Hybu Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy natur
Cyfle i ddysgu am anifeiliaid, cynefinoedd a bioamrywiaeth...
Mae’r amgylchedd naturiol, sydd â chyfoeth o ran adnoddau ac yn newid yn gyson, yn llawn pethau cyffrous i'w gweld ac yn annog creadigrwydd. Mae'r ystod hon o weithgareddau yn helpu i feithrin perthynas â natur ac ar yr un pryd yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol.
Bydd y gemau a'r gweithgareddau yn ein llyfryn Bod yn Greadigol yn yr Awyr Agored yn eich helpu i gyflawni'r hyn sydd yn y cwricwlwm presennol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Mae angen cardiau adnoddau a gwybodaeth ar gyfer rhai o'r gweithgareddau a'r gemau. Dewiswch o'r rhestr isod:
Gweithgaredd 15 - Cysgodfeydd a chuddfannau (nodyn gwybodaeth)
Gweithgaredd 15 - Her lloches greadigol (cardiau adnoddau)
Eisiau dysgu am fanteision iechyd a lles dysgu yn yr awyr agored? Angen cyfiawnhau mynd â'ch dysgwyr i’r awyr agored? Edrychwch ar ein posteri gwybodaeth