Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Rali Cambrian
Bydd yr holl lwybrau a’r maes parcio yma wedi cau ar ddydd Sadwrn, 24 Hydref.
Byddwch yn ymwybodol y bydd ffyrdd wedi cau ac na fydd mynediad i rai ardaloedd eraill ym Mharc Coedwig Gwydir yn ystod y cyfnod hwn.
Efallai y bydd mwy o draffig ar rwydwaith ffyrdd y goedwig ar ddydd Gwener 23 Hydref.
Dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau.
Mae llwybr cerdded yn dechcrau o faes parcio Ty'n Llwyn i raeadr enwog o'r enw Rhaeadr Ewynnol.
Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain drwy goetir i olygfan dros y rhaeadr - cewch olygfa fendigedig o’r ochr hon i’r afon felly peidiwch ag anghofio’ch camera.
Mae Ty’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
O’r maes parcio, dilynwch y llwybr sy’n disgyn drwy’r coetir a daw sŵn yr afon yn uwch wrth ichi agosáu at Raeadr Ewynnol a’r olygfan.

Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa i Foel Siabod.

Mae’r cyfleusterau yn Nhy'n Llwyn ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:
Mae Mainc Lifio ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-coed.
Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig.
Ewch heibio i faes parcio Gae’n y Coed a throwch i’r dde i’r is-ffordd gul yn union cyn y Tŷ Hyll.
Mae’r maes parcio bach milltir i fyny’r ffordd hon, ar y dde.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 765 583 (Explorer Map OL 17).
Y cod post yw LL24 0DH. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Betws-y-coed.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.