Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Ychydig gannoedd o fetrau o'r A470 brysur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fe gewch eich amgáu mewn amffitheatr gysgodol, atmosfferig a grëir gan glogwyni uchel, creigiog Craig Cerrig-gleisiad.
Beth am roi cynnig ar ein llwybrau arwyddbost, i gael blas ar y warchodfa? I’r rheiny sy’n gallu darllen map ac a hoffai fynd am dro hirach, ceir llwybrau sy’n arwain i fyny i rostir uchel Fan Frynych a throsodd i Graig Cwm-du.
Ceir safle picnic bach gerllaw wrth ochr mynedfa'r warchodfa.
Mae toiledau a chaffi yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n daith fer yn y car o’r warchodfa.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Cewch brofiad o’r tirwedd mawreddog ar y daith gerdded hon ar hyd yr afon hyd at droed llethrau creigiog Craig Cerrig Gleisiad.
Cewch syniad gwych o uchder creigiog Craig Cerrig-gleisiad, o bell ac agos, ar y llwybr cylchol hwn.
Mae’n cychwyn ar hyd ymyl yr afon ac yn dringo’n serth drwy’r grug a’r llus tuag at garnedd.
Ceir golygfeydd ardderchog i gyfeiriad Pen y Fan ar y ffordd yn ôl.
Mae llwybrau troed yn arwain i fyny i gopa gwastad Fan Frynych ac ar draws i Graig Cwm-du.
Efallai na fydd y rhain wedi’u harwyddo ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn mynd a map gyda chi.
Mae Ffordd y Bannau yn dilyn ymyl deheuol ffin y warchodfa.
Mae’r llwybr hir hwn - 99 milltir (159 cilometr) - yn mynd drwy dir anghysbell a garw.
Nid oes llawer o arwyddion, ond dangosir y llwybr ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) neu gallwch ddod o hyd i ganllaw i’r llwybr yn siop ar-lein Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gallwch ymuno â Ffordd y Bannau ar lwybr troed o’r gilfan ger y fynedfa i’r warchodfa.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ffordd y Bannau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Cerfiwyd y cwm hwn gan rewlif yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.
Wrth i’r iâ doddi, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, daeth waliau creigiog serth Craig Cerrig-gleisiad i’r golwg.
Beth amser yn ddiweddarach daeth tirlithriad trychinebus â miliynau o dunelli o’r graig i lawr y llethrau.
Dengys olion archeolegol bod pobl wedi byw yn ardal y warchodfa ers miloedd o flynyddoedd.
Mae olion ffordd Rufeinig a ffermydd diweddarach i’w gweld yn ogystal â chytiau o’r Oes Haearn.
Mae'r llethrau creigiog serth, y sgarpiau miniog a’r creigiau’n gartref i blanhigion arctig-alpaidd prin. Dyma’u lleoliad mwyaf deheuol yn y DU ac nid ydynt i’w canfod eto tan yr Alpau.
Mae blodau gwyllt arctig-alpaidd yn tyfu ar y clogwyni creigiog sy'n wynebu'r gogledd. Mae’r rhain yn cynnwys y tormaen glasgoch, y tormaen mwsoglaidd, glesyn y gaeaf danheddog a’r dduegredynen werdd.
Mae'r clogwyni yn goetir fertigol i bob pwrpas, gyda choed a llwyni drain, criafol, onnen a’r gerddinen wen brin.
Mae yna hefyd amrywiaeth rhyfeddol o gyfoethog o flodau gwyllt a llawer o wahanol fwsoglau a llysiau'r afu.
Mae'r cyfnod o ddechrau’r gwanwyn hyd ganol haf yn amser gwych i fwynhau amrywiaeth ysblennydd y warchodfa o flodau gwyllt ac adar, gan gynnwys yr hebog tramor, y cudyll coch, y rugiar goch a’r fwyalchen y mynydd brin.
Yn ystod mis Awst a Medi mae'r bryniau'n ddisglair o flodau’r grug.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn ymestyn dros ardal o tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostir yn Ne a Chanolbarth Cymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Fannau Brycheiniog ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych 6½ milltir i'r de o Aberhonddu.
Y cod post yw LD3 8SU.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y gilfan os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r gilfan .
Dilynwch yr A470 o Aberhonddu tuag at Ferthyr Tudful.
Ar ôl tua 5 milltir ewch heibio'r fynedfa i hostel ieuenctid ar y chwith.
Trowch i mewn i'r ail gilfan ar y dde, 500 metr ar ôl y fynedfa i'r hostel ieuenctid – chwilwch am arwydd gwybodaeth yn union tu draw i’r giât ger mynedfa’r warchodfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y gilfan sydd gyfagos i fynedfa'r warchodfa yw SN 971 222 (Explorer Map OL 12).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberdare.
Mae safle bws ger y ffordd fynediad at YHA Bannau Brycheiniog ar yr A470. Mae'r safle bws hwn tua 500 metr o fynedfa'r warchodfa – byddwch yn ofalus wrth gerdded o'r safle bws i fynedfa'r warchodfa.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Gellir parcio yn y gilfan fawr ar y A 470 sydd gyfagos i fynedfa'r warchodfa – chwilwch am arwydd gwybodaeth yn union tu draw i’r giât.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.