SoNaRR2020: Trawsnewid y system ynni
Y system ynni byd-eang yw un o brif ysgogwyr yr argyfwng hinsawdd. Mae'r newid i ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hanfodol ac yn anochel ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae argaeledd cyson ynni adnewyddadwy yn un o nodau creiddiol cysyniadau ynni cynaliadwy, ochr yn ochr ag effeithlonrwydd a digonedd ynni.
Mae cynhyrchu a defnyddio ynni yng Nghymru yn creu ystod eang o bwysau ar ecosystemau ac iechyd y cyhoedd yma ac ar draws y blaned.
Mae cynhyrchu ynni (o danwydd ffosil a ffynonellau adnewyddadwy) yn gyrru nifer o bwysau lleol a byd-eang megis:
- Defnyddio adnoddau naturiol.
- Cynhyrchu allyriadau atmosfferig.
- Defnyddio dŵr.
- Cynhyrchu gwastraff confensiynol a niwclear.
- Cynnydd yn y defnydd o dir.
- Gosod seilwaith.
Maent i gyd yn cael effaith ar gynefinoedd, a fflora a ffawna.
Mae defnyddio tanwydd ffosil yn achosi effeithiau niweidiol ar iechyd pobl ac yn niweidio cnydau, coedwigoedd, ecosystemau dŵr, adeiladau a seilwaith. Hefyd, mae ynni niwclear, ffynhonnell gonfensiynol arall o gynhyrchu ynni, yn peri risgiau i iechyd ac ecosystemau.
Hefyd, mae technolegau ynni adnewyddadwy yn cyfrannu at bwysau amgylcheddol ar dir, ecosystemau ac iechyd pobl, ac yn cyfrannu at brinder adnoddau. Mae'r pwysau hyn ar eu mwyaf pan nad eir i'r afael yn briodol â chyflyrau lleol a rhanbarthol yn ystod camau cynllunio a gweithredu'r prosiect. Mae mewnforio biomas solet, biodanwyddau a biohylifau, i ateb galw cynyddol Ewrop am danwyddau amgen, yn gysylltiedig ag effeithiau sylweddol ar fioamrywiaeth (Amgylchedd Ewrop – cyflwr a rhagolygon 2020).
Yn ôl Adroddiad 2008 yr Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur, mae'r rhan fwyaf o ffactorau sy'n arwain at gyflymu colli bioamrywiaeth yn gysylltiedig â datblygu a chynyddu'r defnydd o ynni gan gymdeithas. Mae'r cysylltiadau hyn yn uniongyrchol, e.e. defnyddio tanwydd, ac anuniongyrchol, e.e. cymorth i gynhyrchu a defnyddio bwyd.
Maes yr ecosystemau
Mae edrych ar ardaloedd trefol fel ecosystemau yn caniatáu dull sy'n gweithoi yn ôl systemau i newid y ffordd y mae cymdeithas yn cynhyrchu ac yn defnyddio ynni.
Yn ôl Adroddiad 2019 y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ni fydd targedau newid yn yr hinsawdd sy'n gyfreithiol rwymol y DU yn cael eu cyrraedd heb ddileu allyriadau nwyon tŷ gwydr yn llwyr o adeiladau.
Y cyfleoedd pennaf ar gyfer lleihau allyriadau o adeiladau yw effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu trydan carbon isel, a symud i wresogi ac oeri carbon isel. Bydd gweithredu ar y mesurau hyn yn gofyn am gydgysylltu ar draws ardaloedd trefol ac mae angen ei gynllunio'n strategol.
Mae gan Gymru beth o'r stoc dai hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol yn Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu nifer o fentrau i wella effeithlonrwydd stoc dai Cymru a chanran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol. Mae hyn yn welliant sylweddol ond bydd angen gwneud stoc tai hyd yn oed yn fwy effeithlon a gweithredu'n agos at ddim allyriadau (Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel).
Gall ardaloedd trefol chwarae rhan bwysig o ran lleihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol eraill yn sgil cynhyrchu ynni, drwy gynhyrchu lleol, arbed ynni a rheoli'r galw. Ymhlith y cyfleoedd allweddol ar gyfer trydan carbon isel mewn ardaloedd trefol mae paneli solar, storio ynni a thrydaneiddio gwres.
Gellir rheoli rhai effeithiau lleol ar lefel ecosystem, megis gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi. Ar lefel fwy strategol, gan edrych ar y meysydd economaidd a chymdeithasol, mae mwy o opsiynau i newid y system ynni ar gael. Gellir cymryd opsiynau ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni drwy'r maes economaidd. Yn y maes cymdeithasol, lleihau'r defnydd o ynni yw'r ffordd rataf a mwyaf effeithiol o ddatgarboneiddio ein system ynni (Effeithlonrwydd Ynni 2019).
Y maes economaidd
Yn ôl Adroddiad yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn 2019 mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn fyd-eang ac yn genedlaethol yn arafu ac mae cyfleoedd i leihau costau ac allyriadau'n cael eu colli.
Er bod gwelliannau technolegol yn digwydd, daw'r adroddiad i'r casgliad eu bod yn cael eu harafu gan gymysgedd o dueddiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n ysgogi mwy o ddefnydd o ynni.
Er bod prisiau carbon a chymorthdaliadau carbon isel yn codi costau ynni i ddefnyddwyr terfynol, gall lleihau'r defnydd a gwella effeithlonrwydd ynni leihau biliau ynni, lleihau dibyniaeth ar fewnforion, a lleihau'r galw ar adegau prysur. Gall arbed costau drwy fesurau effeithlonrwydd ynni hefyd hybu cynhyrchiant diwydiannol cyffredinol (Prisiau a Biliau Ynni: Effeithiau Cyflawni Cyllidebau Carbon).
Mae gostyngiadau cyflym yng nghostau paneli solar a storio batris, ynghyd â chyflwyno mesuryddion clyfar, yn sail i ffordd wahanol iawn o gynhyrchu a defnyddio ynni. Mae hyn yn arwain at fwy o bwyslais ar gynhyrchu ynni lleol gan ysgogi newid yn y maes cymdeithasol.
Y maes cymdeithasol
Mae'r cymysgedd newidiol o dechnolegau a ddefnyddir gan Gymru i gynhyrchu ei thrydan wedi'i lywio'n bennaf gan reoleiddio amgylcheddol llymach a phryder cymdeithasol cynyddol ynghylch allyriadau carbon ac ansawdd aer.
Mae angen lleihau'r defnydd o ynni, cynyddu effeithlonrwydd, datblygu ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio. Mae cyflawni'r rhain i gyd ar yr un pryd yn her sylweddol i'r sector ynni a bydd yn cynnwys dull cydgysylltiedig rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Mae'r model canoledig ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi ynni yn yr ugeinfed ganrif bellach yn trawsnewid ei hun i fod yn hyblyg, yn gynaliadwy ac yn un sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae'r trawsnewid hwn yn golygu bod mwy o randdeiliaid yn gweithredu ar draws llawer o sectorau nad ydynt yn rhai arbenigol ar gyfer ynni. Mae'r ffordd y defnyddir ynni, a'r rhyngweithio sydd gan ddefnyddwyr ynni â'r system ynni yn esblygu'n gyson.
Mae cwsmeriaid yn symud tuag at ryngweithio mwy uniongyrchol â chyflenwyr ac mae'r cynnydd mewn 'prosumers' yn amlygu un o'r tueddiadau mwyaf cyffrous o ran trosglwyddo ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae ‘prosumers’ yn ddefnyddwyr ynni sy'n cynhyrchu ynni drwy, er enghraifft, baneli solar sydd wedi'u gosod ar eu tai neu o'u cwmpas ac sy'n defnyddio offer arloesol fel pympiau gwres, dyfeisiau storio ynni (fel batris) a cherbydau trydan a fydd yn rhyngweithio â'r farchnad ynni drwy wahanol fecanweithiau prisio megis tariffau sy'n newid yn ôl amser.
Darllenwch nesaf
SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth