Maes parcio Pont Melin Fach a Llwybr Elidir

Mae maes parcio Pont Melin Fach ar gau.

Maes parcio Pont Melin Fach

Nid yw’r maes parcio bychan ym Mhont Melin Fach ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar agor bellach.

Mae rhwystr wrth y fynedfa - peidiwch â cheisio gyrru i'r maes parcio hwn.

Sut i gael mynediad at Lwybr Elidir

Llwybr cerdded o faes parcio Pont Melin Fach i bentref Pontneddfechan yw Llwybr Elidir.

Gallwch chi ddal i ddilyn y llwybr os byddwch chi'n cychwyn o Bontneddfechan.

Mae'r llwybr o Bontneddfechan yn gymharol wastad i ddechrau ond yn fuan daw'n anwastad, a cheir rhai dringfeydd serth.

Mae'r llwybr yn ôl i Bontneddfechan yn dilyn yr un llwybr.

Cadwch yn ddiogel ym Mro’r Sgydau

Mae Llwybr Elidir mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad â Bro’r Sgydau.

Mae damweiniau difrifol yn digwydd yma i ymwelwyr a chafwyd nifer o farwolaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

  • Rydych chi mewn perygl o ddioddef anafiadau a all newid bywyd neu o gael eich lladd os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i’r dŵr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i neidio i bwll dŵr neu i gerdded i mewn i afon i nofio gan fod y dŵr yn oer, yn ddwfn ac yn llifo’n gryf a cheir creigiau llithrig, cerhyntau cryfion a pheryglon cudd.
  • Peidiwch byth â chymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded ceunentydd neu hafnau a sgramblo oni bai eich bod wedi cael hyfforddiant neu oni bai eich bod yn cael eich goruchwylio gan weithredwr cofrestredig a thrwyddedig.
  • Mae llawer o’r damweiniau y mae’r tîm achub mynydd yn cael eu galw i helpu gyda nhw yn cael eu hachosi gan lithro, baglu a chwympo – gwisgwch esgidiau cerdded a chymerwch ofal arbennig ar risiau a thir llithrig.
  • Byddwch yn eithriadol o ofalus yn yml dŵr a chadwch at y llwybrau sydd wedi’u harwyddo gan eu bod yn cynnig y ffordd fwyaf diogel – mae mentro y tu hwnt i’r llwybr sydd wedi’i arwyddo yn hynod o beryglus.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Meysydd parcio eraill ym Mro’r Sgydau

Ein meysydd parcio eraill ym Mro’r Sgydau yw:

Er mwyn dod o hyd i leoedd eraill i ymweld â nhw ym Mro’r Sgydau ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf