Beth i'w wneud cyn i chi wneud cais ar gyfer Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCP) annibynnol sydd â mewnbwn thermol o lai na 50MW ac sydd hefyd yn Generadur Penodedig (SG) neu weithgaredd Rhan B
Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol gyda'ch cais am drwydded:
- Sgrinio asesiadau modelu ansawdd aer (gan ddefnyddio offeryn sgrinio hylosgi SCAIL)
- P'un a yw eich MCP / SG wedi'i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) ai peidio
- Crynodeb annhechnegol
- Cadarnhad bod gennych system reoli ar waith
- Tystiolaeth i ddangos eich gallu fel deiliad trwydded (y gweithredwr)
- Asesiad Technegau Gorau Sydd ar Gael (BAT) ar gyfer gweithgareddau Rhan B
Sgrinio asesu modelu ansawdd aer (gan ddefnyddio offeryn sgrinio hylosgi SCAIL)
Bydd angen i chi gwblhau’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL i benderfynu a yw’r allyriadau aer o’ch MCP / SG yn risg i dderbynyddion iechyd dynol a safleoedd cynefinoedd gwarchodedig sydd yn agos at eich MCP / SG. Mae'r rhain yn cynnwys Safleoedd Ramsar, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Pharthau Cadwraeth Morol.
Er mwyn defnyddio offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, mae angen gwybodaeth arbenigol arnoch am asesu ansawdd aer a modelu gwasgariad, felly efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ymgynghorydd i gwblhau hwn ar eich rhan. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau i'w gwblhau, felly bydd angen i chi ei gwblhau cyn gwneud eich cais.
Gallwch chi ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.
Bydd angen i chi neu’ch ymgynghorydd ddefnyddio’r pellteroedd sgrinio yn y tabl isod a mewnbynnu’r rheini i offeryn sgrinio hylosgi SCAIL i’w alluogi i nodi unrhyw safleoedd cynefinoedd gwarchodedig sy’n agos at eich MCP / SG. Bydd y pellteroedd sgrinio yn dibynnu ar faint eich MCP / SG a’r math o danwydd a ddefnyddir ganddo.
Os yw eich MCP hefyd yn Eneradur Penodedig, bydd angen i chi fewnbynnu lleoliadau derbynyddion iechyd dynol â llaw i’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL.
Os gall eich MCP / SG fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’ a nodir ar dudalennau 16 ac 17 o'r tabl perthnasol yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCPD), gallwch fewnbynnu'r gwerthoedd hyn i’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL i ddangos effaith risg isel i'r amgylchedd.
Os byddwch yn datgan yn wirfoddol y gall eich MCP / SG fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’, byddwn yn cynnwys y terfynau hynny yn eich trwydded, y bydd angen i chi gydymffurfio â hi o 1 Ionawr 2025.
Gallwch ddatgan yn wirfoddol y gall eich MCP / SG fodloni’r terfynau hyn yn eich ffurflen gais.
Os na fyddwch yn datgan y gall eich MCP fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’, byddwn yn cynnwys terfynau cyfarpar ‘presennol’ (sy'n berthnasol i'ch MCP) yn eich trwydded, y bydd angen i chi gydymffurfio â hi o 1 Ionawr 2025.
Pellteroedd sgrinio lleiaf i'r safleoedd cynefinoedd
Y math o danwydd a ddefnyddir |
Mewnbwn thermol graddedig (MWth) unrhyw MCP |
Pellter lleiaf o MCP i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Barth Cadwraeth Morol (metrau) |
Pellter lleiaf o MCP i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu wlyptir Ramsar (metrau) |
---|---|---|---|
Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd |
1 i 2 |
750 |
750 |
Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd |
2 i 5 |
1,000 |
1,000 |
Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd |
5 i 10 |
1,500 |
1,500 |
Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd |
10 i 20 |
2,000 |
2,500 |
Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd |
20 i 50 |
2,000 |
5,000 |
Nwy heblaw nwy naturiol |
1 i 2 |
1,000 |
1,000 |
Nwy heblaw nwy naturiol |
2 i 5 |
1,500 |
1,500 |
Nwy heblaw nwy naturiol |
5 i 10 |
2,000 |
4,000 |
Nwy heblaw nwy naturiol |
10 i 20 |
2,000 |
5,000 |
Nwy heblaw nwy naturiol |
20 i 50 |
2,000 |
10,000 |
Olew tanwydd trwm solet a hylifol |
1 i 2 |
2,000 |
2,000 |
Olew tanwydd trwm solet a hylifol |
2 i 5 |
2,000 |
4,000 |
Olew tanwydd trwm solet a hylifol |
5 i 10 |
2,000 |
8,000 |
Olew tanwydd trwm solet a hylifol |
10 i 50 |
2,000 |
10,000 |
Offeryn sgrinio hylosgi SCAIL
Mae’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL ar gael ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), a ddefnyddir gan holl reoleiddwyr y DU ar gyfer asesu boeleri, injans, generaduron a thyrbinau.
Defnyddiwch yr offeryn SCAIL ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH)
Mae canllaw cyffredinol i ddefnyddwyr yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL ar gael ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i'ch helpu i gwblhau'r offeryn.
Bydd yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL naill ai'n ‘sgrinio allan’ neu'n ‘sgrinio i mewn’ eich MCP / SG.
Os bydd eich MCP / SG yn cael ei ‘sgrinio allan’ gan yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, nid oes angen i chi gynnal unrhyw asesiadau modelu ansawdd aer, ond bydd angen i chi gwblhau templed canlyniadau SCAIL (dolen) a’i gyflwyno gyda’ch cais am drwydded.
Os bydd eich MCP yn cael ei ‘sgrinio i mewn’ gan yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, bydd angen i chi gynnal asesiad modelu ansawdd aer safle-benodol sy'n asesu'r risgiau i iechyd dynol a chynefinoedd gwarchodedig sy'n agos at eich MCP / SG a chyflwyno hwnnw gyda'ch trwydded cais.
Mae asesiadau modelu ansawdd aer yn gofyn am wybodaeth arbenigol felly bydd angen i chi ddefnyddio ymgynghorydd amgylcheddol i wneud hyn ar eich rhan. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau i'w gwblhau, felly efallai y byddwch am wneud hynny cyn gwneud eich cais.
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.
Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud eich modelu manwl eich hun.
Rhaid i chi sicrhau nad yw eich allyriadau aer MCP / SG yn torri safon ansawdd aer ac felly rhaid i chi asesu yn erbyn y safonau hyn yn eich asesiad risg.
O ganlyniad i’ch asesiad modelu ansawdd aer, efallai y byddwn yn gosod amodau trwydded llymach, fel y rhai sy’n gofyn i chi wneud fel a ganlyn:
- bodloni Gwerth Terfyn Allyriadau (ELV) is
- gwella sut mae allyriadau’n cael eu gwasgaru
- lleihau oriau gweithredu
Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn o'r dyddiad y mae angen y drwydded.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnal asesiad risg priodol ar gael ar Gov.uk
MCP / SGs wedi'u lleoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA)
Os yw eich MCP / SG wedi’i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA), rhaid i chi ddarparu:
- Manylion yr AQMA
- Allyriadau gwirioneddol o'ch MCP
Darganfyddwch a ydych mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar wefan DEFRA
Byddwn yn ymgynghori â'r awdurdod lleol i wirio a yw eich MCP wedi'i nodi yn y Cynllun Rheoli Ansawdd Aer cysylltiedig ac, os ydyw, mae'n bosibl y bydd eich allyriadau MCP yn cael eu nodi fel rhai sy'n effeithio'n andwyol ar ansawdd aer yn yr ardal.
Bydd yr awdurdod lleol, yn ei gynllun, yn nodi faint llymach y mae angen i'r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELVs) fod er mwyn sicrhau gwelliant amlwg i ansawdd aer. Byddwn yn cynnwys yr ELVs llymach y cytunwyd arnynt yn amodau eich trwydded.
Crynodeb annhechnegol
Bydd angen i chi ddarparu crynodeb sy'n esbonio eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl, gan osgoi termau technegol, data manwl a thrafodaeth wyddonol. Dylai hwn gynnwys crynodeb o'r safle a chrynodeb o'r safonau technegol allweddol a'r mesurau rheoli sy'n deillio o'ch asesiad risg.
Os yw eich cais am gyfarpar symudol, rhaid i chi ddweud wrthym sut y gallai'r gweithgareddau rydych am eu cyflawni effeithio ar ansawdd y tir a disgrifio symudedd eich cyfarpar a sut rydych yn bwriadu gweithredu.
Cadarnhad bod gennych system reoli ar waith
Rhaid bod gennych system reoli ysgrifenedig effeithiol ar waith sy'n nodi ac yn lleihau'r risg o lygredd. Gallwch ddangos hyn drwy ddefnyddio cynllun ardystiedig neu'ch system reoli eich hun. Mae eich trwydded yn ei gwneud yn ofynnol i chi (fel y ‘gweithredwr’) sicrhau eich bod yn rheoli a gweithredu eich gweithgareddau yn unol â system reoli ysgrifenedig.
Gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen y canllawiau a bod eich system reoli yn bodloni ein gofynion yn y ffurflen gais.
Tystiolaeth i ddangos eich gallu fel deiliad trwydded (y gweithredwr)
Wrth benderfynu ar eich cais, rhaid i ni ystyried a fyddwch yn ddeiliad trwydded cymwys (‘gweithredwr’). Byddwn yn edrych ar eich gallu technegol ac ar a ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd berthnasol. Trosedd berthnasol yw un sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu reoliad amgylcheddol.
Byddwn hefyd yn gwirio i weld a ydych wedi'ch datgan yn fethdalwr neu'n ansolfent a gallwn wirio eich sefyllfa ariannol trwy wiriad credyd. Byddwn hefyd yn gwirio bod gennych system reoli ar waith.
Asesiad Technegau Gorau sydd ar Gael (BAT)
Bydd angen i chi ddarparu asesiad BAT gyda'ch cais am drwydded os yw eich MCP / SG:
- Yn foeler, ffwrnais, tyrbin nwy neu injan tanio cywasgu AC â mewnbwn thermol sy’n gyfartal neu'n fwy nag 20MW
- Yn llosgi 50kg neu fwy yr awr o fiomas gwastraff
Efallai y byddwch am ddefnyddio ymgynghorydd amgylcheddol â chymwysterau addas i gynnal asesiad Technegau Gorau Sydd ar Gael (BAT) i chi, felly bydd angen i chi gwblhau hynny cyn gwneud eich cais.
Gallwch chi ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.
Boeleri, ffwrneisi, tyrbinau nwy neu beiriannau tanio cywasgu sydd â mewnbwn thermol sy'n gyfartal neu'n fwy nag 20MW
Mae eich MCP / SG hefyd yn ddarostyngedig i Atodlen 1, Adran 1.1 Rhan B o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ac felly byddwn yn cynnwys amodau ychwanegol yn eich trwydded.
Byddwn yn anfon copi drafft o'ch trwydded atoch i'w hadolygu cyn ei chyhoeddi.
Bydd angen cwblhau eich asesiad BAT yn unol â’r Nodyn cyfarwyddyd technegol hwn ar gyfer 1.1 Rhan B o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar dudalen we gov.uk a’i gyflwyno gyda’ch cais.
MCPs sy'n llosgi 50kg neu fwy yr awr o fiomas gwastraff
Bydd angen i chi gyflwyno asesiad Technegau Gorau Sydd ar Gael (BAT) os yw eich MCP / SG yn llosgi 50kg neu fwy yr awr o'r mathau canlynol o fiomas gwastraff:
- gwastraff llysiau o amaethyddiaeth a choedwigaeth
- gwastraff llysiau o'r diwydiant prosesu bwyd, os caiff y gwres a gynhyrchir ei adennill
- gwastraff llysiau ffibrog o gynhyrchu mwydion crai ac o gynhyrchu papur o fwydion, os caiff ei gyd-losgi yn y man cynhyrchu a bod y gwres a gynhyrchir yn cael ei adennill
- gwastraff corc
- gwastraff pren ac eithrio gwastraff pren a all gynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i driniaeth â chadwolion neu gaenen pren sy’n cynnwys, yn benodol, wastraff pren sy’n tarddu o wastraff adeiladu a dymchwel
Os bydd eich MCP yn llosgi 50kg neu fwy o'r biomas gwastraff a ddisgrifir uchod, mae hyn yn golygu ei fod hefyd yn ddarostyngedig i Atodlen 1, Adran 5.1 Rhan B o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ac felly byddwn yn cynnwys amodau ychwanegol yn eich trwydded. Byddwn yn anfon copi drafft o'ch trwydded atoch i'w hadolygu cyn ei chyhoeddi.
Os bydd eich MCP yn llosgi mwy na thair tunnell yr awr neu wastraff nas disgrifir uchod, cysylltwch ag mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a byddwn yn cynghori yn unol â hynny.
Bydd angen cwblhau eich asesiad BAT yn unol â’r Nodyn cyfarwyddyd technegol hwn ar gyfer 1.1 Rhan B o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar dudalen we gov.uk a’i gyflwyno gyda’ch cais.
Adroddiad effeithlonrwydd ynni ar gyfer MCPs sydd â mewnbwn thermol sy'n cyfateb i 20MW neu'n fwy
Efallai y bydd angen i chi ddarparu adroddiad effeithlonrwydd ynni os yw cyfanswm mewnbwn thermol net cyfanredol eich MCP / SGs yn fewnbwn thermol o 20MW neu fwy.
Efallai y byddwch hefyd am ddefnyddio ymgynghorydd amgylcheddol â chymwysterau addas i gyflawni'r adroddiad ar eich rhan, felly bydd angen i chi ei gwblhau cyn gwneud eich cais.
Gallwch chi ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.
Mae cyfanswm y mewnbwn thermol net cyfanredol yn golygu cyfanswm mewnbynnau thermol graddedig net yr holl unedau hylosgi unigol a weithredir ar yr un safle.
Rhaid i chi baratoi a chyflwyno adroddiad gyda'ch cais am drwydded os yw eich MCP:
- yn newydd neu wedi'i adnewyddu'n sylweddol
- yn gweithredu mwy na 1,500 o oriau'r flwyddyn
- â mewnbwn thermol o dros 20MW (cyfanswm mewnbwn thermol net cyfanredol)
- yn foeler, ffwrnais, tyrbin nwy neu injan tanio cywasgu
Nid yw’r gofyniad hwn yn berthnasol i'r canlynol:
- Peiriannau tanio gwreichionen
- Generaduron Penodedig Cyfran A a Chyfran B cyfredol
Mae canllawiau pellach ar sut i fodloni'r safonau effeithlonrwydd ynni ar gael ar gov.uk.