Parc Coedwig Coed y Brenin - Tyddyn Gwladys, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Maes parcio Tyddyn Gwladys yw'r porth i safleoedd enwog Rhaeadr Mawddach a Phistyll Cain.

Mae'r llwybr cylchol hwn hefyd yn mynd heibio'r gwaith aur Gwynfynydd a gaeodd ym 1999.

Yn y maes parcio, ceir byrddau picnic o dan goed mawr wrth ymyl afon droellog Mawddach.

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.

Llwybr Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur

  • Uchafbwyntiau: Mae’r rhaeadrau eu hunain yn gwneud y daith hon yn werth chweil.
  • Pellter: 2¼ filltir, 3.6 cilomedr
  • Gradd: cymedrol
  • Disgrifiad y llwybr: Dilynwch ffordd y goedwig tua’r gogledd ar hyd afon Mawddach drwy ddyffryn serth â choed mawr o’ch cwmpas, i gyfeiriad y rhaeadrau. Dilynwch yr arwyddbyst ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon a chroesi’r bont bren yn ôl i’r maes parcio.

Mae’r llwybr yn dilyn ffyrdd y goedwig bron i gyd, ag un darn o drac preifat garw iawn cyn i chi gyrraedd y rhaeadrau ac un llethr serth ond byr 20%/1 mewn 5 ar ôl eu gadael.

Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio plant bach a sgwteri symudedd.

Mae ddwy fainc ac ein bwrdd picnic ar hyd y llwybr hwn a dwy giât gyda lleoedd pasio 80cm o led.

Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys.

Llwybr sain

Darganfyddwch hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys, a hanesion y bobl weithiodd yno, gyda’n llwybr sain mp3.

Mae wedi’i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr y Rhaeadrau a llwybr y Mwyngloddiau Aur o faes parcio Tyddyn Gwladys.

Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.

Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.

I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma yn Nhyddyn Gwladys, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - y porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd. Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Pont Cae’n y Coed – dechrau'r Llwybr Llosgyfynydd garw
  • Glasdir – safle picnic gyda llwybr cerdded drwy’r hen gloddfa gopr a llwybr hygyrch i olygfan uwchben y gweithfeydd
  • Gardd y Goedwig – dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu
  • Tŷ'n y Groes– ardal bicnic glan-yr-afon a'r porth i lwybr glan-yr-afon pob gallu a llwybr mynydd garw â golygfeydd gwych dros Eryri

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae maes parcio Tyddyn Gwladys oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 734 262.

Cyfarwyddiadau

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae maes parcio Tyddyn Gwladys ar y dde ar ddiwedd y ffordd darmac ar ôl tua 1.5 cilomedr (byddwch yn gweld maes parcio Pont Cae'n y Coed ar y ffordd).

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin.  Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i'r chwith yn syth ar ôl yr arwydd terfyn cyflymder 40mya. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd i'r dde gydag afon Mawddach islaw. Mae maes parcio Tyddyn Gwladys ar y dde ar ddiwedd y ffordd darmac ar ôl tua 1.5 cilomedr (byddwch yn gweld maes parcio Pont Cae'n y Coed ar y ffordd).

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

Ffôn: 01341 440747

E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf