Cyngor i ffermwyr yn ystod tywydd syc

Sychder amaethyddol

Mae sychder amaethyddol yn digwydd pan nad oes digon o law a lleithder mewn priddoedd sy'n hanfodol i dyfiant cnydau a rhai gweithgareddau ffermio h.y. mae llai o ddŵr ar gael ar gyfer da byw.  Mae'r amodau hyn yn aml yn cyd-ddigwydd â sefyllfa sychder amgylcheddol ond fel arfer cyn yr effeithir ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus.

Gall cyfnod hir o ychydig iawn o law gael effaith ddifrifol ar amaethyddiaeth trwy fethiant cnydau, llai o gnwd a llai o laswellt yn tyfu ar gyfer pori (maint a/neu ansawdd), tarfu ar fynediad i ddŵr yfed ar gyfer da byw a mwy o risg o danau (yn enwedig mewn ardaloedd ucheldir/rhostir). Mewn rhai achosion, gall hafau poeth fod o fantais ar gyfer plannu llysiau a chynhyrchu ffrwythau meddal, os ceir digon o ddŵr ac amodau pridd ffafriol.  Fodd bynnag,  gall hafau poeth achosi mwy o blâu a chlefydau o ganlyniad i straen a achosir ar blanhigion oherwydd diffyg dŵr.

Rydym wedi cynhyrchu cyngor i ffermwyr yn ystod tywydd sych. Mae'r ddogfen gyngor hon ar gael ar gais trwy e-bostio drought.nrw@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Tynnu dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’r defnydd effeithiol o ddŵr yng Nghymru er mwyn cydbwyso anghenion pobl a'r amgylchedd naturiol. Gwneir hyn trwy ddosbarthu trwyddedau tynnu dŵr a chronni dŵr.

Mae'n debygol y bydd angen i chi wneud cais am drwydded os ydych am gronni dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr neu gymryd mwy nag 20 metr ciwbig (4,000 galwyn) o ddŵr y dydd oddi ar:

  • afon neu nant
  • cronfa ddŵr, llyn neu bwll
  • camlas
  • ffynnon
  • ffynhonnell danddaearol
  • doc, sianel, cilfach, bae, aber neu fraich o'r môr

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer tynnu dŵr a chronni dŵr 

Tynnu dŵr yn gyfreithiol heb drwydded

Yn ôl y gyfraith, gallwch gymryd hyd at 20 metr ciwbig (4,400 galwyn) y dydd, fesul ffynhonnell gyflenwad, heb drwydded tynnu dŵr. Gelwir hyn yn tynnu dŵr wedi'i eithrio. 

Mae un metr ciwbig gwerth 220 galwyn. Gall tancer sydd â chynhwysedd gwerth 2,000 galwyn ddal oddeutu 10 metr ciwbig. Gall tancer sydd â chynhwysedd gwerth 3,000 galwyn ddal oddeutu 14 metr ciwbig.

Noder yr amodau canlynol:

  • Os yw unigolyn sy'n tynnu dŵr yn dymuno cymryd dŵr oddi ar nifer o leoliadau o fewn yr un ffynhonnell gyflenwad, mae'n ofynnol nad yw cyfanswm yr holl dyniadau yn fwy nag 20 metr ciwbig y dydd.
  • Os oes gan unigolyn sy'n tynnu dŵr drwydded tynnu dŵr yn barod ar gyfer ffynhonnell gyflenwad (am ei fod yn tynnu mwy nag 20 metr ciwbig y dydd), ni fydd yn gallu tynnu dŵr hefyd o dan yr eithriad 20 metr ciwbig y dydd o'r ffynhonnell gyflenwad honno heb wneud newidiadau i'w drwydded.
  • Mae unrhyw drefniadau o ran mynediad yn fater preifat rhwng yr unigolyn sy'n dymuno tynnu dŵr a pherchennog y tir y mae'r ffynhonnell gyflenwad wedi'i lleoli arno. Ni allwn ganiatáu mynediad i unrhyw ffynonellau nad ydynt wedi'u lleoli ar ein tir.
  • Yr unigolyn sy'n tynnu dŵr sy'n gyfrifol am ddangos ei fod yn tynnu llai nag 20 metr ciwbig y dydd fesul ffynhonnell gyflenwad. Argymhellir bod y cofnodion tynnu dŵr sy'n nodi dyddiad, amser a chyfaint y dŵr sy'n cael ei dynnu'n cael eu cynnal at y diben hwn.

Lle mae angen tynnu dŵr, er enghraifft ar gyfer dyfrio stoc, dylid ei wneud mewn ffordd sy'n lleihau unrhyw risgiau posibl i'r cynefin a'i nodweddion gymaint â bo modd trwy sicrhau:

  • bod y meintiau gofynnol lleiaf yn cael eu cymryd
  • bod pibellau/pympiau mewnlif yn cael eu sgrinio'n briodol i atal pysgod rhag cael mynediad
  • bod y dŵr sy'n cael ei dynnu yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosibl
  • bod lleoliad a gweithrediad y tynnu dŵr yn ystyried unrhyw effeithiau posib ar safleoedd a rhywogaethau dynodedig a allai fod yn bresennol, ynghyd â lleoliadau eraill lle mae dŵr yn cael ei dynnu

Mae caniatáu i hyd at 20 metr ciwbig gael ei dynnu bob 24 awr heb yr angen am drwydded tynnu dŵr yn dibynnu ar ddisgwyliad y bydd ysbryd yr eithriad yn cael ei fodloni. Rhaid i unigolion sy'n tynnu dŵr dalu sylw dyledus i'r effaith amgylcheddol bosibl a allai ddigwydd o ganlyniad i'r tynnu dŵr.

Os bydd sefyllfa'n codi lle mae tynnu dŵr yn achosi neu lle mae ganddo'r potensial i achosi unrhyw fath o ddifrod amgylcheddol, e.e. marwolaeth pysgod, rydym yn cadw ein hawl i gymryd camau gorfodi.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer tynnu dŵr a chronni dŵr

Ar gyfer gweithgareddau sydd wedi'u heithrio’n flaenorol

Yn hanesyddol, mae rhai ffermwyr wedi gallu tynnu mwy nag 20 metr ciwbig y dydd heb orfod cael trwydded tynnu dŵr oherwydd bod eu gweithgareddau eisoes wedi'u heithrio (e.e. dyfrhau drwy ddiferion) neu oherwydd bod eu lleoliad o fewn ardal ddaearyddol wedi'i heithrio'n flaenorol. Mae'r rhan fwyaf o'r eithriadau hyn bellach wedi'u diddymu.

Darllenwch fwy ynglŷn â diddymu gweithgareddau wedi’u heithrio a beth mae hyn yn ei olygu os ydych chi'n cael eich effeithio.

Ffynonellau dŵr eraill posibl

Dylai ffermwyr sy'n pryderu y bydd eu cyflenwad dŵr preifat yn rhedeg yn sych wneud y canlynol:

  • lleihau'r galw am ddŵr sy'n ofynnol ar gyfer da byw, lawrlwythwch ‘Waterwise on the farm’ i gael syniadau am arbed dŵr (Saesneg yn unig)
  • gwirio am unrhyw ollyngiadau a'u trwsio
  • defnyddio'r prif gyflenwad lle y bo ar gael
  • gofyn i gymydog a oes ganddo unrhyw ddŵr dros ben yn ei gyflenwad dŵr
  • cyngor sychder ar gyfer cyflenwadau dŵr preifat

Os nad yw ffermwr yn gallu defnyddio’r prif gyflenwad neu ddŵr ffynhonnell gan gymydog, dylai'r ffermwr gysylltu â swyddfa leol ei undeb ffermwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael cyngor ar gyflenwadau dŵr eraill.

Gall opsiynau posibl gynnwys y canlynol:

  • tynnu llai nag 20 metr ciwbig o ddŵr y dydd o gwrs dŵr lleol
  • ystyried a oes modd i wneud cais ar gyfer neu i amrywio trwydded tynnu dŵr presennol
  • cael ei gyfarwyddo i ddefnyddio cyflenwad penodol arall (gweler isod) ger ei leoliad

Rydych yn cael eich cynghori i gysylltu â ni er mwyn gwirio a oes angen unrhyw ofynion trwyddedu neu ddiwygiadau ac i gael cyngor ynghylch meintiau tynnu dŵr os oes angen mwy nag 20 metr ciwbig y dydd.

Os ydych yn dymuno tynnu dŵr oddi ar ffynonellau dŵr, bydd hefyd angen i chi ystyried y canlynol:

  • a oes gennych ganiatâd gan berchennog y tir
  • unrhyw effaith amgylcheddol bosibl a allai ddigwydd o ganlyniad i'r gweithgaredd
  • os yw'r dŵr yn ddiogel i'w roi i dda byw
  • os oes angen trwydded neu amrywiad i drwydded gyfredol arnoch chi

Ffynonellau trydydd parti eraill

Ar hyn o bryd, mae rhai ffynonellau dŵr nad ydynt yn cael eu defnyddio, fel cronfeydd dŵr a ffynonellau dŵr daear y mae trydydd partïon yn berchen arnynt a/neu'n eu gweithredu.

Gellir defnyddio'r ffynonellau hyn o bosibl fel pwyntiau casglu strategol ar gyfer dŵr i dda byw dros gyfnodau o dywydd sych. Yn ogystal, efallai y bydd dŵr ar gael o weithgareddau dad-ddyfrio, e.e. prosiectau dad-ddyfrio a pheirianneg mewn chwareli.

Mae angen gwybodaeth bellach gan ffermwyr neu undebau’r ffermwyr arnom am yr angen posibl i ddefnyddio ffynonellau trydydd parti fel y gallwn drafod yr opsiynau hyn ymhellach. Mae angen cytundeb ymlaen llaw gan y trydydd parti lle mae ffynhonnell nad yw'n cael ei defnyddio, yn arbennig o ran y cyfeintiau sy'n ofynnol, hygyrchedd, ac unrhyw ystyriaethau iechyd/diogelwch eraill. Cyfrifoldeb y ffermwr fydd y trefniadau mynediad a chasglu (nid y trydydd parti).

Amrywiadau i drwyddedau

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych, efallai bydd angen i unigolion sy'n tynnu dŵr ddiwygio eu trwyddedau i wneud y canlynol:

  • cynyddu symiau
  • ehangu'r cyfnod tynnu dŵr awdurdodedig
  • symud neu ychwanegu lleoliadau tynnu dŵr
  • diwygio amodau terfynu tynnu dŵr presennol

Rydym yn annog unigolion sy'n tynnu dŵr i ystyried eu hanghenion dŵr yn y dyfodol ac i drafod y rhain gyda ni cyn gynted â phosibl.

Cyfyngiadau ar ddyfrhau drwy chwistrellu

Efallai y bydd angen i ni gyflwyno cyfyngiadau ar ddyfrhau gan chwistrellwyr nad oes ganddyn nhw amodau “llif annibynnol” ar eu trwyddedau. Mae adran 57 (a57) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd) yn ein galluogi i osod cyfyngiadau os ceir prinder eithriadol o law.

Darllenwch fwy ynglŷn â chyfyngiadau ar ddyfrhau drwy chwistrellu yn ystod tywydd sych (Canllawiau a chyngor).

Rheoli tir yn gynaliadwy

Yn ystod tywydd eithriadol o boeth a sych, mae argaeledd porthiant ar gyfer da byw yn cael ei leihau'n sylweddol. Mae gan rywogaethau glaswellt (rhyg yn benodol) wreiddiau bas ac maent yn cael eu rhoi dan straen yn gyflym pan fydd gan haenau uchaf y pridd gynnwys dŵr isel.  Mewn llawer o amgylchiadau, bydd cynefinoedd mwy lled-naturiol sydd ag amrywiaeth o rywogaethau sydd yn aml â gwreiddiau dyfnach yn parhau i ddarparu porthiant wrth i'r lefel trwythiad yn y ddaear ostwng a diffygion lleithder y pridd gynyddu. Os bydd tywydd poeth yn parhau, gallai cynefinoedd mwy lled-naturiol ddarparu porthiant gwerthfawr i dda byw, gan ddarparu gwydnwch i ffermydd.

Mae'n ofynnol i dirfeddianwyr ofyn am benderfyniad sgrinio gan Lywodraeth Cymru cyn ymgymryd ag unrhyw waith gwella (gan gynnwys aredig, ailhadu neu ddraenio) ar unrhyw dir sydd heb ei drin neu sy'n lled-naturiol.  Ystyrir bod tir heb ei drin neu'n lled-naturiol os yw'n cynnwys llai na 25-30% o rywogaethau amaethyddol tir wedi'i wella (fel rhygwellt neu feillionen wen).

E-bostiwch Lywodraeth Cymru: EIA.Unit@wales.gsi.gov.uk

Mae amodau pridd mwy sych yn caniatáu i beiriannau gael mynediad at dir gwlyb sydd fel arfer yn anhygyrch. Mae tir lled-naturiol yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth). Mae Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017 yn berthnasol i'r holl dir nad yw wedi'i drin ac ardaloedd lled-naturiol yng Nghymru.

Da byw

Gallai da byw hefyd gael mynediad i rywogaethau planhigion gwahanol wrth i dir, nad yw fel arfer yn hygyrch oherwydd lefelau dŵr, sychu. Dylai perchnogion da byw wirio ardaloedd o'r fath ar gyfer presenoldeb planhigion gwenwynig fel cegiden y dŵr. Gallai'r perygl y byddai da byw'n bwyta planhigion gwenwynig gynyddu lle nad oeddent yn gyfarwydd â'r planhigyn yn flaenorol neu am fod argaeledd porthiant wedi'i gyfyngu.

Cadw anifeiliaid fferm a cheffylau mewn tywydd eithafol

Tir â diogelwch dynodedig fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Byddwn mor hyblyg â phosibl wrth ystyried ceisiadau i newid trefniadau pori neu dorri dros dro ar dir â statws gwarchodedig (SoDdGA). Rhoddir cyngor fesul safle.

Y tu hwnt i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau), bydd nifer o gynefinoedd yn goddef cynnydd dros dro o ran lefel y pori, ond dylai tirfeddianwyr sicrhau nad ydyn nhw'n gorbori'r cynefin a'i ddifrodi, neu bydd y cynefinoedd hyn yn darparu llai o fudd o safbwynt pori.

Tir â dynodiad SoDdGA sydd hefyd yn dod o dan gontract Glastir

Gallwn ond roi cyngor mewn perthynas â gofynion y SoDdGA. 

Ffynonellau eraill o ddeunydd gorwedd i anifeiliaid

Mae ffynonellau eraill o ddeunydd gorwedd i anifeiliaid y mae modd eu defnyddio yn y sector amaethyddol. Gallai peth o'r deunydd hwn fod yn wastraff ac felly bydd yn destun rhagor o reoliadau (gweler yr adran ar eithriadau gwastraff).

Sglodion pren a'r hyn sy'n tarddu o bren

Bwriedir disodli gwellt fel deunydd gorwedd â sglodion pren wrth letya da byw dan do. Mae angen math gwahanol o sglodion pren a datblygiad seilwaith i reoli dŵr ffo mewn systemau corlannau awyr agored.

Darllenwch fwy ynglŷn â sglodion pren ar gyfer deunydd gorwedd ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

Nid yw pren crai a gweddillion pren crai yn wastraff a gellir eu defnyddio yn amodol ar eu haddasrwydd fel deunydd gorwedd amgen i anifeiliaid heb yr angen i gofrestru eithriad gwastraff.

Mae pren a gweddillion cysylltiedig o brosesau cynhyrchu ôl-felin lifio, e.e. gwneuthurwyr celfi, fel darnau sy'n weddill, sglodion naddion a blawd llif, naill ai wedi'u trin neu heb eu trin, yn wastraff. Mae eithriadau gwastraff yn bodoli mewn perthynas â defnyddio'r gwastraff pren heb ei drin fel deunydd gorwedd i anifeiliaid. Gweler yr adran ddiweddarach.

Yn dilyn defnydd o sglodion pren fel deunydd gorwedd i anifeiliaid, bydd angen ei drin yn yr un modd â gwellt. Oherwydd eu bod yn cymryd sawl blwyddyn i bydru, efallai y bydd angen tomen wrtaith iard fferm ar wahân iddynt.

Deunyddiau planhigion eraill (e.e.Miscanthus, rhedyn)

Gellir defnyddio rhai deunyddiau sy'n cael eu tyfu ar y fferm neu sy'n dod o dir comin lleol fel deunydd gorwedd amgen i anifeiliaid. Os cânt eu cynaeafu pan fyddant yn sych a'u sychu hyd yn oed yn fwy, gallant gael eu defnyddio fel deunydd gorwedd.  Byddai'n rhaid ystyried nodweddion pob deunydd fesul achos a chael cymeradwyaeth gan swyddogion Iechyd Anifeiliaid.

Carthion papur a chardfwrdd

Gellir defnyddio carthion papur a chardfwrdd o'r diwydiant gwastraff fel deunydd gorwedd i anifeiliaid unwaith y maent wedi'u trin er mwyn cael gwared â phlastig a metelau.

Ffeibr papur, mwydion papur heb inc a slwtsh papur heb inc yn sgil gweithgynhyrchu papur

Gall ffeibr papur a mwydion o'r diwydiant cynhyrchu papur ddarparu deunydd gorwedd amgen addas.  Mae eithriad gwastraff yn caniatáu iddynt gael eu defnyddio.

Rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer deunydd gorwedd i anifeiliaid

Gallwch gofrestru eithriad gwastraff sy'n caniatáu defnyddio gwastraff penodol fel deunydd gorwedd amgen i anifeiliaid. Gelwir yr eithriad hwn yn ‘Eithriad defnydd’ a chyfeirir ato fel U8.

Bydd nifer o ffermwyr wedi cofrestru'r eithriad hwn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod, a gellir gwirio cofrestriadau ar ein cofrestr gyhoeddus 

Gallwch gofrestru eithriad yn rhad ac am ddim, mewn modd cyflym a hawdd

Wrth gofrestru, rydych yn cytuno i weithredu mewn modd sy'n unol â'r meini prawf a nodir yn eithriad U8. Os na ddilynir y meini prawf, nid yw'r eithriad yn ddilys a gall Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried cymryd camau gorfodi.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn ag eithriadau gwastraff ar gyfer gweithgareddau amaethyddol, gan gynnwys deunydd gorwedd i anifeiliaid 

Cyn y gall unrhyw wastraff gael ei ddefnyddio fel deunydd gorwedd i anifeiliaid, bydd yn rhaid i'r rheoleiddiwr ac Iechyd Anifeiliaid gymeradwyo ei ddefnydd yn llawn. 

Mae rhai mathau o wastraff y mae Iechyd Anifeiliaid yn eu heithrio'n benodol oherwydd perygl clefydau – gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft, ffeibr wedi'i sychu a ddaw o dreuliad anaerobig. 

Darllenwch fwy ar wefan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ynglŷn â diogelu da byw a thir rhag gwastraff o safon wael a gwastraff anaddas. 

Caiff ffermwyr eu hatgoffa i fod yn wyliadwrus o gynigion o sglodion pren o ffynonellau dieithr a chânt eu hannog i ofyn i'r cyflenwr o ble y daeth y pren ac a yw'n dod o ffynonellau heb eu trin ai peidio. Os oes amheuaeth, siaradwch â'r cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru lleol.

Gellir cael mynediad at restr o gyflenwyr sglodion pren cyfredol ar GOV.UK

Gwiriwch gyda'r cyflenwr eich bod ond yn defnyddio pren “crai” fel deunydd gorwedd i anifeiliaid.

Osgoi llygredd amaethyddol mewn tywydd poeth

Mae effaith a difrifoldeb unrhyw lygredd yn cael eu gwaethygu gan lefelau isel naturiol o ocsigen a achosir gan ddŵr cynhesach a llifoedd isel.

Gall defnyddio tanciau yfed, yn lle caniatáu i stoc gael mynediad at gyrsiau dŵr, helpu i gadw dŵr yn lanach er mwyn i stoc gael ei yfed ac ar gyfer cymdogion i lawr yr afon.

Gall y tywydd poeth hefyd arwain at newidiadau i arferion ffermio, fel llai o doriadau silwair a mwy o wasgaru slyri. Os rhoddir slyri ar dir sych sydd wedi hollti, mae posibilrwydd uwch y bydd yn dod i gysylltiad â chyrsiau dŵr, felly rydym yn annog ffermwyr i ddefnyddio slyri yn ysgafn ac osgoi ei ledaenu ar dir sydd â draeniau tir.

Adrodd am ddigwyddiadau amgylcheddol

Os byddwch yn ymwybodol o ddigwyddiad amgylcheddol, byddem yn eich annog i gysylltu â ni cyn gynted â phosib drwy ffonio 0300 065 3000.

Mathau o sychder a'u heffeithiau

Nid oes un diffiniad arbennig o sychder, ond nodweddir pob achos o sychder gan brinder glaw.

Rydym yn nodi tri phrif fath o sychder a all ddigwydd ar wahân neu gyda'i gilydd:

  • Sychder amgylcheddol
  • Sychder cyflenwad dŵr
  • Sychder amaethyddol

Sychder amgylcheddol 

Mae sychder amgylcheddol yn digwydd pan mae prinder o law yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Mae'n debygol y bydd llifoedd afonydd yn llai, lefelau dŵr daear eithriadol o isel, a lleithder annigonol o fewn priddoedd. Mae'r amodau hyn yn aml yn arwain at arwyddion o straen mewn bywyd gwyllt, pysgod a chynefinoedd.

Effeithir ar bysgodfeydd pan mae ychydig iawn o law yn ystod y gaeaf yn arwain at lifoedd isel mewn afonydd a lefelau isel mewn dyfroedd llonydd, ar yr adeg y mae rhai pysgod yn dibynnu ar lifoedd sy'n amrywiol ac yn ddigonol er mwyn caniatáu iddynt nofio i fyny'r afon (er enghraifft, pan fydd pysgod yn mudo). Pan ceir amodau sychder, mae pysgod mudol yn debygol o gronni mewn aberoedd a rhannau isaf systemau afonydd lle gallent ddod yn fwy agored i bysgota cyfreithiol a gweithgareddau anghyfreithlon. Dros gyfnod o amser, os bydd llifoedd yn parhau i leihau neu os byddant yn aros ar lefelau llai sy'n gritigol, bydd pysgod yn marw. 

Gall nifer o wlyptiroedd fynd yn sych a bydd y pyllau gwlyb arferol naill ai'n sychu neu'n lleihau. Mewn amodau tywydd poeth a sych yn ystod yr haf, gall tân hefyd ddinistrio ardaloedd bregus o rostir sy'n gartref i fywyd gwyllt. Yn ogystal â'r effeithiau tymor byr hyn, gall effeithiau tymor hwy sychder ddod yn fwy difrifol.

Pan fydd sychderau yn digwydd yn ystod amodau sy'n gynhesach na'r arfer, mae tymereddau dŵr uwch yn cyflwyno problem ychwanegol. Ni fydd rhai planhigion dyfrol yn tyfu mwyach mewn ardaloedd cynhesach o ddŵr sy'n sefyll neu ddŵr sy'n llifo. Gall hyn gael effeithiau hirdymor mawr ar yr anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw mewn dŵr, a hefyd ar anifeiliaid sy'n dibynnu ar ddŵr. Wrth i sychder ddatblygu, ceir y risg hefyd y bydd rhywogaethau lleol penodol yn diflannu lle nad ydynt yn gallu symud i ardaloedd sy'n cadw cynefin addas. Tra'u bod efallai yn gallu goroesi un tymor o sychder, gallai sawl tymor bridio gwael fygwth difodiant i rai rhywogaethau dan fygythiad.

Sychder cyflenwad dŵr

Gall sychder leihau argaeledd cyflenwad dŵr yn sylweddol trwy leihau lifoedd afonydd, ail-lenwad dŵr daear a lefelau cronfeydd dŵr. Felly, mae sychder cyflenwad dŵr yn digwydd pan fydd prinder o law yn peri pryder i gwmnïau dŵr ynghylch cyflenwadau ar gyfer eu cwsmeriaid. Bydd yn tueddu i gymryd mwy o amser i ddatblygu na sychder amgylcheddol neu sychder amaethyddol gan fod systemau cyflenwi cwmnïau dŵr wedi cael eu datblygu i ymdopi â thywydd sych. Er enghraifft, mae systemau cyflenwi sy'n defnyddio nifer o ffynonellau, yn aml yn defnyddio adnoddau dŵr wyneb a dŵr daear, wedi cynyddu eu gallu i wrthsefyll sychder, yn enwedig ar gyfer cyfnodau o sychder byrrach.

Sychder amaethyddol

Mae sychder amaethyddol yn digwydd pan nad oes digon o law a lleithder mewn priddoedd i gefnogi cynhyrchu cnydau neu arferion ffermio fel dyfrhau drwy chwistrell. Mae'r amodau hyn yn digwydd yn aml ochr yn ochr â sefyllfa sychder amgylcheddol ond maen nhw fel arfer yn digwydd cyn bod cyflenwadau dŵr i'r cyhoedd yn cael eu heffeithio.

Gall cyfnod hir o ychydig iawn o law gael effaith ddifrifol ar amaethyddiaeth trwy fethiant cnydau, llai o gnwd (maint a/neu ansawdd), tarfu ar fynediad i ddŵr yfed ar gyfer da byw, a risg tân uwch (yn enwedig mewn ardaloedd o ucheldir/rhostir). Ar y llaw arall, gall hafau poeth fod yn ffafriol ar gyfer plannu llysiau a chynhyrchu ffrwythau meddal.

Mae’r canllawiau llawn ar gael drwy anfon e-bost at: drought.nrw@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf