Paratoi ar gyfer cyfweliad swydd ar-lein
Pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd, efallai y byddwch chi'n cael cyfweliad ar-lein.
Paratowch ar gyfer eich cyfweliad ar-lein
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod:
- dyddiad ac amser y cyfweliad
- sut i ymuno â'r cyfweliad ar-lein
Gallwch ofyn am gynnal y cyfweliad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Bydd angen i chi ddweud wrthym cyn y cyfweliad os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch, fel:
- meddalwedd cyfrifiadurol penodol
- os oes arnoch angen unrhyw e-byst a dogfennau mewn fformat hygyrch
- cymorth arbenigol, er enghraifft dehonglydd iaith arwyddion
Cyn y cyfweliad
I baratoi ar gyfer cyfweliad swydd ar-lein dylech:
- ymchwilio i rôl y swydd a chael dealltwriaeth o'n diwylliant a'n gwerthoedd
- paratoi rhai atebion i gwestiynau cyffredin mewn cyfweliadau. Ymarferwch ddarllen eich atebion yn uchel. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ac yn fwy parod
- mynd drwy eich CV neu’ch ffurflen gais a pharatoi enghreifftiau i ddangos bod gennych y sgiliau a'r profiad i wneud y gwaith
- defnyddio’r dull STAR i'ch helpu i strwythuro'ch atebion. Bydd hyn yn eich helpu i ddangos eich sgiliau a'ch profiad mewn ffordd strwythuredig
- sicrhau bod gennych rai cwestiynau eich hun i'w gofyn ar ddiwedd y cyfweliad
- ymuno â'r cyfarfod bum munud cyn iddo ddechrau
Paratoadau technegol
Dylech wneud y canlynol:
- profi eich meicroffon, eich sain a'ch camera cyn y cyfweliad
- gwefru eich offer
- gwneud yn siŵr bod gennych gysylltiad rhyngrwyd da
- mewngofnodi ymlaen llaw a setlo'ch hun
- cael gwared ar unrhyw bethau electronig sy’n tynnu’ch sylw, diffodd hysbysiadau Outlook neu Teams
- diffodd eich ffôn symudol
- gwneud ffug gyfweliad gyda ffrind neu gydweithiwr a gofyn iddyn nhw am adborth ar sut roeddech chi’n ymddangos ar y sgrin
- os gallwch chi, defnyddio cyfrifiadur neu liniadur yn hytrach na thabled neu ffôn symudol. Gosodwch y ddyfais fel bod y camera ar lefel y llygaid
- defnyddio clustffonau i wella ansawdd eich sain
- cau unrhyw ffenestri eraill ar eich cyfrifiadur
- defnyddio’r gosodiad 'cefndir aneglur' ar Microsoft Teams i sicrhau mai chi yw'r prif ffocws
Problemau cysylltiad
Os byddwch yn profi unrhyw broblemau technegol yn ystod y cyfweliad, dylech wneud y canlynol:
- ceisio gadael ac ailymuno â'r cyfarfod drwy'r ddolen wreiddiol
- aros i'r panel cyfweld ailymuno â'r cyfarfod os ydyn nhw’n cael trafferth cysylltu
- cysylltu â'r cadeirydd dros y ffôn i drafod opsiynau cyfarfod eraill os yw'r broblem yn parhau
Paratowch eich lleoliad
Dylech wneud y canlynol:
- dod o hyd i le tawel heb unrhyw beth i dynnu’ch sylw
- gwneud yn siŵr nad oes dim byd sy'n tynnu sylw yn y cefndir
- gwneud yn siŵr bod gennych chi olau naturiol da neu ddefnyddio lamp fel bod y cyfwelydd yn gallu eich gweld chi'n dda
- sicrhau bod gennych rywfaint o ddŵr, papur a phen ar gyfer cymryd nodiadau, a'ch nodiadau wrth law
- cadw copi o'ch ffurflen gais neu CV yn agos atoch, rhag ofn y bydd angen i chi gyfeirio at ddyddiadau, teitlau swyddi, neu gymwysterau
Yn y cyfweliad
Gall fod hyd at dri o bobl ar y panel cyfweld.
- Bydd y Cadeirydd yn eich cyflwyno i'r panel ac yn eich tywys drwy'r broses gyfweld.
- Os oes angen i chi gymryd ychydig eiliadau i feddwl am eich ateb, dywedwch wrth y Cadeirydd; a pheidiwch ag ofni gofyn iddyn nhw ailadrodd cwestiwn os nad yw'n glir.
- Cymerwch ambell anadl ddofn a cheisiwch aros yn ddigyffro.
Diweddarwyd ddiwethaf