Dyletswydd gofal gwastraff i sefydliadau
Os ydych yn cynhyrchu, mewnforio, cario, cadw, trin neu'n gwaredu gwastraff, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol dros y gwastraff hwn. Yr enw ar hyn yw eich dyletswydd gofal.
Cynhyrchwyr gwastraff
Cynhyrchydd gwastraff yw’r person, neu’r sefydliad, y mae ei weithgarwch yn creu gwastraff. Ni waeth a ydynt wedi’u cyfarwyddo gan rywun arall ai peidio. Os yw person yn creu gwastraff fel gweithiwr, ei gyflogwr yw’r cynhyrchydd gwastraff. Os yw person yn creu’r gwastraff fel contractwr neu is-gontractwr, nhw yw’r cynhyrchydd gwastraff.
Mae'n rhaid i chi ddilyn rhai rheolau syml
- Ceisiwch gynhyrchu cyn lleied â phosibl o wastraff. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu rhesymol i atal, ailddefnyddio, ailgylchu neu adfer gwastraff, yn hytrach na'i waredu. Gelwir hyn yn cymhwyso'r hierarchiaeth wastraff
- Sicrhewch fod y gwastraff yn cael ei ddidoli a'i storio'n ddiogel
- Gwiriwch fod gan y sawl rydych yn trosglwyddo'r gwastraff iddo yr awdurdod priodol i'w dderbyn. Dylai fod yn gludydd gwastraff cofrestredig neu rhaid bod ganddo’r drwydded neu'r esemptiad cywir yn ei le
- Pan fyddwch yn trosglwyddo gwastraff i gludydd gwastraff cofrestredig, gofynnwch i le mae'n mynd â'r gwastraff. Sicrhewch ei fod yn mynd i gyfleuster ag awdurdod priodol, drwy ddod o hyd i fanylion safleoedd gwastraff a ganiateir
- Sicrhewch eich bod yn llenwi nodyn trosglwyddo gwastraff ar gyfer pob achos o drosglwyddo gwastraff nad yw'n beryglus.
Cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff
Darllenwch fwy am fodloni gofynion cod ymarfer y ddyletswydd gofal gwastraff (Saesneg in unig).
Diweddarwyd ddiwethaf