Gwneud cais am drwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron o bryder arbennig

Trwydded i symud a chadw rhywogaeth oresgynnol estron

I symud neu gadw anifail sydd wedi'i restru fel rhywogaeth o bryder arbennig o dan reoliadau'r UE a gedwir yng Nghymru, rhaid i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded.

Mae rhai eithriadau lle na fydd angen i chi wneud cais am drwydded:

Os cawsoch yr anifail ar ôl iddo gael ei restru rhaid i chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael arweiniad.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig

Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle 

Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull

Sut i wneud cais am drwydded

Bydd angen i ymgeiswyr drefnu i filfeddyg archwilio eu safle a chyflwyno adroddiad yr archwiliad ynghyd â'u cais am drwydded. Bydd angen cynnwys datganiad dull gyda'r cais hefyd.

Rhaid i anifeiliaid:

  • gael gofal a bodloni eu hanghenion lles
  • peidio â chael eu caniatáu i fridio a
  • cael eu cadw'n ddiogel.
  • cael eu microsglodio neu eu marcio gan ddefnyddio dulliau nad ydynt yn achosi poen, gofid na dioddefaint y gellir eu hosgoi.

Gweler canllawiau GOV.UK ar y rheolau ar gyfer anifeiliaid o bryder arbennig.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael trwydded i symud a chadw rhywogaeth sy’n destun pryder arbennig

Lawrlwythwch dempled ar gyfer archwiliad milfeddygol o safle 

Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull

Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost, neu i:

Trwyddedu Rhywogaethau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf