Llwybrau sain a chwedlau gwerin

Llwybrau sain

Gall llwybrau sain eich helpu i ddysgu mwy am hanes lleoliad, neu ddysgu am nodweddion diddorol eraill.

Maent wedi'u cynllunio i'w defnyddio pan fyddwch yn ymweld ag un o'n coetiroedd neu warchodfeydd.

Mewn rhai mannau, ceir pyst wedi'u rhifo ar y llwybr sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan o'r daith sain.

Cyn i chi ymweld, lawrlwythwch y llwybr sain i'ch ffôn drwy'r ddolen ar waelod y dudalen hon.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript ar gyfer pob llwybr sain.

Chwedlau gwerin

Mae'r rhan fwyaf o'n chwedlau gwerin yn seiliedig ar lên gwerin Cymru, gyda straeon sy'n lleol i rai o'n coetiroedd.

Mae eraill yn straeon sy'n dod â nodweddion treftadaeth naturiol a diwylliannol yn fyw.

Gallwch wrando ar y chwedlau naill ai cyn eich ymweliad neu pan fyddwch yno.

Gallwch lawrlwytho'r straeon o'r dolenni ar waelod y dudalen hon.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript ar gyfer pob chwedl werin.

Dysgwch fwy am ymweld â phob lle gyda llwybr sain neu chwedl gwerin

Cliciwch ar y dolenni isod i fynd i'r dudalen we am ymweld â phob lle.

Sut i lawrlwytho llwybrau sain, chwedlau gwerin a sgriptiau

Cliciwch ar y ffeil rydych chi am ei lawrlwytho yn yr adran lawrlwytho dogfennau isod.

Gan y gall signal rhwydwaith ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r ffeiliau hyn cyn eich ymweliad.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Coed y Brenin - Afon Eden llwybr sain mp3 [6.2 MB]
Coed y Brenin - Afon Eden script llwybr sain PDF [152.2 KB]
Coed y Brenin - Mawnglawdd Copr Glasdir llwybr sain mp3 [7.9 MB]
Coed y Brenin - Mawnglawdd Copr Glasdir script llwybr sain PDF [236.4 KB]
Coed y Brenin - Tyddyn Gwladys Gwaith Powdwr Gwn sgript llwybr sain PDF [283.9 KB]
Coed y Brenin - Tyn y Groes Stori'r Coedwigwr script llwybr sain PDF [236.2 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf