Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedtiroedd Pen-hw, ger Casnewydd

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coetiroedd Pen-hw yn cynnwys tri choetir hynafol sy'n dyddio o'r cyfnod cyn 1600.

Mae'r tri choetir yn cwmpasu llethrau a bryniau calchfaen ac yn gartref i flodau gwyllt prin gan gynnwys y Genhinen Bedr frodorol Gymreig.

Coed Wen yw'r unig un o'r coetiroedd hyn sy'n agored i ymwelwyr a gallwch ddilyn ein llwybr cylchol ag arwyddion o’i gwmpas.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Natur Coed Wen

  • Gradd: Cymedrol
  • Distance: 1 filltir/1.7 cilomedr
  • Amser: 45 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn serth ac yn anwastad ar adegau, a gall fod yn llithrig neu’n fwdlyd mewn amodau gwlyb.

Dilynwch y llwybr cylchol o amgylch y coetir – lle gwych i weld blodau gwyllt yn y gwanwyn, adar sy’n ymweld dros yr haf a ffwng yn yr hydref.

Llwybrau cerdded erailll

Mae Taith Gylchol Langstone-Penhow (8.7 milltir/14 cilomedr) yn mynd ar hyd ymyl orllewinol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coetiroedd Pen-hw.

Mae llwybr cyhoeddus ar hyd ffin ddwyreiniol y goedwig.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Pen-hw yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Coed

Mae’r coetir wedi cael ei phrysgoedio a'i defnyddio fel coedlan ers cyn cof - gyda’r boncyffion yn cael eu torri’n agos i’r llawr gan arwain at dyfiant sawl coesyn llai.

Mae prysgoedio’n ffordd wych o roi hwb i fywyd gwyllt gan ei fod yn hybu datblygiad cymysgedd o lennyrch a mannau mwy cysgodol.

Wrth i ni dorri’r coed, bydd y cynnydd mewn golau a ddaw yn ei sgil yn peri i lawer o flodau gwylltion ymddangos.

Er ein bod ni’n tueddu i brysgoedio'r rhan fwyaf o’r coed yn eu tro, rydym yn caniatáu i rai aeddfedu’n goed maint llawn.

Y coed mwyaf cy‑redin yw’r onnen, y geiriosen ddu, pisgwydd dail bach, a’r llwyfen lydanddail - maent oll yn ‑ynnu mewn priddoedd calchog.

Mae yma goed derw hefyd, gyda rhai yn 200 mlwydd oed.

Blodau gwylltion a ffyngau

Edrychwch am:

  • flodau melyn llachar llygad Ebrill o fis Chwefror ymlaen.
  • y genhinen-Bedr wyllt gynhenid sy’n gallu blodeuo mor gynnar â mis Chwefror a pharhau yn ei blodau tan ddiwedd mis Ebrill yn dibynnu ar ba mor gynnes yw’r tywydd. Maen nhw’n tyfu i oddeutu 50cm, sy’n eu gwneud nhw’n llai na’r math sy’n tyfu mewn gerddi.
  • crafanc-yr-arth werdd, mae’n brin!
  • blodau’r gwynt rif y gwlith a’u petalau gwyn yn pefrio ym mis Mawrth ac Ebrill.
  • llethrau’n drwch o glychau’r gog a’u harogl melys, ac yna’r clystyrau o friallu yn hwyrach yn y gwanwyn.
  • coesyn talsyth y tegeirian nyth aderyn yn gynnar yn yr haf.
  • blodau gwyn tlws llysiau Steffan yn yr haf.

Edrychwch am blanhigion prin fel y llaethlys syth a chwlwm cariad.

Wrth i’r haf droi’n hydref bydd y ffyngau’n ymddangos - yn enwedig mewn tywydd gwlyb.

Bywyd gwyllt

Ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, gwyliwch a gwrandewch yn astud am:

  • sgrech y coed
  • coch y berllan
  • y dringwr bach
  • corhedydd y coed
  • y gnocell fraith fwyaf
  • bwncathod

Yn yr haf gwyliwch am fflach du a gwyn y gwybedog brith ac oren a llwyd y ceiliog tingoch lliwgar, sy’n edrych fel lleidr pen-ffordd.

Chwiliwch am arwyddion fod moch daear o gwmpas, fel llwybrau neu olion traed.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pen-hw 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gasnewydd.

Mae yn Sir Casnewydd.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pen-hw ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Explorer 152

Cyfeirnod grid yr OS yw ST 415 896.

Cyfarwyddiadau

O Gasnewydd dilynwch draffordd yr M4 tuag at Fryste.

Gadewch yr M4 ar gyffordd 24, gan ddilyn arwyddion i'r A48 tuag at Langstone.

Wrth y gylchfan nesaf, parhewch yn syth ar draws gan ddilyn yr arwyddion i Ben-hw.

Ar ôl 3 milltir, trowch i'r dde i Lôn Bowdens ger y dafarn.

Ewch ymlaen ar hyd y ffordd trac sengl yma am oddeutu 1 milltir ac mae'r lle parcio ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cyffordd Twnnel Hafren.

Er mwyn cael manylion cludiant chords Cyffordd Twnnel Hafrenewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.
 
Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf