Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch

Beth sydd yma

O 30 Mawrth ymlaen, gellir talu i barcio yn ddigyswllt wrth y peiriant yn y maes parcio (ni fydd y peiriant yn derbyn arian parod), ar wefan RingGo neu ar ap RingGo. Bydd ffioedd yn berthnasol bob dydd o 6am tan 11:59pm. Bydd parcio’n cael ei oruchwylio gan gamerâu a chynorthwyydd parcio symudol. Ni fyddwn yn gwerthu tocynnau tymor nac yn rhoi pasys i drigolion nes bod y system barcio newydd yn dechrau ar 30 Mawrth.

 

Meysydd parcio sydd ar gau

 

  • Ar 9, 10 a 13 Mawrth bydd maes parcio Llyn Rhos Ddu ar gau o 7am tan 5pm i ganiatáu symud anifeiliaid.
  • Bydd maes parcio Cwningar ar gau ddydd Gwener 13 Mawrth oherwydd gwaith cwympo coed.

Croeso

Cafodd y twyni, y corsydd arfordirol, y glannau tywodlyd a chreigiog Niwbwrch eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr ac maent yn gartref i amrywiaeth syfrdanol o blanhigion ac anifeiliaid.

Cwningar Niwbwrch yw un o'r systemau twyni mwyaf a’r harddaf ym Mhrydain, ac ym 1955 Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn oedd y mannau arfordirol cyntaf yng Nghymru i gael eu dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.

Plannwyd y Coed pinwydd Corsica sy'n rhan o Goedwig Niwbwrch rhwng 1947 a 1965 er mwyn darparu pren ac i sefydlogi'r twyni tywod symudol. 

Llyn Parc Mawr yw un o’r mannau gorau yn Niwbwrch i gael cip ar un o’n mamaliaid prinnaf, y wiwer goch – darganfyddwch fwy amdanynt o’n paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr cerdded yma.

Mae Moryd Cefni a'r pyllau y tu ôl i arglawdd Pen Cob yn noddfa i adar a bywyd gwyllt arall ac oddi yma ceir golygfeydd ar draws y foryd dros ehangder o gors arfordirol, tywod agored a môr.

Gallwch gerdded yn unrhyw fan ar y traethau ac ar y rhwydwaith o lwybrau troed neu gallwch ddilyn un o'n llwybrau cerdded sydd wedi’u cyfeirbwyntio.

Mae yna hefyd llwybrau beicio, llwybr ffitrwydd a dau lwybr rhedeg.

Parcio

Ffioedd parcio

Mae ffioedd yn berthnasol bob dydd o 6am tan 11:59pm yn y meysydd parcio hyn:

  • Traeth Llanddwyn (y prif faes parcio ar gyfer y traeth a'r goedwig)
  • Meysydd parcio Airman a Chwningar (ar y ffordd fynediad i faes parcio Traeth Llanddwyn)

Mae’r ffioedd parcio fel a ganlyn:

  • 30 munud cyntaf neu ollwng rhywun: am ddim
  • hyd at 2 awr: £5
  • ar ôl 2 awr: £0.70 am bob 20 munud ychwanegol
  • drwy'r dydd: £15

Mae tocynnau tymor blynyddol ar gael.

Caiff deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim ond rhaid i chi arddangos eich Bathodyn Glas a:

  • sganio eich Bathodyn Glas wrth y rhwystr ymadael (hyd at 29 Mawrth)
  • cofrestru eich cerbyd gan ddefnyddio'r cod ar yr arwyddion ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas (o 30 Mawrth)

Ni chaiff unrhyw gerbydau barcio dros nos. Os byddwch chi'n parcio rhwng hanner nos a 6am, byddwch chi'n cael hysbysiad tâl parcio.

Sut i dalu i barcio (hyd at 29 Mawrth)

Rydych chi'n talu wrth adael wrth y rhwystr gyda cherdyn neu arian parod.

Sut i dalu i barcio, neu gofrestru eich cerbyd (o 30 Mawrth)

Rhaid i chi dalu neu gofrestru eich cerbyd i allu parcio am ddim erbyn hanner nos ar y diwrnod y byddwch yn ymweld. 

Gallwch wneud hyn:

  • wrth y peiriant yn y maes parcio pan fyddwch chi'n cyrraedd neu'n gadael gan ddefnyddio taliad digyswllt (nid yw'r peiriant yn derbyn arian parod)
  • ar ap RingGo
  • ar wefan RingGo

Tocynnau tymor i ymwelwyr

Mae tocyn tymor yn costio £70 y flwyddyn ac yn para am 12 mis o'r dyddiad y byddwch chi'n ei brynu.

Mae tocyn tymor yn caniatáu ichi barcio un cerbyd rhwng 6am a 11:59pm ar Draeth Llanddwyn (Niwbwrch), Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin a Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.

Nid yw'n cadw nac yn gwarantu lle parcio.

Hyd at 29 Mawrth, gallwch brynu tocyn tymor drwy ffonio ein Canolfan Cwsmeriaid ar 0300 065 3000.

O 30 Mawrth gallwch brynu tocyn tymor:

  • wrth y peiriant yn y maes parcio gan ddefnyddio taliad digyswllt (ni fydd y peiriant yn derbyn arian parod)
  • ar ap RingGo
  • ar wefan RingGo
  • drwy ffonio ein Canolfan Cwsmeriaid ar 0300 065 3000

Tocynnau tymor i drigolion Ynys Môn

Gall trigolion Ynys Môn brynu tocyn tymor i'w ddefnyddio yn ein maes parcio ar Draeth Llanddwyn yn unig am gost ostyngedig o £35.

Mae tocyn tymor yn caniatáu ichi barcio dau cerbyd rhwng 6am ac 11:59pm ar Draeth Llanddwyn ond nid yw'n cadw nac yn gwarantu lle parcio.

Mae tocyn tymor yn para am 12 mis o'r dyddiad y byddwch chi'n ei brynu.

I brynu tocyn tymor ar gyfer trigolion Ynys Môn:

  • ffoniwch ein Canolfan Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 (9am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) ac e-bostiwch gopi o dudalen flaen llyfr log eich cerbyd (V5C)
  • ewch i giosg y maes parcio yn Nhraeth Llanddwyn (9am tan 11am ddydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig) gyda llyfr log eich cerbyd (V5C)

Parcio am ddim i drigolion lleol

Gall pobl sy’n byw yn Niwbwrch, Dwyran, Llangaffo neu Falltraeth gofrestru hyd at ddau gerbyd i barcio am ddim yn ein maes parcio ar Draeth Llanddwyn. 

Mae hyn yn caniatáu ichi barcio rhwng 6am ac 11:59pm ond nid yw'n cadw nac yn gwarantu lle parcio.

Mae parcio am ddim yn para am 12 mis o'r dyddiad y byddwch yn cofrestru'ch cerbyd.

I gofrestru i gael parcio am ddim:

  • e-bostiwch ein tîm yn Niwbwrch gyda'ch enw, cyfeiriad a chopi o dudalen flaen llyfr log eich cerbyd (V5C)
  • ewch i giosg y maes parcio yn Nhraeth Llanddwyn (9am tan 11am ddydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig) gyda llyfr log eich cerbyd (V5C)

Hysbysiadau tâl parcio

Caiff parcio ei oruchwylio gan gamerâu a chynorthwyydd parcio symudol.

Byddwch yn cael hysbysiad tâl parcio gan First Parking o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nad ydych yn talu i barcio neu’n cofrestru eich cerbyd i barcio am ddim fel deiliad Bathodyn Glas neu breswylydd lleol
  • eich bod yn parcio'n anghywir (gweler yr arwyddion yn y maes parcio)
  • eich bod yn parcio dros nos

£100 yw’r tâl parcio. Caiff hyn ei ostwng i £60 os ydych chi'n talu o fewn 14 diwrnod.

I apelio yn erbyn hysbysiad tâl parcio, cysylltwch â First Parking.

Peidiwch â chysylltu â ni gan y gallai achosi oedi a golygu costau ychwanegol i chi.

Llwybrau cerdded

Mae llwybrau cerdded yn cychwyn o sawl un o'n meysydd parcio yn Niwbwrch.

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Saint, Tywod a Môr

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 4.4 milltir/7 cilomedr
  • Amser: 3 awr

Nodwch, os gwelwch yn dda:

  • gall Ynys Llanddwyn gael ei hamgylchynu’n llwyr gan y môr ar lanw uchel
  • dylech wirio amserau’r llanw cyn cychwyn ar hyd y llwybr hwn. Gwiriwch amserau’r llanw ar wefan y BBC
  • gall yr ynys fod yn agored iawn a dylech fod yn barod am dywydd gwael

Antur deuluol yw hon sy’n arwain i’r goedwig, y twyni a'r ynys.

Mae’r Llwybr Saint, Tywod a Môr yn rhoi cipolwg ar nodweddion daearegol a diwylliannol unigryw Niwbwrch, ynghyd â’i hanes a chwedl Santes Dwynwen.

Gallwch ymlwybro draw i ynys Ynys Llanddwyn ar lanw isel.

Llwybr sain

Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.

Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.

Ewch i waelod y dudalen hon i lawrlwytho'r llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.

Llwybr Darganfod Anifeiliaid

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.1 milltir/1.7 cilomedr
  • Amser: 45 munud-1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dechrau o faes parcio'r Traeth ac yn parhau ar rannau o ffordd garegog y goedwig a rhai llwybrau tywodlyd ac anwastad cyn dychwelyd i'r maes parcio.

Lawrlwythwch daflen o waelod y dudalen hon neu codwch daflen wrth gyrraedd.

Gadewch i'r plant arwain y ffordd wrth i chi chwilio am yr anifeiliaid a'r cliwiau ar hyd y llwybr.

Ewch i chwilio am yr ‘arwyddion diflannu’ ar hyd y llwybr, i gael ffeithiau diddorol am y bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardal.

Llwybr Treftadaeth y Tywysogion a Phinwydd

  • Dechrau: Maes parcio Cwningar
  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.3 milltir/5.3 cilomedr
  • Amser: 2 awr

Mwynhewch y daith gylchol hon trwy goedwig, twyni a thir fferm. 

Llwybr Golygfa’r Llyn

  • Dechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr
  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.2 milltir /0.3 cilomedr
  • Amser: 15 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr gwastad 1.5 medr o led sydd â wyneb dda a lleoedd pasio a mannau gorffwys bob 50 metr.

Dilynwch y llwybr ar draws y safle picnic i'r olygfan dros lyn cudd y goedwig.

Yno fe gewch wybodaeth am yr adar sy'n byw yma, neu arhoswch wrth un o'r byrddau picnic a cheisiwch weld y gwiwerod coch yn y coed.

Llwybr Darganfod Gwiwerod

  • Dechrau: Maes parcio Llyn Parc Mawr
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.5 milltir/2.4 cilomedr
  • Amser: 1 awr

Ar y llwybr fe welwch Sara'r wiwer goch a'i ffrindiau ac fe ddewch i wybod mwy am eu bywyd yn y goedwig o'n paneli gwybodaeth.

Ar y ffordd fe welwch rai golygfeydd gwych o'r llyn bywyd gwyllt a'r goedwig binwydd.

Llwybr Trem yr Aber

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.8 milltir/2.9 cilomedr
  • Amser: 1 awr

Cerddwch trwy'r goedwig ac ar hyd aber Afon Cefni gyda'i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt.

O'r ddwy wylfa sydd gennym, ceisiwch weld y gweilch di-ddal yn hela am bysgod yn yr haf, neu edrychwch ar hyd y morfa heli am ei hamrywiaeth o blanhigion e.e. y gorsen gyffredin, glaswellt brodorol talaf Prydain a ddefnyddid ar gyfer gosod toi gwellt.

Llwybr y Twyni

  • Dechrau: Maes parcio Braint neu faes parcio Llyn Rhos Ddu
  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.5 milltir/5.6 cilomedr
  • Amser: 2-3 awr

Mwynhewch y golygfeydd o'r Cwningar, draw tua'r mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir ynghyd â'r arddangosfa anhygoel o flodau gwyllt.

Llwybr sain

Dewch i ddysgu mwy am hanes lleol a chwedl Santes Dwynwen ar ein llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.

Rhennir y llwybr sain yn adrannau sy'n cyfateb i byst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr cerdded.

Ewch i waelod y dudalen hon i lawrlwytho'r llwybr sain MP3 Saint, Tywod a Môr.

Llwybrau beicio

Mae ein dau lwybr beicio yn ddelfrydol ar gyfer y teulu i gyd.

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Natur Cwest Beic

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 7.8 cilomedr
  • Amser: 2-3 awr

Codwch becyn gweithgareddau teulu o’r dosbarthwr yn y maes parcio.

Yna dilynwch y nodwyr llwybr a chwiliwch am y paneli gwybodaeth er mwyn ateb cwestiynau'r her natur.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybr Beicio Corsica

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Ffordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 9.9 cilomedr
  • Amser: 2-3 awr

Mae'r llwybr cylchol hwn sydd wedi'i gyfeirbwyntio yn dilyn ffyrdd y goedwig yn bennaf a cheir yma olygfeydd o'r aber.

Mae'n ymweld ag ardaloedd o goedwig gymysg, o goed pinwydd aeddfed i goedwigoedd helyg gwlyb, ac mae’n mynd heibio i byllau, creigiau anarferol a blodau gwyllt.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r llwybr hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilm i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallai fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilm ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Llwybrau rhedeg

Mae dau lwybr rhedeg wedi cael eu harwyddo o faes parcio’r Traeth yn Niwbwrch.

Mae’r llwybr rhedeg 5km, sy’n seiliedig ar lwybr y Parkrun wythnosol poblogaidd, yn gyflwyniad ardderchog i redeg.

Mae Llwybr Rhedeg y Gymanwlad yn dilyn rhan o lwybr ras swyddogol pencampwriaeth redeg a gynhaliwyd yma yn 2011.

Llwybr Rhedeg 5km

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 3 milltir/5 cilomedr
  • Amser: 30 munud-1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst glas trwy’r goedwig ar gymysgedd o yrdd coedwig ag arwyneb da a llwybrau cul ar dywod rhydd lle ceir rhywfaint o wreiddiau coedamlwg. Ni cheir grisiau na giatiau ar hyd y ffordd.

Cyflwyniad hawdd i redeg llwybrau wedi’i seilio ar lwybr poblogaid ‘Parkrun’ sy’n digwydd yn wythnosol.

Mwynhewch olygfeydd y goedwig wrth eich pwysau neu ewch ati i wella eich cyflymder a’ch gwytnwch cororol o amgylch y llwybr.

Llwybr Rhedeg y Gymanwlad

  • Dechrau: Maes parcio’r Traeth
  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 8.5 milltir/13.6 cilomedr
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cynnwys ffyrdd caregog y goedwig, llwybrau cul ar dywod gyda gwreiddiau coed agored, tywod a graean rhydd, glaswelltir anwastad a thir creigiog.

Yn 2011, daeth Pencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd a Phellter Eitha’r Gymanwlad i Ogledd Cymru a chynhaliwyd y ras llwybr Pellter Eithaf 55 cilomedr yn Niwbwrch. Heddiw gallwch redeg (neu gerdded!) rhan o lwybr y ras swyddogol.

Mae'r llwybr rhedeg sydd wedi'i gyfeirbwyntio o faes parcio'r Traeth, yn arwain trwy'r goedwig heddychlon, twyni helaeth y Gwningar ac ymlaen i ynys Ynys Llanddwyn.

‘Parkrun’ Coedwig Niwbwrch

Mae ‘Parkruns’ yn ddigwyddiadau cymunedol wythnosol a rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnal ym mhob cwr o’r byd.

Cynhelir Parkrun Coedwig Niwbwrch bob dydd Sadwrn am 9 o’r gloch y bore.

Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim ond mae rhaid cofrestru cyn dod draw.

Mae Parkrun Coedwig Niwbwrch yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr ac mae croeso i bawb beth bynnag fyddwch yn ei wneud – cerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Parkrun Coedwig Niwbwrch, gan gynnwys sut i gofrestru a sut i wirfoddoli yn y digwyddiad, ewch i wefan Parkrun.

Llwybr ffitrwydd

  • Dechrau: Maes parcio Traeth Cwningar
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.7 milltir/2.7 cilomedr
  • Amser: 2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae yn daith weddol wastad ar hyd ffyrdd coedwig a llwybrau tywodlyd gyda rhai gwreiddiau coed yn y golwg. 

Cyfle i ddod yn fwy heini drwy ddefnyddio'r 11 safle ymarfer corff yn y goedwig.

Mae panel cyfarwyddiadau ar bob safle ymarfer corff a mainc i orffwys arni gerllaw.

Mae dwy o’r gorsafoedd ymarfer corff yn hygyrch.

Cyfeiriannu

Profwch eich sgiliau darllen mapiau trwy gyfeiriannu rhwng y pyst marcio pren (a elwir yn "rheolyddion" gan gyfeiriadurwyr) ar un o'r tri chwrs cyfeiriannu parhaol yng Nghoedwig Niwbwrch.

Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd yn deall map a chyfeirianwyr profiadol a chi sydd i benderfynu pa mor fuan rydych chi'n cwblhau cwrs.

Mae'r cyrsiau wedi'u graddio i safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain ac fe'u lluniwyd gan Gyfeirianwyr Eryri.

Mae pob un o’r tri llwybr yn cychwyn i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ardal barcio (Maes parcio'r Traeth) ac yn gorffen yn y llannerch i'r de-ddwyrain o'r brif ardal barcio.

Cwrs oren

  • Gradd: Canolig
  • Pellter: 2.5 cilomedr

Mae'r cwrs Oren yn ganolig o ran anhawster ac mae'n addas ar gyfer dechreuwyr sy'n gallu darllen map.

Mae 9 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs gwyrdd

  • Gradd: Caled iawn
  • Pellter: 5 cilomedr

Mae'r cwrs Gwyrdd yn gofyn am gyfeiriannu anodd yn dechnegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 12 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Cwrs glas

  • Gradd: Caled iawn
  • Pellter: 6.7 cilomedr

Mae'r cwrs Glas yn gofyn am gyfeiriannu technegol ac mae'n addas ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

Mae 18 rheolydd i ymweld â nhw ar y cwrs.

Mwy o wybodaeth

  • Lawrlwythwch y mapiau, cyfarwyddiadau ac atebion oddi wrth waelod y dudalen hon
  • Prynwch fersiwn maint A3 o'r map, wedi'i argraffu ar bapur gwrth-ddŵr ar raddfa 1: 7,500, gyda chyfarwyddiadau a atebion o'r ciosc ger rhwystr mynedfa maes parcio’r Traeth yn ystod oriau agor neu e-bostiwch ein tîm cwsmeriaid.

Marchogaeth

Mae angen i chi wneud cais am drwydded am ddim i farchogaeth ceffylau yng Nghoedwig Niwbwrch.

Bydd angen y canlynol:

  • enw’r person sy’n marchogaeth
  • tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn dangos y canlynol:
    • eich enw
    • dyddiadau’r yswiriant
    • cyfanswm yr yswiriant (isafswm o £5 miliwn)


Llwybrau marchogaeth

""

Mae llwybrau marchogaeth yn cychwyn o faes parcio Pen Cob.

Mae arwyddbyst ar y llwybrau o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Mae’r ddau lwybr yn eich arwain drwy gymysgedd o binwydd hen ac ifanc ar hyd llwybrau hawdd ac yn dilyn rhan o’r hen lôn bost i Ynys Llanddwyn.

Trot y Postmon

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 6.5 milltir/10.5 cilomedr
  • Amser: 2-4 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybrau yn dilyn ffyrdd cerrig y goedwig yn bennaf a llwybrau tywod lle bydd gwreiddiau amlwg mewn mannau.

Mwynhewch ardal hardd ac unigryw Coedwig Niwbwrch ar gefn ceffyl.

Trot y Goedwig

  • Dechrau: Maes parcio Pen Cob
  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 7.3 milltir/11.8 cilomedr
  • Amser: 2-4 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybrau yn dilyn ffyrdd cerrig y goedwig yn bennaf a llwybrau tywod lle bydd gwreiddiau amlwg mewn mannau.

Darganfod golygfeydd, bywyd gwyllt a threftadaeth ar hyd y llwybr.

Beth sydd i'w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae twyni Cwningar a thraeth Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol sydd hefyd yn cynnwys ardaloedd mawr o forfa heli a gwastadeddau tywod arfordirol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Y twyni

Mae'r twyni uchel a'r pantiau twyni sy’n gorlifo’n dymhorol (llaciau yw’r new arnynt) yn y fan hon yn ganlyniad i'r dirwedd sy'n datblygu’n barhaus ac a luniwyd gan filoedd o flynyddoedd o stormydd, llanwau a natur.

Mae'r twyni tywod yn gymysgedd gyfoethog o bantiau llaith, glaswelltir a choetir twyni ifanc o helyg a bedw.

Mae’r twyni a arferai symud, wedi ‘sefydlogi’ yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi’u gorchuddio â phlanhigion o ganlyniad i lygredd aer, patrymau tywydd newidiol a llai o gwningod ac anifeiliaid pori.

Golyga hyn ostyngiad enfawr yn y tywod noeth, cynefin sy'n hanfodol i oroesiad rhai o'n planhigion a'n pryfed prinnaf, fel llysiau’r afu petalog a gwenynen durio’r gwanwyn.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym wedi dechrau ail-greu ardaloedd o dywod noeth ar hyd y morlin gan ddefnyddio peiriannau mawrion ac mae llawer o’r twyni’n cael eu pori â merlod a gwartheg er mwyn cadw llystyfiant y twyni yn fyr ac yn gyfoethog o flodau gwyllt. Arferai cwningod wneud hyn nes bod mycsomatosis yn peri i'w niferoedd ostwng.

Ynys Llanddwyn

Mae Ynys Llanddwyn yn fan sy'n gyforiog mewn treftadaeth, llên gwerin, daeareg a bywyd gwyllt.

Mae'r creigiau ar yr ynys lanw hon ymhlith yr hynaf yng Nghymru - cadwch olwg am y brigiadau nodedig o lafa gobennydd sydd ar y traeth.

Mae Ynys Llanddwyn yn gartref i adfeilion eglwys hynafol sydd wedi'i chysegru i Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gallwch ddysgu mwy am chwedl Dwynwen ar ein llwybr sain y gallwch ei lawrlwytho i'w ddefnyddio ar y llwybr cerdded Saint, Tywod a Môr.

Beth i'w weld yn yr haf

Yn ystod misoedd yr haf mae’r twyni wedi’u gorchuddio gan filoedd o flodau lliwgar ac yn eu plith ceir tegeirianau prin ac maen nhw’n fwrlwm o bryfetach ac adar.

Gwrandewch am gân yr ehedydd yn uchel uwchlaw’r warchodfa a thrydar y llwydfronnau, clochdar y cerrig a’r llinosiaid yn y twyni a'r coetir agored.

Beth i'w weld yn yr hydref a'r gaeaf

Yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf mae’r pibydd coesgoch a'r corgwtiad yn ymuno â’r adar gwyllt mudol e.e. gwyddau Brent, hwyaden yr eithin a’r chwiwell ar y morfa heli a'r aber.

Mae adar fel yr hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid a’r cornchwiglod, sy’n dod yma i ddianc rhag gaeafau llymach yr Arctig, yn ymweld â'r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob. 

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Niwbwrch.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.

Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.

Gwybodaeth hygyrchedd

Cyfleusterau hygyrchedd

  • lle parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas
  • toiledau hygyrch ym maes parcio'r Traeth
  • dwy o’r gorsafoedd ymarfer corff ar y Llwybr Ffitrwydd o fewn cyrraedd cadair olwyn
  • Llwybr Golygfa’r Llyn (llwybr hygyrch o faes parcio Llyn Parc Mawr)

Parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas

Caiff deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim ond rhaid i chi arddangos eich Bathodyn Glas a:

  • sganio eich Bathodyn Glas wrth y rhwystr ymadael (hyd at 29 Mawrth)
  • cofrestru eich cerbyd gan ddefnyddio'r cod ar yr arwyddion ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas (o 30 Mawrth)

Mynediad dros y twyni tywod ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn

Gall pobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn groesi’r twyni tywod ar Mobi-Mat i'w galluogi i gael gwell golygfeydd o'r traeth a'r arfordir.

Mae'r Mobi-Mat wedi'i leoli wrth ymyl maes parcio'r Traeth, ger yr ardal wybodaeth.

Mae'r Mobi-Mat wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu ac mae ei wyneb yn athraidd a fydd yn helpu i atal tywod rhag casglu arno. Gellir ei ailosod yn y dyfodol i addasu i unrhyw newidiadau naturiol yn y tywod symudol sy'n ffurfio'r system twyni tywod yn Niwbwrch.

Llwybrau yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol

Mae Llwybr Natur Cwest Beic a Llwybr Beic Corsica yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer addasol.

Mae offer addasol yn cynnwys beiciau addasol, cadeiriau olwyn addasol a sgwteri symudedd.

Rydym wedi cynhyrchu ffilmiau i'ch helpu i ganfod pa mor addas i chi y gallent fod cyn i chi ymweld.

I wylio’r ffilmiau ewch i’r dudalen Llwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasol

Cyfyngiadau cŵn tymhorol

Mae llawer o lwybrau yn y goedwig ac ardaloedd eang o'r traeth lie croesewir cwn drwy gydol y flwyddyn.

Sylwer y cyfyngiadau tymhorol hyn isod.

Ceir panel gwybodaeth a map ym maes parcio’r Traeth sy’n dangos ymhle mae’r cyfyngiadau hyn yn weithredol.

Ynys Llanddwyn (1 Ebrill tan 1 Medi)

  • cadwch gwn ar dennyn byr
  • cadwch at y llwybrau sydd wedi'u marcio i helpu i warchod adar sy'n nythu ar lawr

Traeth Baner Las (1 Mai tan 30 Medi)

  • dim cŵn

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae Niwbwrch yn goedwig weithredol - bydd rhai ardaloedd ar gau er diogelwch pan fydd coed yn cael eu cwympo neu bren yn cael ei symud felly dilynwch bob arwyddion rhybudd.
  • Byddwch yn ymwybodol o fwd/tywod meddal sy’n suddo a pheidiwch â mynd allan i’r foryd – mae’r llanw yn gallu eich ynysu’n gyflym.
  • Gall Ynys Llanddwyn fod yn agored iawn ac mewn llanw uchel gall gael ei hamgylchynu gan ddŵr.
  • Byddwch yn barod am dywydd gwael a gwiriwch amseroedd y llanw.
  • Peidiwch â chffywrdd ag unrhyw weddillion milwrol – gallai ffrwydro! Rhowch wybod i’r Heddlu am unrhyw bethau amheus drwy ffonio 999.
  • Peidiwch â phalu tyllau neu dwneli yn y twyni tywod - mae tywod yn gallu dymchwel a’ch mygu chi.
  • Nid oes gwasanaeth achub bywyd ar y traeth yma.
  • Peidiwch â bwydo na mynd at dda byw.
  • Dim gwersylla - mae meysydd gwersylla swyddogol gerllaw.
  • Dim tanau agored.
  • Gwelir y wybodaeth am gyfyngiadau cŵn tymhorol ar y dudalen we hon ac ar y panel gwybodaeth ym maes parcio’r Traeth.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Toiledau

Mae'r toiledau ym maes parcio'r Traeth ar agor un arferol:

  • 8am tan 6pm yn yr haf (BST)
  • 8.30am tan 4pm yn y gaeaf (GMT)

Lluniaeth

Mae fan hufen iâ a fan arlwyo ym maes parcio'r Traeth ar yr amserau hyn:

  • 11am tan 4pm bob penwythnos (1 Ebrill a 30 Medi)
  • 11am tan 4pm bob dydd (gwyliau haf yr ysgol)

Nodwch, os gwelwch yn dda, bod yr amserau hyn yn amodol ar y tywyd.​

Sut i gyrraedd yma

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Mae'n 13 milltir o Fangor mewn car.

Mae ar fap Explorer 263 yr Arolwg Ordnans.

Mae sawl maes parcio yma:

  • gweler yr wybodaeth ar y dudalen hon am bob llwybr er mwyn darganfod o ba faes parcio y mae'n cychwyn. 
  • ewch i waelod y dudalen hon i lawrlwytho map o leoliadau’r meysydd parcio.
  • dilynwch y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Prif faes parcio (Traeth Llanddwyn) a meysydd parcio Airman a Chwningar

Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.

Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.

Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, sydd wedi’i arwyddo Niwbwrch.

Dilynwch yr A4080 nes cyrraedd pentref Niwbwrch.

Trowch i'r chwith ar yr isffordd, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn am 'Ynys Llanddwyn.

Ar ôl ¾ milltir, mae'r ffordd yn cyrraedd rhwystr mynedfa'r maes parcio lle bydd camera ANPR yn darllen rhif cofrestru eich cerbyd.

Mae maes parcio Airman ar y chwith 450 metr ar ôl rhwystr y fynedfa ac mae maes parcio Cwningar 500 metr arall ar y dde.

Mae maes parcio’r Traeth ar ddiwedd y ffordd, tua 1¼ milltir o rwystr y fynedfa. 

 

  • cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio’r Traeth: SH 405 634 (Explorer Map 263)
  • cod post ar gyfer maes parcio’r Traeth LL61 6SG (sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa)

Edrychwch ar faes parcio’r Traeth ar wefan What3Words.

Meysydd parcio Braint a Llyn Rhos Ddu

Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.

Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.

Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.

Parhewch ar hyd yr A4080 am tua 7 milltir nes cyrraedd y gylchfan ychydig cyn pentref Niwbwrch.

Ewch yn syth ymlaen yn y gylchfan.

Ar gyfer maes parcio Braint trowch i'r chwith yn syth i isffordd ac mae'r maes parcio tua 650 metr ar y chwith.

Ar gyfer maes parcio Llyn Rhos Ddu, ewch yn syth ymlaen ar ôl y gylchfan ar hyd yr isffordd hon am tua 350 metr ac mae'r maes parcio ar ddiwedd y ffordd. 

 

  • cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Braint: SH 431 643 (Explorer Map 263)
  • cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Llyn Rhos Ddu: SH 426 647 (Explorer Map 263)
  • cod post ar gyfer ddau faes parcio: LL61 6RS (sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa)

Edrychwch ar faes parcio Braint ar wefan What3Words.

Edrychwch ar faes parcio Llyn Rhos Ddu ar wefan What3Words.

Maes parcio Pen Cob (Malltraeth)

Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.

Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.

Ar ôl ½  milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.

Ewch ymlaen trwy bentref Niwbwrch, heibio coetir Llyn Parc Mawr ac mae maes parcio Pen Cob ym mhen 250 metr arall ar y chwith. 

 

  • cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio: SH 411 671 (Explorer map 263)
  • cod post ar gyfer y maes parcio: LL62 5BA (sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa)

Edrychwch ar faes parcio Pen Cob ar wefan What3Words.

Maes parcio Llyn Parc Mawr

Cymerwch yr A55 o Fangor i gyfeiriad Caergybi.

Ewch dros Bont Britannia i Ynys Môn a chymryd yr A5 i gyfeiriad Lanfairpwll.

Ar ôl ½ milltir, trowch i'r chwith ar yr A4080, gan ddilyn arwydd Niwbwrch.

Ewch ymlaen trwy bentref Niwbwrch ac ar ôl milltir arall, mae maes parcio Llyn Parc Mawr ar y dde. 

 

  • cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio: SH 413 669 (Explorer map 263)
  • cod post ar gyfer y maes parcio: LL61 6SU (sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa)

Edrychwch ar faes parcio Llyn Parc Mawr ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsafoedd rheilffordd agosaf yw Bangor a Chaergybi.

Mae arhosfan trên, ar gais a heb ei staffio, ar gael ym Modorgan, sydd tua phedair milltir o bentref Niwbwrch.

Mae safle bws yn y pentref.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Manylion cyswllt

Mae’r ciosc ger rhwystr maes parcio’r Traeth ar agor ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig o 9am tan 11am (oni bai fod yr aelod o staff yn ymdrin â digwyddiad brys ar y safle).

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf