Cyfoeth Naturiol Cymru - trosglwyddiad tynnu dŵr
Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003)
Rhoddir hysbysiad drwy hyn, yn unol ag Adran 37 Deddf Adnoddau Dŵr 1991 a Pharagraff 2 Atodlen 2 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni) 2006, bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am drwydded i drosglwyddo dŵr o Afon Cynllaith yng Nghored Glascoed, Llansilin, Croesoswallt yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ 21714 28311 trwy lwybr pysgod ac yn ôl i Afon Cynllaith yng Nghyfeirnod Grid SJ 21677 28211.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os ydych am ofyn am gopi neu dymunwch wneud sylwadau ynghylch y cais, rhaid ichi wneud hynny yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu enw’r ymgeisydd a’r Cyfeirnod PAN-031363 wrth:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwasanaeth Trwyddedu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
Neu drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 15 Gorffennaf 2026.
Pan ddaw’r cyfnod sylwadau i ben, bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr hawl i roi trwydded sy’n awdurdodi’r cynnig y tybir ei fod wedi’i roi, oni bai bod Gweinidogion Cymru, un ai oherwydd unrhyw sylwadau a wnaed ynglŷn â’r cynnig neu fel arall, yn cyfarwyddo neu’n gofyn bod cais yn cael ei wneud iddynt hwy.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler adran ymgynghoriadau ein gwefan neu ffoniwch ein Canolfan Gofal Cwsmeriaid ar 0300 0653000 (Dydd Llun-Gwener, 9yb-5yp).