Dathlu yn gyfrifol i ddiogelu’r amgylchedd ar Noson Tân Gwyllt

Llosgi pren ar gyfer Noson Tân Gwyllt

Er bod ymgynnull o amgylch coelcerth yn parhau i fod yn draddodiad hoffus iawn i lawer, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am atgoffa pobl i feddwl yn ofalus am yr hyn maen nhw'n ei losgi a'r effaith y gall ei chael ar yr amgylchedd.

Gall llawer o ddeunyddiau sy’n cael eu hychwanegu’n aml at goelcerth – gan gynnwys dodrefn, matresi, plastigau, pren wedi'i drin a rwber – ryddhau llygryddion niweidiol wrth eu llosgi. Gall y rhain effeithio ar ansawdd yr aer yn lleol ac pheri risg i bobl a'r amgylchedd.

Hoffem atgoffa pobl i losgi gwastraff gardd sych, pren heb ei drin ac ychydig bach o ddail yn unig.

Mae gan bawb ddyletswydd gofal cyfreithiol i sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli a'i waredu'n gywir.

Caiff pobl eu hannog i ddefnyddio canolfannau ailgylchu lleol a gwasanaethau casglu gwastraff swmpus, lle bo ar gael, i waredu eitemau mwy. Mae CNC hefyd yn annog pobl i ystyried a ellir ailddefnyddio, trwsio neu ailgylchu eitemau cyn eu gwaredu – gan helpu i sicrhau bod eitemau’n cael eu defnyddio am gyfnod hirach, a lleihau gwastraff diangen.

Gall coelcerthi beri risg i fywyd gwyllt hefyd. Gall pentyrrau o bren a gwastraff gardd fod yn lloches i ddraenogod a mamaliaid bach eraill sy'n ceisio cynhesrwydd yn ystod y misoedd oerach. Mae CNC yn annog pobl i godi coelcerthi mor agos â phosibl at yr amser y byddant yn cael eu cynnau, ac i wirio'n drylwyr am fywyd gwyllt cyn eu cynnau.

Dywedodd Edward Davies, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yn mwynhau Noson Tân Gwyllt yn gyfrifol, a dydyn ni ddim am ddifetha dathliadau neb. Fodd bynnag, rydyn ni’n annog unrhyw un sy'n bwriadu cynnau coelcerth dros yr wythnosau nesaf i ystyried yr effaith y gall llosgi gwastraff ei chael ar yr amgylchedd, ar gymunedau lleol ac ar fywyd gwyllt.
“Gall llosgi gwastraff ryddhau llygryddion a nwyon niweidiol i'r aer, a allai effeithio ar ansawdd yr aer a pheri risg i iechyd pobl. Gall hefyd halogi'r pridd a'r tir o amgylch y goelcerth. Os ydych chi wedi bod yn codi coelcerth dros gyfnod o amser, byddem hefyd yn eich annog i wirio'n ofalus am ddraenogod a bywyd gwyllt arall a allai fod wedi defnyddio’r pentwr fel lloches, cyn ei gynnau.”

Cyngor allweddol ar gyfer Noson Tân Gwyllt

  • Dim ond pren glân, sych, heb ei drin y dylid ei losgi.
  • Peidiwch â llosgi gwastraff cartref, masnachol neu adeiladu, gan gynnwys dodrefn, plastigau, rwber, pren wedi'i baentio neu wedi'i drin.
  • Gwiriwch goelcerthi yn drylwyr am ddraenogod a bywyd gwyllt arall cyn eu cynnau.
  • Ewch ati i ystyried defnyddio canolfannau ailgylchu lleol neu wasanaethau casglu gwastraff swmpus ar gyfer eitemau dieisiau.
  • Byddwch yn ystyriol o gymdogion ac osgoi niwsans o ganlyniad i fwg, huddygl neu arogleuon.

Am ragor o wybodaeth am reoli gwastraff yn gyfrifol a'ch dyletswydd gofal gwastraff, ewch i wefan CNC.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru