Trwyddedau ar gyfer ymdrin â rhywogaethau estron goresgynnol

Trwyddedau ar gyfer ymdrin â rhywogaethau estron goresgynnol

Mae rheoliadau ar waith i atal a lleihau effaith cyflwyno a lledaenu anifeiliaid a phlanhigion anfrodorol.

Mae Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 yn gweithredu rheoliadau’r UE a gedwir sy’n ymwneud ag atal a rheoli lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol. Mae'n rhestru rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sy'n destun pryder arbennig. Mae rhai o'r rhywogaethau hyn i'w cael yng Nghymru.

Mae'r rheoliadau yn berthnasol i sbesimenau byw ac unrhyw beth y gallant atgenhedlu oddi wrthynt, megis hadau, sborau a darnau o blanhigion.

Gweler canllawiau GOV.UK ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig (Saesneg yn unig).

Gweler canllawiau GOV.UK ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig (Saesneg yn unig).

Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn drosedd i gynnal unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol â rhywogaethau rhestredig, ac eithrio pan fydd trwydded neu esemptiad ar waith:

  • mewnforio
  • cadw
  • bridio
  • cludo (ac eithrio cludiant i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu)
  • gosod ar y farchnad
  • cyfnewid
  • caniatáu i dyfu, meithrin neu atgenhedlu
  • rhyddhau i'r amgylchedd

Beth i'w wneud os ydych yn berchen ar rywogaeth planhigyn neu anifail sy'n destun pryder arbennig

Caniateir cadw anifeiliaid a oedd dan berchnogaeth cyn y dyddiad y cawsant eu rhoi ar y rhestr tan ddiwedd eu bywyd naturiol, heb unrhyw ofyniad i wneud cais am drwydded, yn ddarostyngedig i amodau penodol. 

Gwirio'r amodau ar gyfer cadw anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig, ar wefan gov.uk

Gall perchennog masnachol werthu neu drosglwyddo stoc o fewn dwy flynedd ar ôl rhestru'r rhywogaeth.

Mae’r rhestr o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Pa rywogaethau o blanhigion neu anifeiliaid sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau

Mae’r rhestr o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mae'r 14 o rywogaethau a nodwyd eu bod wedi'u lledaenu'n eang yng Nghymru a Lloegr a bod angen eu rheoli fel a ganlyn:

Planhigion

  • Ffugalaw Nuttall (Elodea nuttallii)
  • Rhiwbob Chile (Gunnera tinctoria)
  • Efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum)
  • Dail-ceiniog arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
  • Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera)
  • Ffugalaw crych (Lagarosiphon major)
  • Pidyn-y-gog Americanaidd (Lysichiton americanus)
  • Pluen parot (Myriophyllum aquaticum)

Anifeiliaid

  • Gwydd yr Aifft (Alopochen aegyptiacus)
  • Cranc manegog Tsieina (Eriocheir sinensis)
  • Carw mwntjac (Muntiacus reevesi)
  • Cimwch afon arwyddol (Pacifastacus leniusculus)
  • Gwiwer lwyd (Sciurus carolinensis)
  • Holl isrywogaethau Trachemys scripta (math o derapin)

Gweler y rhestr lawn o anifeiliaid sy'n destun pryder ar Gov.uk 

Gweithgarwch trwyddedig

O dan rai amgylchiadau, mae'n bosibl y bydd modd cael trwydded er mwyn cynnal gweithgaredd a gyfyngir gan y rheoliadau. Caniateir gweithgareddau dim ond at y dibenion canlynol:

  • gwaredu’n gyflym rywogaeth sydd newydd gyrraedd
  • rheoli rhywogaeth sydd wedi'i lledaenu'n eang
  • cadw anifail tan ddiwedd ei fywyd naturiol

Ni fydd angen trwydded arnoch os ydych chi'n cludo rhywogaeth restredig i gyfleusterau yng nghyd-destun dileu neu os ydych chi'n cyflawni mesurau nad ydynt yn cynnwys gweithgareddau cyfyngedig.

Dylai unrhyw gamau rheoli ddilyn arferion gorau a chanllawiau bioddiogelwch (dolenni Saesneg yn unig).

Gwneud cais am drwydded i symud a chadw rhywogaeth estron oresgynnol o bryder arbennig.

Gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â dileu rhywogaeth estron oresgynnol o bryder arbennig yn gyflym.

Gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau cyfyngedig sy'n gysylltiedig â rheoli rhywogaeth estron oresgynnol o bryder arbennig sydd wedi'i lledaenu'n eang. 

Codi ffi

Ar hyn o bryd, ni chodir ffi am drwyddedau ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol.

Rydym wrthi'n cynnal adolygiad strategol o ffioedd ar draws y sefydliad. Gallai'r adolygiad hwn arwain at newidiadau o ran sut rydym yn talu am gostau rhywfaint o'r gwaith a wnawn, gan gynnwys cyflwyno ffioedd ar gyfer ceisiadau a oedd yn rhad ac am ddim yn flaenorol. 

Defnyddio rhywogaethau sy'n destun pryder arbennig at ddibenion mewnforio, ymchwil, cadwraeth ex situ, gwyddoniaeth neu feddyginiaeth

Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion er mwyn mewnforio, symud neu ddefnyddio rhywogaeth restredig at ddibenion ymchwil, cadwraeth ex situ, gwyddoniaeth neu feddyginiaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf