Ein rhaglen cynnal a chadw
Ein gwaith
Bob blwyddyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwario tua £6 miliwn ar gynnal ein hamddiffynfeydd a'n prif afonydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud ei waith cynnal a chadw yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni'n canolbwyntio ar bethau sy'n helpu i reoli'r perygl o lifogydd, lle mae modd cyfiawnhau'r gwariant ar sail economaidd ac amgylcheddol. Mae ein gwaith rheolaidd ni'n cynnwys y pethau canlynol:
- cynnal a chadw rhwystrau llifogydd a gorsafoedd pwmpio
- glanhau sgriniau a chlirio rhwystrau o afonydd
- rheoli chwyn dyfrol mewn afonydd
- clirio silt a graean o wlâu afonydd
- rheoli glaswellt, coed a llwyni ar ein hargaeau llifogydd ni
- archwilio a thrwsio strwythurau amddiffyn rhag llifogydd
Ein rhaglenni cynnal a chadw
Mae ein rhaglenni cynnal a chadw blynyddol yn cynnwys ystod o waith rheolaidd, yn ogystal â gwaith sy'n digwydd unwaith yn unig. Gallwch chi weld disgrifiad o'r gwaith cynnal a chadw yr ydyn ni'n bwriadu ei wneud yn eich ardal chi yn yr adran Dogfennau Cysylltiedig islaw.
Amseru ein gwaith ni
Er ein bod ni'n gwneud pob ymdrech i sicrhau cadw at ein rhaglenni gwaith cynnal a chadw, a'u diweddaru pan fydd angen, gall tywydd garw, llifogydd, neu ddigwyddiadau amgylcheddol effeithio ar amseru gwaith cynnal a chadw. Gall hyn ein rhwystro rhag cwblhau'r gwaith yn unol â'r cynllun.
Gwneud eich gwaith eich hun ar gwrs dŵr
Os ydych chi'n berchen ar, neu'n rheoli, tir sy'n cynnwys cwrs dŵr, gallwch chi wneud rhywfaint o waith cynnal a chadw heb ganiatâd. I wirio a oes angen caniatâd, ac i gael gwybod i bwy y dylech chi gyflwyno cais os oes angen, cysylltwch â cysylltwch â ni.
Gweithgareddau perygl llifogydd
Am waith arall, fe fydd angen i chi gael caniatâd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am roi caniatâd (Gweithgareddau perygl llifogydd) am waith sy'n ymwneud â phrif afon. Bydd eich Awdurdod Lleol yn gyfrifol am roi caniatâd am waith sy'n ymwneud ag unrhyw gwrs dŵr arall. Mae angen caniatâd am waith a all, yn anfwriadol, gynyddu'r perygl o lifogydd naill ai yn y lleoliad penodol neu ynteu i gymuned arall ymhellach i lawr yr afon.
Prif afon neu gwrs dŵr cyffredin?
Gallwch chi ddefnyddio ein map risg llifogydd i benderfynu a yw'r cwrs dŵr dan sylw yn brif afon.
Diogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd
Ni ddylai gwaith effeithio ar fywyd gwyllt neu gynefinoedd dyfrol pwysig, na golchi silt a malurion ymhellach i lawr yr afon.