Adroddiad Blynyddol Chwythu'r Chwiban a Pherson Rhagnodedig 2022-23
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion am yr holl ddatgeliadau Chwythu'r Chwiban a dderbyniwyd gan CNC yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 ac unrhyw gamau gweithredu neu argymhellion cysylltiedig.
Mae CNC wedi ymrwymo i gynnal y safonau uchaf o onestrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Mae disgwyl y bydd pawb sy’n gweithio i CNC sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd o waith CNC yn gallu dod ymlaen i leisio’r pryderon hynny. Mae CNC wedi ymrwymo i gymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag unrhyw ddrwgweithredu a ddaw i’r amlwg.
Adroddiadau Chwythu'r Chwiban
Yn ystod y flwyddyn rhoddwyd gwybod am 20 o achosion posibl o chwythu'r chwiban drwy’r systemau chwythu'r chwiban. Cafodd pob achos ei ystyried yn unol â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban CNC. O’r 20 adroddiad hyn, cafodd 7 eu hadolygu a’u trin yn ffurfiol fel achosion o chwythu’r chwiban, roedd 9 yn ymwneud â materion y tu allan i CNC ac ni ystyriwyd bod 4 yn achosion o chwythu’r chwiban, fel sy’n cael ei ddiffinio gan Bolisi Chwythu’r Chwiban CNC, felly cawsant eu cyfeirio’n ôl at y busnes i’w trin yn fewnol.
Rhoddwyd gwybod am y 7 achos chwythu'r chwiban canlynol drwy weithdrefnau chwythu'r chwiban CNC rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023:
| Cyfeirnod yr Adroddiad | Natur yr Adroddiad / Maes Busnes | Cadarnhau neu ymchwilio i achos o chwythu'r chwiban | Camau a gymerwyd: | 
|---|---|---|---|
| WB012 | Caffael a dyfarnu contractau | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Dim | 
| WB013 | Achos o ddwyn gan Gwsmer CNC | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Dim | 
| WB015 | Rhannu gwybodaeth fasnachol sensitif yn amhriodol | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Dim | 
| WB016 | Rheoli gwastraff CNC ac adrodd Net Zero | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Gwnaed argymhellion ar gyfer gwelliannau | 
| WB018 | Prosesau pobl annheg yn cael eu cymhwyso | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Dim | 
| WB020 | Pryderon Iechyd a Diogelwch Gweithredol | N/A | Disgwyl i'r ymchwiliad ddod i ben | 
| WB024 | Trin data yn dwyllodrus a cham-adrodd camau rheoli | Achos ddim yn cael ei gadarnhau | Ymchwiliad annibynnol a gynhaliwyd gan Dîm Gwrth-Dwyll a Sicrwydd Llywodraeth Cymru | 
CNC fel Person Rhagnodedig ar gyfer Chwythu'r Chwiban
Daeth CNC yn ‘Berson Rhagnodedig’ yn 2020 ar ôl i Lywodraeth Cymru gysylltu ag ef. Mae Gorchymyn Personau Rhagnodedig 2014 yn nodi rhestr o 60 o sefydliadau y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd droi atynt i roi gwybod am achosion tybiedig o ddrwgweithredu neu rai y gwyddys amdanynt (chwythu’r chwiban). Mae’r sefydliadau a’r unigolion ar y rhestr fel arfer wedi’u dynodi’n bersonau rhagnodedig gan fod ganddynt berthynas awdurdodol neu oruchwyliol â’u sector, yn aml fel corff rheoleiddio. Mae’r Gorchymyn yn cael ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn, i sicrhau bod y rhestr yn parhau i fod yn gyfredol.
Derbyniwyd y 9 achos canlynol o Adroddiad Chwythu’r Chwiban - Person Rhagnodedig rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, er y cydnabyddir y gallai pryderon eraill fod wedi’u mynegi y tu hwnt i’r broses chwythu’r chwiban ffurfiol:
| Cyfeirnod yr Adroddiad | Sefydliad / Mater/ Corff a adroddwyd | 
|---|---|
| WB011 | Llygredd cyngor mewn penderfyniadau cynllunio | 
| WB019 | Llosgi gwastraff | 
| WB021 | Llygredd cwrs dŵr | 
| WB023 | Carthffosiaeth a llygredd | 
| WB025 | Cwympo coed | 
| WB026 | Troseddau amgylcheddol o ddympio ar fferm | 
| WB028 | Clirio coed yn anghyfreithlon | 
| WB030 | Arogleuon cyfleuster ailgylchu | 
| WB031 | Gorlwytho systemau carthffos | 
Yn adroddiad WB011, ni chadarnhawyd yr achos chwythu’r chwiban ac ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu.
Cyfeiriwyd yr holl achosion eraill at y timau trin digwyddiadau o fewn CNC a chawsant eu trin yn unol â phrosesau cwynion arferol. Nid oedd yr un o'r achosion ddigon mawr na digon difrifol i fod angen ymchwiliad chwythu'r chwiban ffurfiol.
Mae CNC hefyd yn derbyn adroddiadau y gellid eu hystyried yn Adroddiadau Unigolion Rhagnodedig drwy System Adrodd Digwyddiadau Cymru – caiff y rhain eu trin gan y timau rheoleiddio a gorfodi.