Gwneud cais am drwydded ar gyfer gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â dileu rhywogaethau estron goresgynnol o bryder arbennig yn gyflym

Trwydded ar gyfer gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â dileu rhywogaethau estron goresgynnol o bryder arbennig yn gyflym

Mae Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 yn nodi rheolau i atal a lleihau effaith cyflwyno a lledaeniad anifeiliaid a phlanhigion estron goresgynnol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Gorchymyn yn rhestru 66 o rywogaethau o bryder arbennig (Saesneg yn unig), y mae eu heffaith andwyol yn gofyn am gamau cydlynol ar lefel Ewropeaidd.

Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn drosedd cynnal unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol gyda rhywogaethau rhestredig, oni bai bod trwydded, caniatâd neu esemptiad ar waith:

  • eu mewnforio
  • eu cadw
  • eu bridio
  • eu cludo (ac eithrio cludiant i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu)
  • eu defnyddio neu eu cyfnewid
  • eu rhoi ar y farchnad
  • eu tyfu, eu meithrin neu ganiatáu iddynt atgenhedlu
  • eu rhyddhau i'r amgylchedd

Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwydded i gynnal gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â dileu rhywogaethau o bryder arbennig yn gyflym yng nghyfnod cynnar eu goresgyniad yng Nghymru.

Er enghraifft, pe bai cacynen felyngoes (cacynen Asia) yn cael ei chanfod yng Nghymru, efallai y byddai’r awdurdodau am wneud cais am drwydded gennym i ryddhau cacynen felyngoes er mwyn helpu i ganfod nyth a’i ddinistrio er mwyn difa cacwn o’r fath yn gyflym.

Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer anifeiliaid o bryder arbennig (Saesneg yn unig).

Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer planhigion o bryder arbennig (Saesneg yn unig).

Gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â dileu cyflym

I wneud cais am drwydded i weithredu mesurau ar gyfer dileu rhywogaethau o bryder arbennig yn gyflym yng nghyfnod cynnar eu goresgyniad yng Nghymru, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais am drwydded.

Rhaid i ddatganiad dull manwl fod ynghlwm â’r cais. Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost neu i:

Trwyddedu Rhywogaethau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf