tebygolrwydd y bydd y priddoedd sy’n cael eu golchi oddi ar y tir yn lliwio’r cwrs dŵr.

Ffigur 9: Llun yn dangos argae sy’n gollwng ar draws afon Bidno.

Y prif ganlyniadau: Cyflwynodd y prosiect hwn ffordd rad ac effeithiol o gyflawni ystod o fuddion amgylcheddol a rheoli tir, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â pherygl o lifogydd.

O ganlyniad i lwyddiant y technegau hyn yn afon Bidno, rydym yn bwriadu mabwysiadu’r un technegau hyn i sicrhau buddion i ansawdd dŵr ac iechyd afonydd ar safleoedd eraill ar draws dalgylch afon Gwy a thu hwnt.

Afon Troddi – rheoli llifogydd yn naturiol

Sefydliad: Cyngor Sir Fynwy

Lleoliad y prosiect: Dalgylch afon Troddi

Partneriaid allweddol: Tirfeddianwyr

Prif ffrwd gyllido: Grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r prosiect: Gyda chyllid a gafwyd o grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru, bu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda thirfeddianwyr lleol i ddatblygu cynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch afon Troddi, sy’n llifo i afon Gwy i’r de o Drefynwy. Roedd y cynllun yn cynnwys gwelliannau ar ddau safle lle’r oedd y tirfeddianwyr yn ymgysylltu’n llawn â’r broses o ddylunio a gweithredu nodweddion rheoli llifogydd yn naturiol i helpu i leihau’r perygl o lifogydd a darparu gwelliannau o ran bioamrywiaeth.

Ar y ddau safle, helpodd y tirfeddianwyr i ddatblygu’r cynigion i reoli llifogydd yn naturiol. Ar un safle, crëwyd un pwll gwlith, pedwar pwll dŵr tymhorol, pum argae sy’n gollwng, ac 14 pwll, gan greu storfa o ryw 3,300 metr ciwbig. Ar yr ail safle, roedd y gwaith yn cynnwys creu argaeau malurion sy’n gollwng, llenwi cafnau, creu cronbyllau, pyllau dŵr tymhorol, a morlyn bach i ryng-gipio dŵr ffo dros y tir. Gosodwyd y nodweddion yn nalgylchoedd uchaf nifer o nentydd a ffosydd bach gan ddefnyddio deunyddiau naturiol y daethpwyd o hyd iddynt yn union gerllaw’r gweithfeydd. Ar ôl cwblhau’r gwaith, cynhaliwyd digwyddiad hyfforddi ac ymwybyddiaeth rheoli llifogydd yn naturiol, a drefnwyd gan Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy ar gyfer contractwyr, tirfeddianwyr a phartïon eraill â diddordeb, ar y fferm. Roedd y digwyddiad yn cynnwys sgwrs ar reoli llifogydd yn naturiol ac ymweliad â’r safle i weld y nodweddion rheoli llifogydd yn naturiol a oedd wedi’u cwblhau, a rhai argaeau newydd sy’n gollwng yn cael eu gosod. Cwblhawyd y gwaith gan gontractwyr lleol gyda chefnogaeth y tirfeddianwyr.

Ffigur 10: Llun yn dangos pwll a grëwyd fel rhan o’r gwelliannau rheoli llifogydd yn naturiol yn nalgylch afon Troddi.

Y prif ganlyniadau: Cyflawni dau gynllun rheoli llifogydd yn naturiol yn llwyddiannus, a fydd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd ac yn darparu gwelliannau o ran bioamrywiaeth, gyda’r potensial i ehangu’r nodweddion rheoli llifogydd yn naturiol yn y dyfodol.

Gwersi a ddysgwyd: Mae ymgysylltu â thirfeddianwyr yn allweddol. Gall hyn fod yn llafurus, ond drwy rannu’r un nod, mae’r tirfeddianwyr a pheirianwyr Cyngor Sir Fynwy wedi cydweithio’n agos i sicrhau bod y prosiectau’n llwyddo.

Dolwyddelan – rheoli llifogydd yn naturiol

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Lleoliad y prosiect: Dolwyddelan

Prif ffrwd gyllido: Grant Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r prosiect: Nod y prosiect hwn oedd mynd i’r afael â’r perygl o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bach a nodwyd drwy waith mapio llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac a oedd yn effeithio ar eiddo preswyl. Mae’r tir yn eiddo i dirfeddianwyr preifat a oedd wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynglŷn â phroblem llifogydd a oedd yn deillio o nant fach a llif dros y tir mewn caeau uwchlaw eu heiddo, sydd uwchlaw pentref Dolwyddelan.

Nododd arolygon cychwynnol ac ymchwiliadau safle amrywiol ymyriadau na fyddent yn amharu ar y tir pori nawr nac yn y dyfodol. Mae’r ymyriadau hyn yn cynnwys lleihau llif y llifogydd o fewn y cwrs dŵr gan ddefnyddio malurion prennaidd sy’n gollwng, nodi ardaloedd corsiog hanesyddol, a chreu llwybrau gan ddefnyddio byndiau a bwndeli malurion i gadw dŵr a maethynnau yn y pridd a gollwyd yn flaenorol yn ystod cyfnodau o law sylweddol a llifoedd dros y tir.

Yn ystod y gwaith adeiladu, bu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gyda’r tirfeddianwyr cyfagos i sicrhau nad oedd unrhyw effeithiau negyddol yn cael eu hachosi ymhellach i lawr y dyffryn o safle’r gwaith.

Ffigur 11: Llun yn dangos argae malurion prennaidd a ddefnyddiwyd i helpu i arafu llif y dŵr.

Y prif ganlyniadau: Llai o berygl o lifogydd dŵr wyneb a mwy o fuddion o ran bioamrywiaeth.

Gwersi a ddysgwyd: Bu ymgysylltu’n gynnar â’r ymgynghorydd / contractwr o fudd er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i reoli llifogydd yn naturiol, a bu ymgysylltu’n gynnar â thirfeddianwyr o fudd er mwyn deall y defnydd presennol a hanesyddol er mwyn sicrhau nad yw’r cynllun yn effeithio’n andwyol ar y defnydd parhaus o’r tir.

Prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol mewn Ysgolion

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Lleoliad y prosiect: Sawl ysgol ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru

Partneriaid allweddol: Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau cefn gwlad a pharciau, Ysgol Gynradd Ynys-ddu, Ysgol Gynradd Cwmfelin-fach, Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Gynradd Crymlyn, Ysgol Gynradd Ystrad Mynach, Ysgol y Twyn

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen sbarduno Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol

Disgrifiad o'r prosiect: Cyflwynodd y Prosiect Rheoli Llifogydd yn Naturiol mewn Ysgolion systemau draenio cynaliadwy, gan gynnwys nodweddion lefel daear (gerddi glaw), casgenni dŵr glaw, a photiau plannu systemau draenio cynaliadwy, ar draws sawl ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Nod yr ymyriadau hyn oedd rheoli dŵr wyneb, gwella bioamrywiaeth, ac addysgu disgyblion am gynaliadwyedd amgylcheddol. Roedd y cynllun yn cynnwys arwyddion addysgol a gweithgareddau plannu i gyd-fynd ag amserlenni’r ysgolion. Bu ymweliad y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd, Julie James AS, ag un o’r ysgolion yn garreg filltir nodedig a amlygodd lwyddiant y prosiect a’r ffaith ei fod yn alinio â nodau cenedlaethol i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Ffigur 12: Rheoli llifogydd yn naturiol mewn ysgolion. (O’r chwith i’r dde) Gardd law yn Ystrad Mynach yw llun 1, gardd law uchel yn Ystrad Mynach yw llun 2, a gardd law yn Ysgol Uwchradd Crymlyn yw llun 3.

Y prif ganlyniadau: 

  • Gwell gallu i wrthsefyll llifogydd mewn safleoedd addysgol.
  • Disgyblion yn cymryd rhan mewn dysgu amgylcheddol.
  • Arwyddion systemau draenio cynaliadwy wedi’u gosod ar gyfer ymwybyddiaeth hirdymor.
  • Prosiect wedi’i gwblhau am gost is na’r gyllideb a ddyrannwyd oherwydd cydweithio effeithlon.

Gwersi a ddysgwyd:

  • Roedd sicrhau bod y gwaith yn cyd-fynd ag amserlenni’r ysgolion yn heriol ond yn bosib ei reoli trwy gydweithio’n agos.
  • Roedd gofynion yr adeiladau rhestredig (e.e. ffurfweddiad pibellau dŵr) yn golygu bod angen cynllunio addasol.
  • Atgyfnerthodd arwyddion addysgol werth hirdymor y cynllun.
  • Mae’r prosiect yn gweithredu fel model y gellir ei gopïo ar gyfer integreiddio systemau draenio cynaliadwy mewn amgylcheddau ysgol.

Gweithio mewn partneriaeth

Gweithio mewn partneriaeth a chyfranogiad cymunedol

Sefydliad: Cyngor Sir Penfro

Lleoliad y prosiect: Havens Head a Lower Priory, Aberdaugleddau

Partneriaid allweddol: Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Dŵr wyneb

Disgrifiad o'r prosiect: Mae Cyngor Sir Penfro yn ymgymryd â chynllun lliniaru llifogydd i fynd i’r afael â phroblemau llifogydd y mae cymunedau yn ardal Aberdaugleddau wedi’u hwynebu yn dilyn llifogydd yn 2018. Bydd y cynllun yn cynnwys gwella cwlfertau ac arllwysfeydd ynghyd â gwaith rheoli llifogydd yn naturiol ac atgyweirio glannau cyrsiau dŵr. Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â chymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, yn ogystal â phrif berchennog y tir, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, i sicrhau bod y cynllun terfynol yn addas. Cynhaliwyd y digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb yn y gymuned ac roeddent yn cynnwys trafod y cynigion diweddaraf, ateb cwestiynau ac ymdrin ag unrhyw bryderon a oedd gan y gymuned leol. Mae nifer o ymweliadau safle wedi’u trefnu hefyd ar gyfer trigolion ac aelodau etholedig.

Y prif ganlyniadau: Lliniaru’r perygl o lifogydd ar gyfer eiddo, busnesau a seilwaith ehangach (gan gynnwys priffyrdd).

Gwersi a ddysgwyd: Cafwyd llifogydd yn 2018 a effeithiodd ar ddwy gymuned yn yr ardal. Mae gan aelodau’r cymunedau a’r trigolion yr effeithiwyd arnynt awydd parhaus i’r gwaith gael ei gwblhau, felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynnwys yn natblygiad y prosiect.

Gweithio mewn partneriaeth: Rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth â’r rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Lleoliad y prosiect: Mae’r rhaglen yn cael ei gweithredu ar lefel Cymru a Lloegr

Partneriaid allweddol: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA); Asiantaeth yr Amgylchedd; Llywodraeth Cymru

Prif ffrwd gyllido: Refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru gyda chyfraniadau gan bartneriaid allweddol eraill (a restrir uchod)

Disgrifiad o'r prosiect: Mae’r rhaglen ymchwil a datblygu ar y cyd ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn bartneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Gyda’i gilydd, mae’r rhaglen hon yn nodi ac yn cyflwyno gwaith ymchwil i berygl llifogydd ledled Cymru a Lloegr. Rydym wedi cytuno i ganolbwyntio ein gwaith ar gasgliad o feysydd o ddiddordeb ymchwil (mae’r cyfnod presennol yn rhedeg hyd at 2028). Mae pob adroddiad, fel ‘Gweithio gyda Phrosesau Naturiol - y Sylfaen Tystiolaeth’ ar ei newydd wedd (Chwefror 2025) ar gael ar GOV.UK. Pan gyhoeddir prosiectau ceir gweminarau a gweithdai fel y gall awdurdodau lleol, peirianwyr a grwpiau cymunedol roi’r canfyddiadau ar waith.

Un enghraifft dda o’r buddion o weithio mewn partneriaeth ar lefel rhaglen a phrosiect yw’r prosiect ‘Gweithio gyda Phrosesau Naturiol er mwyn Lleihau Perygl o Lifogydd’ (2025). Nod ‘Gweithio gyda Phrosesau Naturiol’ yw gwarchod, adfer ac efelychu swyddogaethau naturiol dalgylchoedd, gorlifdiroedd, afonydd a’r arfordir er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd. Cyfeirir ato’n aml fel rheoli llifogydd yn naturiol neu atebion ar sail natur. Mae’r prosiect hwn wedi adolygu’r dystiolaeth ddiweddaraf i ddarparu adroddiad cynhwysfawr ar effeithiolrwydd 17 o fesurau unigol i leihau’r perygl o lifogydd a’r amryfal fuddion y maent yn eu darparu. Drwy weithio mewn partneriaeth, roedd y prosiect yn cydnabod y gwahanol bolisïau a oedd yn ymwneud â rheoli llifogydd yn naturiol / atebion ar sail natur yng Nghymru a’r angen am dystiolaeth dda i roi’r polisïau hyn ar waith. Cafwyd cefnogaeth i’r prosiect gan arbenigwyr pwnc o Cyfoeth Naturiol Cymru, a fu’n adolygu allbynnau ac yn helpu i lunio’r cynhyrchion terfynol. Roedd bod yn rhan o’r trafodaethau hyn yn caniatáu gwell dealltwriaeth o’r dystiolaeth i gefnogi dulliau o weithredu atebion ar sail natur yng Nghymru yn y dyfodol.

Y prif ganlyniadau:

  • Blaenoriaethau a rennir: Drwy bennu blaenoriaethau ymchwil a rennir ledled Cymru a Lloegr drwy’r meysydd o ddiddordeb, mae’r rhaglen yn sicrhau bod astudiaethau newydd yn alinio ag anghenion polisi gweithredol, gan fynd i’r afael â bylchau mewn gwybodaeth hanfodol a llywio penderfyniadau rheng flaen yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn uniongyrchol.
  • Arbenigedd a data a rennir: Drwy weithio ar y cyd i rannu gwybodaeth, sgiliau a data. Mae meysydd pwnc allweddol, megis rheoli llifogydd yn naturiol, yn cael eu datblygu gan osgoi dyblygu ymdrech a gwneud y mwyaf o feysydd cyfle.

Gwersi a ddysgwyd: Grym dylanwad: Roedd y gwaith hyrwyddo a wnaed gan yr holl bartneriaid ar y cyd yn ffordd o hybu ymgysylltiad ar draws y sector, ymhell y tu hwnt i’r hyn y gallai unrhyw gorff unigol ei gyflawni.

Cwlfert Maesycwmer

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Lleoliad y prosiect: Pontprencrwca House, Maesycwmer

Partneriaid allweddol: Llywodraeth Cymru, tirfeddianwyr preifat

Prif ffrwd gyllido: Grant graddfa fach Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, cyllid argyfwng Storm Bert, a chyllidebau cyfalaf craidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Disgrifiad o'r prosiect: Yn sgil Storm Bert, archwiliwyd cwlfert bwa gwaith maen hanesyddol a oedd yn rhedeg o dan ffordd Nant y Twyn, a chanfuwyd ei fod wedi cwympo 50%. Caewyd y ffordd tra bod peirianwyr yn dod o hyd i ddatrysiad ar gyfer y rhan a oedd wedi cwympo. Wynebwyd heriau sylweddol, gan gynnwys prif bibell Dŵr Cymru, gorfod cau lôn wledig, gweithio mewn tywydd gwael eithafol, dyddodion asbestos yn y ddaear, a thorri trwy greigwely. 

Gosodwyd cwlfert bocs newydd a disodlwyd wal ffin â gwaith a gwblhawyd i safon uchel, ac ailagorwyd y ffordd.

Ffigur 13: Mae’r llun ar y chwith yn dangos y cwlfert a ddifrodwyd yn dilyn Storm Bert, ac mae’r llun ar y dde yn dangos y cwlfert ar ôl iddo gael ei atgyweirio.

Y prif ganlyniadau: Lliniaru llifogydd ar gyfer y briffordd, cartrefi preswyl a’r ardaloedd cyfagos.

Gwersi a ddysgwyd:

  • Mae cydlynu â rhanddeiliaid yn hanfodol i yrru cynllun rheoli prosiectau llwyddiannus yn ei flaen.
  • Mae ymgysylltu â phreswylwyr a chynnal cyswllt rheolaidd yn bwysig.
  • Gellir wynebu effeithiau sylweddol o ran cyllid ac amser, hyd yn oed o ganlyniad i’r addasiadau dylunio lleiaf.
  • Dylid cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid gydol y prosiect i sicrhau bod pob parti yn rhannu’r un nod.

Darparu gwybodaeth

Gwasanaeth newydd - Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon a’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Aeth gwasanaeth newydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sef Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd Cymru, yn fyw ar 17 Gorffennaf 2024. Mae cyhoeddi rhybuddion llifogydd yn hanfodol er mwyn inni gyflawni ein rhwymedigaeth statudol i rybuddio eraill am leoliad, amseru a maint llifogydd o afonydd a’r môr yng Nghymru. Ers hynny, y mae wedi cael ei ddefnyddio i gyhoeddi negeseuon llifogydd a rhybuddion llifogydd yn llwyddiannus ar gyfer llifogydd afonol ac arfordirol, gan gynnwys yn ystod Storm Bert a stormydd gaeaf eraill 2024–2025.

Roedd hwn yn brosiect arwyddocaol gwerth £5 miliwn, sydd wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth amlgyfrwng newydd am rybuddion llifogydd i Gymru. Mae’r prosiect hwn bellach yn caniatáu inni ddarparu ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd annibynnol ein hunain i bobl Cymru. Er mwyn cysondeb parhaus i’n cwsmeriaid, ni newidiodd y codau rhybuddio am lifogydd, y trothwyon a ddefnyddiwn i gyhoeddi rhybuddion, a’r eiddo yr ydym yn anfon rhybuddion iddynt wrth fynd yn fyw.

Y prif ganlyniadau: Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd i Gymru yn caniatáu proses fwy effeithlon ar gyfer anfon negeseuon llifogydd a chyhoeddi rhybuddion llifogydd gan ein swyddogion dyletswydd; felly, mae’n lleihau eu llwyth gwaith yn ystod digwyddiadau llifogydd ac yn galluogi cyhoeddi negeseuon yn gyflymach i’r rhai sydd mewn perygl. Mae hefyd yn galluogi gwell eglurder a chysondeb yn ein negeseuon llifogydd a rhybuddion llifogydd fel eu bod yn darparu cyngor mwy uniongyrchol, yn gysylltiedig ag effeithiau posibl neu ddisgwyliedig.

Gwersi a ddysgwyd:

  • Mae rhoi defnyddwyr wrth wraidd dyluniad y gwasanaeth yn hanfodol er mwyn gwneud gwell penderfyniadau o ran buddsoddi a datblygu prosesau gwell.
  • Mae ymgysylltu yn uniongyrchol â defnyddwyr ac ymchwilio â nhw yn bwysig i benderfynu pwy yw’r cwsmer wrth ystyried newidiadau i wasanaeth.
  • Mae’r cyfnodau darganfod ac arbrofi yn werth yr amser a’r ymdrech, yn enwedig wrth ystyried a ddylid darparu datrysiad technoleg gwybodaeth parod ynteu creu datrysiad pwrpasol.
  • Gyda phrosiectau TGCh, mae angen rheoli’r amserlen gyflawni yn llym er mwyn cyflawni mewn pryd ac o fewn y gyllideb. Llwyddwyd i wneud hyn, a chafodd ei lansio fel y bwriadwyd ym mis Gorffennaf 2024.

Prosiect amnewid telemetreg

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon a glawiad

Disgrifiad o'r prosiect: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â gwaith i ddarparu system telemetreg newydd â chost amcangyfrifedig o £5 miliwn. Mae’r prosiect hwn yn hanfodol i alluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i gasglu a rhannu gwybodaeth am afonydd, glawiad ac offer gweithredol bron mewn amser real, sy’n sail i’n hymateb i ddigwyddiadau llifogydd a rheoli dŵr, gan gynnwys sychder. Bydd yn disodli systemau a seilwaith sy’n heneiddio ac yn cyrraedd diwedd eu hoes weithredu. Mae’r porth data telemetreg newydd yn fyw, ac mae pob cwsmer allanol wedi mudo iddo. Mae 565 o 611 o orsafoedd telemetreg wedi’u trosglwyddo i’r system newydd. Mae’r gwaith ar adeiladu’r prif system yn parhau i mewn i 2025–2026.

Y prif ganlyniadau: Bydd y system newydd yn darparu gwybodaeth am afonydd, glawiad ac offer gweithredol bron mewn amser real, sy’n hanfodol i’n hymateb i ddigwyddiadau llifogydd.

Y Cynllun Rheoli Traethlin – Diweddariad ar y map risg arfordirol

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell: Llifogydd o’r môr ac erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Fel rhan o waith parhaus Cyfoeth Naturiol Cymru i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli Traethlin, gwnaed gwelliannau i’r ffordd yr ydym yn cyflwyno cynlluniau rheoli traethlin ar y mapiau ar-lein (sydd ar gael trwy ein gwefan yma) gan roi mwy o fanylion wedi’u hychwanegu at yr wybodaeth a’r cynnwys, ynghyd â dolenni gwell i ffynonellau.

Ffigur 14: Sgrinlun o’n gwefan, sy’n dangos sut yr ydym yn cyflwyno ein cynlluniau rheoli traethlin.

Y prif ganlyniadau: Mae’r rhesymeg polisi ychwanegol, yr is-gategorïau polisi, a’r dolenni i’r dogfennau polisi yn rhoi mwy o fanylion am y polisïau arfaethedig er mwyn egluro’r bwriad lleol a’r dull rheoli wrth symud ymlaen.

Gofynion buddsoddi hirdymor

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Cyllid Refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon a’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiad yn edrych ar lefel y buddsoddiad y mae ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru yn y dyfodol, a achosir gan afonydd a’r môr, yn erbyn cefndir o hinsawdd sy’n newid. Mae’r adroddiad Gofynion Buddsoddi Hirdymor yn nodi canfyddiadau dadansoddiad yr adroddiad, gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf o brosiect Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a chronfa ddata asedau llifogydd Asset Management eXpert (AMX). Defnyddiwyd offeryn economaidd i asesu gwahanol senarios o ran buddsoddi, costau a buddion tebygol gwahanol benderfyniadau polisi i helpu i lywio penderfyniadau a chynllunio cyllideb ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru.

Y prif ganlyniadau: Mae’r adroddiad yn amlygu’r angen am weithredu pellach mewn ymateb i’n hinsawdd sy’n newid, yr angen i ymaddasu ar draws llawer o gymunedau ledled Cymru, a’r angen parhaus am fuddsoddi mewn rheoli’r perygl o lifogydd yn yr hirdymor.

Cynlluniau rheoli’r perygl o lifogydd

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Cymru

Prif ffrwd gyllido: Cyllid Refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffynhonnell: Y brif afon a’r môr

Disgrifiad o'r prosiect: Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd wedi’i ddiweddaru ym mis Tachwedd 2023. Mae’r cynllun yn cwmpasu Cymru gyfan ac yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl o lifogydd am y chwe blynedd nesaf ar gyfer yr ardaloedd llifogydd y mae gennym ni’r prif gyfrifoldebau amdanynt: llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr. Mae’r cynllun wedi’i rannu’n adran genedlaethol drosfwaol ochr yn ochr â chwe adran sy’n canolbwyntio ar leoedd.

Y prif ganlyniadau: Bydd y casgliad o fesurau a chamau gweithredu arfaethedig sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun yn mynd i’r afael â’r amcan cyffredinol o leihau’r perygl o lifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a’r môr i bobl a chymunedau, a chefnogi cyflawniad yr 14 blaenoriaeth a nodir yn y cynllun.

Cyfranogiad cymunedol

Digwyddiadau rhwydwaith gwirfoddolwyr llifogydd

Sefydliad: Cyfoeth Naturiol Cymru

Lleoliad y prosiect: Caerdydd, Aberystwyth, Merthyr Tudful a Llandudno

Partneriaid allweddol: Partneriaid proffesiynol gan gynnwys awdurdodau lleol, Flood Re, Cymdeithas Yswirwyr Prydain, Iechyd Cyhoeddus Cymru, REACT Disaster Response, a’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol

Prif ffrwd gyllido: Cyllid Refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffynhonnell: Pob ffynhonnell

Disgrifiad o'r prosiect: Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri digwyddiad rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Llandudno yn ystod 2023–2024, a dau yn Aberystwyth a Merthyr Tudful yn 2024–2025. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â’r cyhoedd a phartneriaid wyneb yn wyneb. 

Yn nigwyddiadau 2023–2024, datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru senario llifogydd ffuglennol, a ddatblygodd dros ychydig ddyddiau, a daeth pobl o wahanol gymunedau a sefydliadau at ei gilydd i weithio drwy’r senario. Cynrychiolwyd cyfanswm o 23 o gymunedau gan 39 o aelodau cymunedol, ynghyd â 65 o bartneriaid proffesiynol.

Roedd digwyddiadau 2024–2025 yn canolbwyntio ar adferiad ar ôl llifogydd. Cafwyd cyflwyniadau byr gan y partneriaid proffesiynol, a gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru egluro eu rolau a’r cymorth a gynigir yn y broses adfer ar ôl llifogydd. At ei gilydd, cynrychiolwyd 12 o gymunedau gan 24 o aelodau’r gymuned. Ymunodd 43 o bartneriaid proffesiynol, gan gyfrannu at y cynllunio a’r trafodaethau ar y diwrnod.

Ffigur 15: Digwyddiad rhwydwaith Gwirfoddolwyr Llifogydd Cymunedol yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd, 28 Medi 2023.

Y prif ganlyniadau: Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwerthfawr i sefydliadau ryngweithio wyneb yn wyneb a siarad ag eraill am y perygl o lifogydd.

Cymunedau Arfordirol Cynaliadwy

Sefydliad: Cyngor Sir Penfro

Lleoliad y prosiect: Saundersfoot, Llanrath a Dale

Partneriaid allweddol: Cyngor Cymuned Saundersfoot, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Harbwr Saundersfoot, Cyngor Cymuned Llanrath, Cyngor Cymuned Dale

Prif ffrwd gyllido: Refeniw

Ffynhonnell: Erydu arfordirol

Disgrifiad o'r prosiect: Mae Cymunedau Arfordirol Cynaliadwy yn fenter a ddechreuodd gyda chysylltiad â chymunedau yr effeithir arnynt, yn enwedig o ystyried sut y gallai fod angen i gymunedau o amgylch yr arfordir ymaddasu i newid hinsawdd. Gan ddefnyddio Cynllun Rheoli Traethlin 2 (SMP2) a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, helpodd cefnogaeth ymgynghorwyr i greu taflenni gwybodaeth penodol ar gyfer y gymuned yn manylu ar wybodaeth am gynnydd yn lefel y môr, cynlluniau SMP2, perygl o lifogydd (gan gynnwys modelu llifogydd), newid arfordirol, arferion rheoli cyfredol, a pholisïau cynllunio posibl yn y dyfodol.

Y prif ganlyniadau: Mae cynhyrchu’r taflenni gwybodaeth penodol ar gyfer y gymuned wedi galluogi trafodaeth o dan arweiniad y gymuned ar ymaddasu i’r hinsawdd mewn cymunedau arfordirol. Mae gan bob lleoliad (Llanrath, Dale a Saundersfoot) bolisïau a chynlluniau gweithredu SMP2 gwahanol, felly mae pob trafodaeth yn wahanol. Y gymuned fydd yn arwain y broses o wneud penderfyniadau, gyda Chyngor Sir Penfro yn cynorthwyo. Mae’r trafodaethau â’r cymunedau yn parhau, ac nid oes dyddiad gorffen penodol.

Gwersi a ddysgwyd: Nid oes un rheol sy’n addas i bob cymuned o ran y sgyrsiau y dylid eu cael am newid ac ymaddasu.

Grŵp Llifogydd Ynys-ddu

Sefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Lleoliad y prosiect: Grŵp Llifogydd Ynys-ddu

Partneriaid allweddol:Cynghorwyr ward lleol / preswylwyr / Cyfoeth Naturiol Cymru

Prif ffrwd gyllido: Elfen rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol o’r Grant Cynnal Refeniw

Disgrifiad o'r prosiect: Mae Grŵp Llifogydd Ynys-ddu yn fenter sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sydd â’r nod o fynd i’r afael â phryderon am lifogydd dŵr wyneb ar draws Stryd y Bont, Rhodfa’r Orsaf, a Stryd Ioan yng Nghaerffili. Mae’r grŵp yn gweithredu gydol y flwyddyn, gan gysylltu’n rheolaidd â chynghorwyr lleol, sy’n gweithredu fel ffynhonnell gyswllt pan fydd gan drigolion bryderon parhaus. Mae’r ymgysylltu yn dwysáu yn ystod y cyfnod cyn cyfarfod blynyddol y grŵp, a drefnir fel arfer ar gyfer dechrau’r hydref. Cyn y cyfarfod hwn, cynhelir ymweliad rhagarweiniol â’r safle gyda chynghorwyr i nodi ac amlygu meysydd allweddol sy’n peri pryder. I ddilyn, ceir cyfarfod ffurfiol sy’n cynnwys trigolion, cynghorwyr, a chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n bresennol yn rhinwedd eu rôl fel yr awdurdod rheoli risg ar gyfer llifogydd prif afonydd. Mae’r cyfarfod yn rhoi llwyfan i drafod materion parhaus yn fanylach, ac yna ceir taith gerdded ar y cyd, sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid, i sicrhau bod yr holl bryderon sy’n gysylltiedig â llifogydd yn cael eu harsylwi a’u deall ar lawr gwlad. Yn dilyn y gweithgareddau hyn, llunnir crynodeb, a chaiff unrhyw gamau angenrheidiol eu dilyn a’u monitro gydol y flwyddyn.

Ffigur 16: Llun yn dangos ardal storio dŵr llifogydd Ynys-ddu

Y prif ganlyniadau: Mae’r dull strwythuredig a chydweithredol hwn yn sicrhau y caiff y perygl o lifogydd lleol ei reoli’n rhagweithiol ac yn dryloyw, gyda chyfranogiad cymunedol cryf a chydlynu rhyngasiantaethol.

Adroddiadau blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru

Er mwyn darparu mwy o fanylion ac adroddiadau rheolaidd o ran y cynnydd sy’n cael ei wneud ynghylch rheoli’r perygl o lifogydd yng Nghymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol dros y tair blynedd diwethaf i ategu’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad adran 18 trosfwaol hwn.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn helpu i ddangos bod Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru a’i hamcanion yn cael eu cyflawni’n ehangach. Maent hefyd yn rhoi mwy o fanylion am rai o’r prosiectau a’r llwyddiannau allweddol a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Mae’r adroddiadau hyn yn ymdrin â chyfnod y flwyddyn ariannol o fis Ebrill i fis Mawrth, a gellir eu gweld drwy ddilyn y dolenni canlynol.

Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2020–2021

Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2021–2022

Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2022–2023

Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2023–2024

Adroddiad blynyddol rheoli perygl llifogydd 2024–2025

Diweddarwyd ddiwethaf