Penderfyniad Rheoleiddiol 119: Rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd pEPR ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2025
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 31 Ionawr 2027, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl, neu ei ddiwygio, cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Mae Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (‘Rheoliadau 2024’) yn gosod rhwymedigaethau ar gynhyrchwyr deunyddiau pecynnu i asesu, cofnodi a rhoi gwybod am wybodaeth benodol.
Cyn dibynnu ar y penderfyniad rheoleiddiol hwn cyfeiriwch at y datganiad a wnaed gan Weinyddwr y Cynllun, PackUK er mwyn deall sut y bydd dibynnu ar y penderfyniad rheoleiddiol yn effeithio ar eich ffi gwaredu ar gyfer y flwyddyn asesu 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027.
Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn caniatáu i gynhyrchwyr gymryd amser ychwanegol i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025 neu ddibynnu, fel dewis arall, ar yr asesiad a wneir yn y cyfnod adrodd nesaf.
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid eich gofynion cyfreithiol i:
- Asesu ailgylchadwyedd deunydd pecynnu’r cartref a gyflenwyd yn y cyfnod adrodd 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025
- Cadw cofnodion o'r asesiadau ailgylchadwyedd
- Adrodd ar yr asesiadau ailgylchadwyedd i CNC ar neu cyn 1 Hydref 2025
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad yw cynhyrchydd yn cydymffurfio â'i ofynion cyfreithiol ar gyfer y cyfnod adrodd 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025:
- asesu'r deunydd pecynnu cartref.
- cadw’r cofnodion.
- adrodd y data.
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid nac yn dileu unrhyw un o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r gofynio
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cysylltwch â ni.