Yr hyn i’w wneud cyn gwneud cais am drwydded i dynnu dŵr neu ei gronni
Os ydych yn sicr bod angen trwydded arnoch ar gyfer eich gweithgaredd, mae yna gamau penodol y dylech eu cymryd cyn eich bod yn anfon cais ffurfiol atom. Gallwch:
- ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear,
- gofyn am gymorth gennym, gan ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais.
Gwirio p'un a oes dŵr ar gael yn eich ardal
Dylech wirio bod digon o ddŵr ar gael yn eich dalgylch. Lawrlwythwch y strategaeth trwyddedu tynnu dŵr ar gyfer eich dalgylch i weld a oes dŵr ar gael at ddibenion tynnu dŵr.
Er mwyn diogelu defnyddwyr i lawr yr afon a'r amgylchedd, gallwn ei gwneud yn ofynnol i chi atal neu leihau eich tyniad dŵr os bydd y dŵr yn gostwng o dan lefel benodol. Os ydym yn gallu rhoi trwydded tynnu dŵr i chi, bydd hyn wedi'i amlinellu yn amodau eich trwydded. Hyd yn oed os ydym yn rhoi trwydded, nid oes sicrwydd y bydd y maint o ddŵr rydych wedi'ch awdurdodi i'w dynnu ar gael (gall hyn fod o ganlyniad i amodau amgylcheddol) neu y bydd ansawdd y dŵr yn addas at ddiben y drwydded.
Os nad oes dŵr ar gael, mae eich cais yn annhebygol o fod yn llwyddiannus oni bai eich bod yn dychwelyd yr holl ddŵr a dynnir i'r amgylchedd.
Os ydych am gael gwybodaeth bellach am y dŵr sydd ar gael a chyfyngiadau posibl o ran eich cynnig i dynnu dŵr, gallwch ofyn am ein gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais.
Dangos inni eich hawliau mynediad i'r man tynnu dŵr
Mae angen i chi ddangos i ni fod gennych 'hawl gwneud cais' pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded tynnu dŵr. I fodloni'r gofyniad hwn, mae'n rhaid i chi unai:
- fod yn berchen ar y tir;
- meddiannu / bod â hawl mynediad; neu
- fod â darpar hawl mynediad
Bydd y dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno gyda’ch cais yn dibynnu ar sut rydych yn bodloni'r gofyniad. Gweler 'Pa dystiolaeth sydd ei hangen arnaf i ddangos fy hawl mynediad i'r man tynnu dŵr?' am fwy o wybodaeth.
Safleoedd dynodedig
Os yw eich tyniad neu groniad dŵr arfaethedig yn debygol o effeithio ar safle cadwraeth dynodedig, yna bydd yn angenrheidiol cael gwerthusiad manwl o'i effeithiau ar yr amgylchedd, yn enwedig ei effeithiau ar y nodweddion dynodedig a'u statws cadwraeth.
Os oes angen, bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am ddarparu arolygon penodol i lywio gwerthusiad manwl o effeithiau tebygol cynnig. Mae ymgeiswyr yn debygol o'i chael hi'n ddefnyddiol nodi unrhyw ofynion o'r fath yn ystod y camau cynnar. Mae'n bosibl y byddwn yn gallu darparu gwybodaeth sy’n benodol i'r safle,
gan gynnwys gwybodaeth fonitro, a allai gynorthwyo ag asesu amcanion cadwraeth.
Defnyddwyr dŵr cyfagos
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau na fydd eich cynnig yn cael effaith ar unrhyw nodweddion neu fuddiannau dŵr (h.y. ffynhonnau, tyllau turio, tarddellau, nentydd neu byllau) yn yr ardal, gan gynnwys tyniadau dŵr trwyddedig ac anhrwyddedig.
Cynghorwn bob ymgeisydd i ymgynghori â defnyddwyr afon a grwpiau buddiant lleol eraill cyn cyflwyno cais. Dylech ystyried tynwyr cyfagos sydd wedi’u heithrio rhag trwyddedu, defnyddwyr dŵr eraill, genweirwyr a chanŵ-wyr y gallai eich cynnig effeithio arnynt.
Bydd adran iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol yn cadw manylion tynwyr dŵr domestig sydd wedi’u heithrio o dan y Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat. Anogir trafodaethau cynnar gydag unrhyw ddefnyddwyr dŵr cyn cyflwyno cais.
Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded tynnu neu gronni dŵr, byddwn yn cynnal asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn seiliedig ar eich cynnig. Byddwch yn ymwybodol y gallwn gysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth i'n helpu ni i asesu effaith eich cynnig neu i fynd i afael â phryderon a all godi. Gallai hyn arwain at oedi yn y cyfnod gwneud penderfyniad.
Safleoedd hanesyddol
Gallwch wirio p'un a allai eich cynnig gael effaith ar safleoedd o werth hanesyddol. Yng Nghymru, mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru yn cadw'r cofnodion amgylchedd hanesyddol. Dylech gysylltu â nhw i wirio p'un a allai eich cynnig gael effaith niweidiol ar unrhyw safleoedd hanesyddol.
Tyniadau dŵr Glandŵr Cymru
Noder, Glandŵr Cymru yn unig sydd â’r hawl i wneud cais am drwydded i dynnu dŵr o ddyfroedd mewndirol y mae’n berchen arnynt neu'n eu rheoli (gyda rhai eithriadau), er y gallai'r tynnwr ei hun fod yn drydydd parti. Gan hynny, gallwn ond ystyried ceisiadau ffurfiol a gyflwynwyd gan Glandŵr Cymru gan y sefydliad hwnnw fyddai deiliad unrhyw drwyddedau dilynol a roddir. Argymhellwn eich bod yn cysylltu â Glandŵr Cymru cyn gynted â phosibl i benderfynu p'un a yw hyn yn berthnasol i'ch cynnig, ac i drafod unrhyw broblemau posibl.
Tyniadau dŵr daear
Os ydych yn tynnu dŵr daear, darllenwch ein tudalennau ‘Dŵr daear’.