Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, ger Y Bermo

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’r systemau twyni tywod pwysicaf yng Nghymru oherwydd ei thywod noeth a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae twyni fel y rhain gyda’u hardaloedd tywod noeth yn dod yn gynyddol brin.

Mae’r gwynt yn symud ac yn ailffurfi’r twyni yn gyson ac maent yn cynnig cartref i blanhigion ac anifeiliaid prin a hynod arbenigol.

Yn ogystal â'r twyni tywod enfawr, mae ardaloedd glan y môr, morfa heli a glaswelltir, a phob un o'r cynefinoedd hyn yn gartref i amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt.

Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech i’r de, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd yr arfordir.

Ymweld â Morfa Dyffryn

Ceir dau lwybr cerdded o faes parcio Benar drwy’r warchodfa i’r traeth.

Mae’r llwybr pren o’r maes parcio’n mynd yn syth i’r traeth.

Mae’r llwybr o’r maes parcio’n mynd drwy’r llaciau i’r traeth agored.

Ar ddiwrnod clir gallwch fwynhau golygfeydd o Ben Llŷn a chipolwg o Ynys Enlli o’r darn hwn o arfordir Meirionnydd. 

Mae gan lwybr pren le i weld yr olygfa a mainc picnic ac mae meinciau picnic ym maes parcio.

Mae toiledau ym maes parcio (yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri ac ar agor yn dymhorol).

Traeth noethlymuno

Cofiwch fod rhan o’r warchodfa yn draeth noethlymuno dynodedig a cheir arwyddion priodol.

Cyfyngiadau tymhorol ar gŵn

Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf; mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa hel.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Morfa Dyffryn yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y gwanwyn

Mae hwn yn amser da i weld llawer o'r planhigion blodeuol sy'n tyfu yng nglaswelltir a llaciau’r twyni tywod.

Mae’r safle hwn yn gartref i sawl math o flodyn gwyllt, cen a mwsogl sy’n brin ac anghyffredin yn genedlaethol. Gallwch weld tegeirianau gwylltion hyfryd megis caldrist y gors yn tyfu ochr yn ochr â thegeirian y fign yn ogystal â’r tegeirian rhuddgoch.

Mae llu o flodau gwylltion eraill lliwgar i’w mwynhau o'r gwanwyn cynnar ymlaen. Bydd y Glustog Fair a’r ganrhi goch yn blodeuo’n gynnar a nifer o rywogaethau arfordirol eraill gan gynnwys tagaradr, y trilliw gwyllt a physen-y-ceirw yn blodeuo’n ddiweddarach.

Efallai hefyd y gwelwch chi glust-y-llygoden arfor, y tywodlys dail teim, llaethlys Portland llaethlys a pheisgwellt y twyni.

Mae cornchwiglod yn nythu yma ac mae’r cwtiad torchog hefyd yn magu ar ardaloedd o raean.

Yr haf

Daw’r misoedd cynhesach ag amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol i laswelltir a llaciau’r twyni tywod. Mae'r rhain yn cynnwys trilliw y twyni, rhwyddlwyni, teim, penigan y forwyn a thegeirianau.

Gallwch hefyd weld clystyrau o blanhigion eithaf prin fel y galdrist felynwerdd a’r glesyn-y-gaeaf deilgrwn – mis Gorffennaf neu fis Awst yw'r amser gorau i weld y rhain.

Mae’r haf hefyd yn amser prysur i lawer o infertebratau fel gwenyn turio a chwilod.

Edrychwch am loÿnnod byw fel copor bach, y fantell paun, a gweirlöyn y perthi neu wyfynod sy’n hedfan yn y dydd fel teigrod y benfelen a’r coedwyr.

Yr hydref

Mae glaswelltiroedd sychach y twyni’n gynefin da ar gyfer ffyngau ac fe welwch gasgliad trawiadol o ffyngau yma.

Dim ond yng nglaswelltiroedd twyni sydd wedi sefydlu ers amser maith fel y rhain ym Morfa Dyffryn y gwelwch chi gorseren ddaear.

Efallai hefyd y gwelwch chi capiau cwyr amryliw, ffyngau cwrel a phastwn, tafodau’r ddaear ac ambarelo’r bwgan.

Y gaeaf

Mae fflatiau tywod a morfa heli’r aber yn diroedd bwydo pwysig i adar dŵr yn ystod y gaeaf.

Fe welwch chi adar hirgoes ar y traeth ac, os edrychwch chi allan i’r môr, efallai y gwelwch chi wyachod a throchyddion sy’n gaeafu.

Mae rhywogaethau prin eraill o adar fel y frân goesgoch a’r boda tinwyn yn ymweld â’r warchodfa o dro i dro yn ystod y gaeaf.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Peidiwch â gwneud tyllau neu dwneli yn y twyni tywod - gall y tywod syrthio arnoch a’ch mygu.
  • Byddwch yn ofalus o ffensys sydd wedi eu claddu’n rhannol yn y twyni - gallant fod yn beryglus.
  • Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf; mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa heli.
  • Peidiwch â chyffwrdd â gweddillion milwrol - fe allant ‑rwydro! Ffoniwch yr Heddlu ar 999 pe baech yn gweld unrhyw beth amheus.
  • Mae anifeiliaid yn pori’r twyni a’r morfa heli – cadwch bellter rhyngddoch chi a hwy.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr pren yn wastad ac eang ac yn addas i gadeiriau olwyn.

Ceir toiledau hygyrch yn y maes parcio (ar agor yn dymhorol).

Mae’r ddau gyfleuster yn eiddo i Barc Cenedlaethol Eryri.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn 5 milltir i’r gogledd o'r Bermow.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar yr A496 o'r Bermow i Harlech.

Ar ôl pentref Tal-y-bont, trowch i’r chwith gyda’r arwydd brown i Ystâd Glan-môr Dyffryn at draeth Benar.

Mae maes parcio Benar ar ddiwedd y lôn un trac hwn (Ffordd Benar) ar ôl yr Ystâd Glan-môr Dyffryn.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 18.

Y cyfeirnod grid OS yw SH 572 227.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r orsaf drenau agosaf yn Nyffryn Ardudwy sydd filltir i ffwrdd.

Mae gwasanaeth bws o’r de (Y Bermow) a’r gogledd (Harlech) ar hyd yr A496.

Am ragor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae maes parcio Benar yn cael ei reoli gan Barc Cenedlaethol Eryri a chodir tâl am barcio.

Mae rhesel feiciau yn y maes parcio.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf