Parc Coedwig Gwydir - Llyn Crafnant, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Saif Llyn Crafnant mewn dyffryn prydferth lle mae ymyl ogleddol Coedwig Gwydir yn cwrdd â llethrau isaf mynyddoedd Carneddau.

Cronfa ddŵr yw Llyn Crafnant mewn gwirionedd - arferai gyflenwi dŵr i dref gyfagos Llanrwst.

Mae Llyn Crafnant yn dri chwarter milltir o hyd ac wrth ran uchaf Llyn Crafnant ceir un o'r golygfeydd gorau yn y gogledd, ar draws y llyn i'r mynyddoedd uwchlaw.

Y maes parcio yw man cychwyn tri llwybr cerdded ag arwyddbyst, gan gynnwys un ohonynt sy’n llwybr hygyrch, a gallwch hefyd gerdded o'r fan hyn i lyn cyfagos Llyn Geirionydd.

Mae caffi glan y llyn dan berchnogaeth breifat ac mae ar agor rhwng y Pasg a diwedd yr haf.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Crwydro Afon Crafnant

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 cilomedr
  • Dringo: Gwastad
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr:  Mae gan y llwybr hwn, sy’n 1.2 medr o led, arwyneb da a graddiant hawdd ac mae’n addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae’r pedair mainc bicnic o fewn 100 medr i’w gilydd - a thair ohonynt yn addas i gadeiriau olwyn.

Profwch y llwybr byr hawdd, sy’n addas i’r teulu oll, gan droelli drwy amrywiaeth o goed, o gonwydd tal i fedw ifainc ac ardal laswelltog agored wrth ymyl afon fyrlymus.

Eisteddwch wrth un o’r meinciau picnic sydd mewn safleoedd da i wrando a gwylio am fywyd gwyllt.

Neu ewch i chwilio am yr ‘arwyddion diflannu’ ar hyd y llwybr, i gael ffeithiau diddorol am y coed a’r bywyd gwyllt sy’n byw yn yr ardal.  

Cylchdaith Llyn Crafnant

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 3¼ milltir, 5 cilomedr
  • Dringo: 94 medr
  • Amser: 1-2 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn cymysgedd o lwybrau llydan, ffyrdd tarmac a choedwig, gyda rhai darnau mwy garw wrth ymyl y llyn. Ar hyd y llwybr mae tair giât mochyn a dwy giât. 

Cymerwch i fewn yr olygfa ar draws y llyn i’r clegyrau ym mhen Dyffryn Crafnant a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Glas Crafnant.

Dilynwch y llwybr sy’n dringo’r dyffryn yn raddol; mae’r olygfa wedi’i fframio gan glegyrau a hen fwyngloddiau llechi.

Math prin o goetir onnen yw’r coetir ar y clogwyni serth uwchben.

Nid oes llwybrau o gwbl drwy’r warchodfa serth iawn, felly o’r llwybr hwn y ceir ei gweld orau.

Dychwelwch i’r maes parcio drwy ddilyn y ffordd darmac. 

Golygfa Crafnant

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/4.8 cilomedr
  • Dringo: 295 medr
  • Amser: 1½-2½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr ar gyfuniad o ffyrdd coedwig, ffordd darmac, a llwybr troed cul serth, yn llai nag 80cm o led, sy’n anwastad a garw dan droed, gyda mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae hefyd dwy ryd fechan i’w croesi, giât mochyn a rhwystr gyda bwlch i’r ochr. Mae mainc yn yr olygfan lle gallwch ddal eich anadl ac edmygu’r olygfa.

Edmygwch yr olygfa banoramig ar draws Dyffryn Crafnant, a chadwyn mynyddoedd Carneddau yn dod i’r golwg y tu ôl.

Dringwch y llwybr coedwig yn raddol i gyrraedd mainc foncyff, ac oddi yma mwynhewch yr olygfa o Grimpiau a Chraig Wen ar draws y dyffryn.

Ewch ymlaen nes bod y cyfeirbwyntiau’n eich anfon ar lwybr coedwig cul.

Byddwch yn synhwyro newid awyrgylch wrth ichi gamu i gysgod a distawrwydd dwys planhigfa byrwydd.

Ar wahân i ambell grawc gan sgrech y coed, mae’r llonyddwch yn gyferbyniad dymunol i’r suo o gwmpas y llyn ar ddiwrnod prysur.

Llwybr Crafnant i Geirionydd

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 5 milltir/8 cilomedr
  • Dringo: 300 metr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr ar gyfuniad o ffyrdd coedwig, ffordd darmac, a llwybr troed cul serth, yn llai nag 80cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, a gallwch ddisgwyl llaid mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae dwy ryd fechan i’w croesi a giât mochyn yn union cyn ichi gwrdd â ffordd y cyngor. Mae hefyd dau rwystr coedwig y bydd angen ichi gerdded o’u hamgylch gyda bwlch o ryw 70cm ar yr ochr. Mae meinciau picnic a thoiledau yn y ddau faes parcio, ac un fainc yn yr olygfan uwchlaw Crafnant.

Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy’r goedwig ac yn cysylltu’r ddau lyn.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Llyn Crafnant ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau yn Llyn Crafnant ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:

  • parcio ar gyfer deiliad bathodynnau glas
  • llwybr hygyrch Crwydro Afon Crafnant
  • toiledau hygyrch

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor arferol.

Mae'r toiledau ar agor drwy'r amser.

Mae'r caffi wrth ymyl y llyn (perchenogion preifat) ar agor o'r Pasg tan ddiwedd yr haf.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Llyn Crafnant 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Llyn Crafnant ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 756 618.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch y B5106 o Lanrwst i Drefriw.

Yn Nhrefriw, cymerwch y ffordd fach ar y chwith gyferbyn â’r dafarn.

Dilynwch y ffordd gul hon am 2 filltir hyd nes i chi gyrraedd y maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Lleolir maes parcio a thoiledau Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig cyn i'r ffordd gyrraedd y llyn.

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Canllaw Golygfa Crafnant PDF [399.7 KB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf